Mae’n siŵr eich bod chi’n dechrau meddwl am brynu anrhegion Nadolig bellach 🙂
Rydyn ni i gyd yn hoff o gael anrhegion, ond mae prynu rhai i bobl eraill yn medru bod yn anodd ac yn destun tipyn o straen… mae yna rywun bob tro sy’n anodd ei blesio.
Efallai’ch bod yn chwilio am rywbeth arbennig, rhywbeth gwahanol i’r hyn y dewch chi o hyd iddo yn y siopau mawr.
Peidiwch â phoeni – rydyn ni’n gwybod am le da ichi 🙂
Canolfan Groeso Wrecsam
Ie, os ydych chi’n brin o ysbrydoliaeth eleni, eich Canolfan Groeso yw’r lle i siopa am eich anrhegion Nadolig…
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Mae yno bethau bendigedig ar werth a fyddai’n anrhegion Nadolig gwerth eu cael, ond ble i ddechrau?
Pecyn Anrheg Aber Falls
Mae’r Ganolfan Groeso’n cynnig bargen dda ar becyn anrheg Aber Falls ar hyn o bryd, sy’n cynnwys pump o wahanol fathau o jin a gwirodydd.
I’r rhai hynny ohonoch nad ydych chi wedi clywed am Aber Falls, mae’r cynnyrch i gyd yn cael ei wneud a’i botelu yng ngogledd Cymru. Felly dyma ichi anrheg â blas arno, a stamp lleol.
Os ydych chi’n chwilio am rywbeth mwy lleol fyth, beth am y pecyn anrheg Cwrw Wrecsam sydd ar gael yn y sêl?
Neu ydych chi eisiau rhywbeth heb alcohol? Mae digonedd o bethau felly yno hefyd 🙂
Siocled Aballu
Anghofiwch am y cwmnïau mawr, dyma ichi’r siocled gorau a gewch chi yng ngogledd Cymru!
Fe wneir y siocledi yma yn yr Orsedd ger Wrecsam, ac maent yn hyfryd i’w cael yn anrheg am fod golwg mor fendigedig arnynt, a blas hyd yn oed yn well.
Gallwch ddewis o blith ceirw siocled, pizza siocled, neu ddetholiad o beli siocled. Ewch amdani go iawn a chael un o bob un.
Oes rhai o’ch teulu a’ch ffrindiau’n hoff o gerddoriaeth fyw? Dyma anrheg gwerth chweil…
Cyngerdd Gala’r Flwyddyn Newydd
Bydd NEW Sinfonia’n perfformio ddydd Sadwrn, Ionawr 5 a gallwch brynu’ch tocyn yn y Ganolfan Groeso 🙂
Cynhelir y cyngerdd yn Eglwys Sant Giles, Wrecsam am 3pm ac mae’r tocynnau’n £15 i oedolion, £12.50 â chonsesiwn, a £4 i fyfyrwyr.
Mae yno gardiau Nadolig Cymraeg ar werth hefyd, ac addurniadau bach sinsir chwaethus i lenwi’r hosan.
Ydych chi’n cofio am bopeth arall rydyn ni wedi’i sôn amdano yn y gorffennol? Gadewch inni eich atgoffa chi.
Mwy o anrhegion lleol
Ewch i grwydro o amgylch y Ganolfan Groeso ac fe ddewch chi o hyd i emwaith unigryw o lechi Cymreig, clustogau wedi’u gwneud â llaw, blancedi Tweedmill graenus, detholiad o anrhegion y Ddraig Goch, a llu o anrhegion unigryw eraill.
Wyddech chi fod y ganolfan yn gwerthu amrywiaeth o fwydydd lleol fel sawsiau, te, bisgedi, jamiau, siytni a cheulion? Maen nhw’n flasus tu hwnt.
Meddai Amanda Hill, cynghorydd gwybodaeth i dwristiaid yn y ganolfan:
“Galwch draw i Ganolfan Groeso Wrecsam, i gael gweld ein hamrywiaeth o fwyd ac anrhegion o Gymru.
“Cofiwch hefyd ein bod ni’n gwerthu tocynnau ar gyfer pob math o ddigwyddiadau lleol. Rydym yn gwerthu tocynnau rhatach ar gyfer Sw Caer, a thocynnau i deithio ar fysus National Express.
“Tydi llawer o bobl ddim yn gwybod am amrywiaeth ein cynnyrch ni, felly beth am alw heibio i weld dros eich hun?”
Felly dyna ni!
Rydyn ni’n mynd nawr, i brynu tocynnau i’r cyngerdd a siocledi Aballu, felly fe welwn ni chi eto 😉
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU