Ar 25 Medi bydd y caffi yn y ganolfan les yn Adeiladau’r Goron ynghanol dinas Wrecsam yn agor!
Os ydych chi’n chwilio am rywle newydd am damaid i ginio, dewch i gael blas. Byddant yn gweini brecwast tan 10.30am ac wedyn panini, brechdanau, tatws trwy’u crwyn a danteithion melys (ac iach) am weddill y diwrnod.
Groundwork North Wales fydd yn rhedeg y caffi; maent wedi rhedeg caffi Parc Gwledig Dyfroedd Alun ers 2019 ac maen nhw’n edrych ymlaen at agor drysau’r caffi hwn yng nghanol y ddinas.
Meddai Alwyn Jones, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cyngor Wrecsam: “Rydym wrth ein boddau i fedru cyhoeddi, ar ran y bartneriaeth rhwng Cyngor Wrecsam, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, mai Groundworks Gogledd Cymru oedd yr ymgeisydd llwyddiannus i redeg y caffi yn y Ganolfan Les, Caffi Cyfle.
“Bydd y caffi’n agor yn swyddogol ddydd Llun, Medi 25 am 9am i weini bwyd poeth ac oer, gan gynnwys dewisiadau iach ac amrywiaeth o ddiodydd poeth ac oer, mewn amgylchedd diogel lle mae croeso i bawb, a hyderwn y bydd yn boblogaidd iawn ymysg defnyddwyr y Ganolfan Les a’r gymuned.”
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Rydw i’n falch iawn o weld Caffi Cyfle’n agor yn y Ganolfan Les. Rydym eisiau i’r Ganolfan fod yn lle diogel i bawb yn y gymuned, ac mae’n hyfryd gweld y ddarpariaeth yn ehangu.”
Fe ddewch chi o hyd i fynedfa Caffi Cyfle ym maes parcio Waterworld, drwy brif fynedfa’r Ganolfan Les.
Cadwch olwg ar y cyfryngau cymdeithasol i gael mwy o wybodaeth a bwydlenni!
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.