Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Colled o 266 o fywydau oherwydd glo- Trychineb Pwll Glo Gresffordd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Colled o 266 o fywydau oherwydd glo- Trychineb Pwll Glo Gresffordd
Y cyngorPobl a lle

Colled o 266 o fywydau oherwydd glo- Trychineb Pwll Glo Gresffordd

Diweddarwyd diwethaf: Medi 20, 2023 10:38 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Colled o 266 o fywydau oherwydd glo- Trychineb Pwll Glo Gresffordd
RHANNU

Colled o 266 o fywydau oherwydd glo

Am 11 o’r gloch fore Dydd Gwener, Medi 22 wrth Gofeb Olwyn y Glowyr, Pandy, cynhelir y gwasanaeth blynyddol er cof am drasiedi waethaf Wrecsam, sef trychineb Pwll Glo Gresffordd.

Fe deimlodd pawb yn Wrecsam effaith drom y drychineb, gan y bu farw rhywun o bron pob pentref yn y fwrdeistref sirol.

Dychmygwch…

Mae’n nos Wener, 21 Medi, 1934. Mae glowyr yn mynd i lawr i adran Dennis pwll glo Gresffordd er mwyn cychwyn eu shifft. Mae’n brysurach nac arfer gan bod llawer ohonynt yn ‘dyblu fyny’ er mwyn bod yn rhydd i wylio gêm bêl-droed Wrecsam ar y prynhawn dydd Sadwrn. Yn anffodus, dim ond 6 ohonyn nhw fydd yn dychwelyd.

Am 2:08am fore Sadwrn (22 Medi), rhwygodd ffrwydriad drwy’r pwll glo, gan ladd nifer fawr o lowyr.

Mae Edward William, Cynorthwywr Injan yn Dennis ar y pryd yn cofio: “Daeth yn nes fel taran ac yna aeth pobman yn ddu. Allech chi ddim gweld unrhyw beth.”

 ‘Yn union fel uffern’

Anfonwyd dros 200 o weithwyr achub mewn ymdrech i achub y glowyr. Dim ond 11 corff a adferwyd – a thri o’r rheiny yn perthyn i’r tîm achub cyntaf. Dywedodd un o’r achubwyr bod y pwll glo ‘yn union fel uffern’.

Pan gyrhaeddodd y newyddion y dref, ymgasglodd torfeydd o amgylch y pwll – menywod a phlant yn aros am anwyliaid na fyddent byth yn dod adref.

Wedi 40 awr o waith caled daeth yn amlwg i’r achubwyr nad oedd neb ar ôl yn fyw i’w hachub, felly penderfynwyd cau’r siafftiau am 6pm ar y prynhawn Sul.

Y canlyniadau

Roedd trychineb Pwll Glo Gresffordd yn un o drychinebau gwaethaf Wrecsam… ond nid oes llawer o sylw wedi ei roi i ganlyniadau’r drychineb, a’r effaith a gafwyd ar deuluoedd a chydweithwyr y dioddefwyr. O ganlyniad i’r ffrwydriad, roedd 200 yn weddw, 800 heb dad a 1,600 yn ddi-waith.

Roedd hyn mewn cyfnod lle nad oedd yr un cyfleoedd gan fenywod ag oedd gan ddynion. Roedd colli gŵr yn golygu mwy na bod yn wraig weddw alarus…roedd yn golygu bod yn weddw gyda’r cyfrifoldeb o ddarparu ar ei chyfer ei hun a’i phlant heb unrhyw ffynhonnell incwm.

Bu’n rhaid i weddill y dynion a gyflogwyd yn y pwll glo edrych am waith arall – yn aml heb unrhyw lwc. Roedd y dyfodol i’w weld yn ddigalon iawn i Wrecsam; byddai rhai yn ei chael hi’n anodd goroesi hyd yn oed. Byddai’n chwe mis tan i’r pwll ail agor.

Bu’r drasiedi yn y newyddion cenedlaethol a derbyniodd gydnabyddiaeth gan y Brenin. Lledodd y gair am y teuluoedd oedd yn ei chael hi’n anodd a sefydlwyd cronfa gymorth er mwyn helpu’r rheiny oedd mewn angen. Codwyd mwy na £550,000, fodd bynnag ni ellid gwneud iawn am y bywydau a gollwyd.

Cofio, 89 mlynedd yn ddiweddarach…

Eleni mae hi’n 89 mlynedd ers i 266 o ddynion a bechgyn golli eu bywydau.

Cynhelir y gwasanaeth coffa blynyddol i nodi Trychineb Pwll Glo Gresffordd ddydd Gwener, 22 Medi am 11am ger Cofeb Olwyn y Glowyr, Bluebell Lane, Pandy. Bydd y gwasanaeth yn fyr ac anffurfiol, ac mae croeso i bawb fynychu.

Dywedodd Maer Wrecsam, y Cynghorydd Andy Williams: Roedd trychineb Gresffordd yn rhan hynod o drist yn hanes Wrecsam. “Yn drist y bu farw rhywun o bron pob pentref yn y fwrdeistref sirol oherwydd y trychineb.”

TAGGED:wrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Wellbeing hub Caffi Cyfle’n agor ei ddrysau
Erthygl nesaf 20mph Mae’r terfyn cyflymder 20mya wedi cyrraedd, beth nesaf?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English