Wrth i ni barhau ein taith o fasnachwyr canol tref annibynnol, gwnaethom alw i Café in the Corner – sydd yn Arcêd y De ar hen Farchnad y Bobl – i siarad gyda’r perchnogion, Sue a Kev Dipple.
Mae Sue a Kev wedi bod yn Arcêd y De ers mis Medi llynedd, ar ôl symud o neuadd y farchnad cyn i’r gwaith i greu’r cyfleuster celf a marchnadoedd £4.5 miliwn newydd dechrau.
Yn wreiddiol o Ganolbarth Lloegr, daeth Sue a Kev i Wrecsam ym 1999 pan symudodd gweithle Kev, i’r Stâd Ddiwydiannol.
Ar ôl ychydig flynyddoedd, cafodd ei ddiswyddo, a phenderfynodd fynd i’r busnes masnachu’n llawn amser gan ei fod yn benderfynol o beidio cael ei ddiswyddo eto.
Dechreuodd fasnachu ym marchnad Y Wyddgrug yn gwerthu tatws poeth. Parhaodd hyn yn llwyddiannus am beth amser, a gwnaeth Kev y penderfyniad i symud i’r eiddo parhaol pan ddaeth Café in the Corner ar y farchnad yn 2012.
Bachodd ar y cyfle ac mae wedi bod yn masnachu yng nghanol y dref ers hynny.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae busnes y caffi yn eithaf araf ar hyn o bryd, gan fod cau neuadd y farchnad wedi effeithio ar nifer yr ymwelwyr yn yr ardal.
Ond maen nhw’n optimistaidd ar gyfer y dyfodol a gallant weld manteision y darlun ehangach pan fydd y cyfleuster newydd ar agor ar gyfer busnes y flwyddyn nesaf.
Dywedodd Kev: “Rwy’n siomedig gyda masnach ar hyn o bryd ond mae’r dyfodol yn ddisglair ac rwy’n edrych ymlaen at pan fydd y cyfleuster newydd yn agor, a fydd yn dod â marchnad newydd i ni a’n cwsmeriaid rheolaidd presennol. Rydym bob amser yn ceisio cadw ar ben ein marchnad a byddwn yn barod i newid os bydd y farchnad newydd yn golygu bod rhaid i ni.”
Gwnaethom ofyn am eu syniadau marchnata ac roedd Kev yn gyffrous i fod yn symud i farchnata digidol ar ôl dibynnu ar farchnata ar lafar am sawl blwyddyn.
Dywedodd: “Er fy mod yn gwybod nad oes llawer o’n cwsmeriaid rheolaidd presennol yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol byddem yn wirion i beidio cydnabod pŵer cyfryngau cymdeithasol a sut gallai helpu ein busnes yn y dyfodol. Rydym ar Facebook a byddwn am gynyddu nifer ein dilynwyr dros y misoedd i ddod yn barod ar gyfer agor y cyfleuster newydd a chyfarfod cwsmeriaid newydd. Nid oes angen i’n cwsmeriaid rheolaidd boeni, gan ein bod yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth a’u cwsmeriaeth parhaus, a bydd croeso bob amser iddynt yma yn Café in the Corner.”
Mae Kev eisoes yn cysylltu gyda’r celfyddydau ac mae’r caffi yn darparu lluniaeth i weithdai Oriel Wrecsam. Mae hefyd yn cael cefnogaeth a chyngor busnes gan y cyngor, sydd wedi cynnig help ariannol tra mae gwaith adeiladu yn parhau i effeithio ar ei fasnach.
Yma yn newyddion.wrecsam.gov.uk hoffem ddiolch i Kev a Sue am eu hamser a dymunwn bob lwc iddynt at y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio:
“Rwy’n llongyfarch Kev a Sue am eu hymrwymiad i Wrecsam a’u penderfyniad i aros yn ffyddlon i’w cwsmeriaid yn ystod cam adeiladu’r cyfleuster celf a marchnadoedd newydd. Mae’r dyfodol yn edrych llawer mwy disglair ar gyfer y rhan hon o’r dref ac rwy’n edrych ymlaen at weld y cyfleuster newydd yn rhedeg a dod â niferoedd uwch o gwsmeriaid i fusnesau annibynnol sy’n parhau i fasnachu yno.”
Gallwch ddod o hyd o Café in the Corner ar Facebook https://www.facebook.com/Café inthecorner
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI