Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y Diweddaraf ar Frechlynnau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Y Diweddaraf ar Frechlynnau
Pobl a lle

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 12, 2022 4:53 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Booster
RHANNU

Erthyl Gwadd – Cyfarwyddwr Gweithredol Darpariaeth Glinigol Integredig

Cynnwys
  • Lleihau’r cyfnod rhwng derbyn ail ddos i’r rhai rhwng 12 a 17 oed
  • Brechu plant rhwng 5 a 11 oed mewn grwpiau risg glinigol neu sy’n cael cyswllt ar yr aelwyd â rhywun sydd â system imiwnedd wannach

Hyd yma, rydym wedi rhoi pigiad atgyfnerthu i 78 y cant o oedolion cymwys, sy’n golygu ein bod ychydig ar y blaen o gymharu â’r cyfartaledd yng Nghymru.

Er gwaethaf y llwyddiant hwn, mae dal i fod rhyw 100,000 o bobl sy’n gymwys i dderbyn pigiad atgyfnerthu nad ydynt wedi dod atom eto. Rwy’n annog y bobl hyn i gofio nad yw dau ddos o frechlyn COVID-19 yn cynnig amddiffyniad cryf yn erbyn haint symptomatig oherwydd amrywiolyn Omicron. Bydd pigiad atgyfnerthu yn eich helpu i fagu gwrthgyrff – gan gynnig hyd at 70 y cant o amddiffyniad. 

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Byddwn yn anfon neges destun at bawb sy’n gymwys i dderbyn dos cyntaf, ail ddos neu bigiad atgyfnerthu er mwyn eu hannog i fynd i unrhyw rai o’n clinigau galw heibio cyn gynted â phosibl. Bydd y rhai sy’n dod atom dros y diwrnodau sydd i ddod yn gweld y mymryn lleiaf o giwio – felly gallent gael eu brechu mewn mater o bum munud yn unig.

Gwyddom nad yw llawer o bobl yn gallu derbyn eu brechlyn gan fod ganddynt COVID-19 ar hyn o bryd neu gan eu bod wedi cael canlyniad prawf positif o fewn y 28 diwrnod diwethaf. Rydym yn annog y bobl hyn i fynd i’n clinigau galw heibio cyn gynted ag y bydd eu cyfnod o 28 diwrnod yn dilyn canlyniad prawf positif wedi dod i ben.

Lleihau’r cyfnod rhwng derbyn ail ddos i’r rhai rhwng 12 a 17 oed

Rydym wedi lleihau’r cyfnod gofynnol i dderbyn ail ddos ar gyfer y rhai rhwng 12 a 17 oed o 12 i 8 wythnos, yng ngoleuni’r nifer fawr o achosion Omicron yn ein cymunedau. Mae hyn yn gyson â chyngor gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a chytunwyd ar hyn ar lefel genedlaethol.

Os ydych rhwng 12 a 17 oed a bod wyth wythnos wedi heibio ers i chi gael eich dos cyntaf o’r brechlyn rhag COVID, peidiwch ag aros am wahoddiad i apwyntiad ar gyfer eich ail ddos. Ewch i’n tudalen we i gael manylion am glinigau galw heibio sy’n cynnig brechiadau i’r grŵp oedran hwn a dewch atom cyn gynted ag y byddwch yn gymwys i wneud hynny.

Brechu plant rhwng 5 a 11 oed mewn grwpiau risg glinigol neu sy’n cael cyswllt ar yr aelwyd â rhywun sydd â system imiwnedd wannach

Ar 22  Rhagfyr 2021, gwnaeth JCVI argymell cynnig dau ddos o’r brechlyn rhag COVID-19 i blant rhwng 5 a 11 oed mewn grwpiau risg glinigol a’r rhai sy’n cael cyswllt ar yr aelwyd â rhywun sydd â system imiwnedd wannach.

Rydym yn disgwyl dechrau cynnig brechiadau i’r grŵp bach o blant yma o 22 Ionawr, unwaith y bydd rhagor o wybodaeth wedi dod i law am y dos sydd ei angen.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwiriad treth newydd ar gyfer y diwydiant tacsis, cerbydau hurio preifat a metel sgrap Gwiriad treth newydd ar gyfer y diwydiant tacsis, cerbydau hurio preifat a metel sgrap
Erthygl nesaf Wrecsam DIWEDDARAF: Gallwn rŵan rhannu lle fydd ein bws Dinas Diwylliant blaenllaw

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 17, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod
Pobl a lle
Awst 17, 2026
Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam

Awst 12, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English