Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
newyddion.wrecsam.gov.uk
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canfod y ffordd yn ôl: y dull arloesol sy’n helpu pobl i oresgyn ‘Spice’
Rhannu
Notification Show More
Latest News
Digital Screens
Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu
Y cyngor Busnes ac addysg
Climate change
Nodi pum cymuned carbon isel
Pobl a lle Busnes ac addysg
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Y cyngor Pobl a lle
Illegal tobacco and cigarettes seized.
Hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Arall
Wales in Bloom
Rydym yn paratoi ar gyfer Cymru yn ei Blodau
Y cyngor Busnes ac addysg Pobl a lle
newyddion.wrecsam.gov.uk
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - Dydd Sadwrn, Mehefin 10
newyddion.wrecsam.gov.uk > Blog > Arall > Canfod y ffordd yn ôl: y dull arloesol sy’n helpu pobl i oresgyn ‘Spice’
Arall

Canfod y ffordd yn ôl: y dull arloesol sy’n helpu pobl i oresgyn ‘Spice’

Diweddarwyd diwethaf: 2018/05/21 at 3:48 PM
Rhannu
Darllen 7 funud
Wrexham Council News
RHANNU

Postiwyd ar ran Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam

Cynnwys
Dal gafael ar swydd‘Spice’ yn y penawdauAchub ar y cyfleEi gwneud yn haws i gael helpModel ar gyfer y dyfodol?

Mae bod yn gaeth i gyffuriau yn sefyllfa ddidrugaredd. Mae pobl yn aml yn cael eu harwain i lawr ffordd dywyll iawn tuag at fywydau caotig a difrodus.

Felly oes yna ffordd yn ôl? I lawer o bobl – gyda’r help a’r gefnogaeth gywir – oes.

Y mis Tachwedd y llynedd fe wnaethom ni flogio am ddull arloesol yn Wrecsam a oedd yn dangos arwyddion cynnar o lwyddiant.

- Cofrestru -
Get our top stories

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach ac mae’r addewid cynnar hwnnw yn bwrw gwreiddiau – gan helpu nifer o bobl i dorri eu dibyniaeth ar gyffuriau synthetig fel Spice a Mamba, a gwella eu bywydau.

Dal gafael ar swydd

Nid ydym am enwi unigolion yn yr erthygl hon, ond rydym wedi gweld nifer o bobl yn elwa o’r prosiect peilot.

Rydym wedi llwyddo i gael pobl oddi ar gyffuriau ac mae’n ymddangos eu bod yn gwneud yn dda – yn gwneud cais am le yn y brifysgol, yn dal eu gafael ar swydd, gweithio gydag elusennau, dod o hyd i le i fyw ac ati.

Esbonia Steve Campbell, Cydlynydd Tasglu Sylweddau Seicoweithredol Newydd Cyngor Wrecsam: “Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae’r cyffuriau hyn wedi difrodi llawer o fywydau a chreu llawer o broblemau mewn trefi a dinasoedd dros y wlad.

“Ond mae’r dull yr ydym wedi’i ddefnyddio yn Wrecsam yn dal i ddangos addewid ac mae pobl yn gwneud cynnydd go iawn diolch i’r gefnogaeth y maent wedi’i chael.

“Rydym wedi gweld unigolion yn llwyddo mewn rhaglenni adfer, dychwelyd at addysg neu waith, a chael lle i fyw.
“Felly rydym yn gobeithio y gallwn adeiladu ar hynny.”

‘Spice’ yn y penawdau

Cafodd problemau ‘Spice’ a ‘Mamba’ yn Wrecsam lawer o sylw gan y wasg y llynedd ac roeddent yn bynciau llosg ar gyfryngau cymdeithasol.

Roedd pryderon am les pobl a oedd yn cymryd y cyffuriau a gwelwyd lluniau graffig yn dangos effeithiau dychrynllyd.

Roedd pobl yn poeni hefyd am effaith hyn ar ganol y dref – yr argraff yr oedd yn ei chreu, p’un a fyddai’n annog pobl i beidio â dod i mewn i’r dref, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ati.

Roedd helpu pobl i roi’r gorau i gymryd cyffuriau yn cael ei weld fel rhywbeth allweddol.

EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

Achub ar y cyfle

Felly dechreuodd y sefydliadau sy’n gweithio i fynd i’r afael â’r broblem – gan gynnwys y cyngor, yr heddlu, elusennau a gwasanaethau iechyd – greu ‘proffiliau’ ar gyfer unigolion â phroblemau cyffuriau.

Roedd hynny’n golygu dod i adnabod pob unigolyn fel y gallent ganfod pa fath o gefnogaeth yr oedd ei hangen arnynt pe baent yn penderfynu derbyn help.

“Efallai bod un person angen cymorth i ddod o hyd i lety tra bo person arall angen cymorth â phroblem iechyd meddwl ac ati”, meddai Steve.

“Mae’n golygu ein bod ni’n gallu gweithio ar lawr gwlad a chynnig cefnogaeth wedi ei theilwra yr eiliad maen nhw’n penderfynu derbyn y gefnogaeth honno.”

Mae’r dull hynod bersonol hwn yn chwarae rhan fawr.

Ei gwneud yn haws i gael help

Y ffactor bwysig iawn arall yw ‘hygyrchedd’.

Meddai Steve: “Os ydych yn dweud wrth bobl bod raid iddyn nhw fynd i wahanol leoedd i gael gwahanol fathau o gefnogaeth, bydd rhai ohonynt yn methu apwyntiadau a byddwch yn colli’r cyfle i ymgysylltu â nhw.

“Felly creodd y partneriaid ‘siop un stop’ mewn lleoliad addas yng nghanol y dref. Mae’n golygu y gall pobl gael mynediad at wahanol fathau o help sydd eu hangen arnynt mewn un lle. Mae’n gwneud pethau’n haws.”

Oherwydd y gwaith proffilio sy’n cael ei wneud, mae’r gweithwyr proffesiynol sydd yn y ‘siop’ yn gwybod yn union pa gefnogaeth i’w chynnig i bob person.

Ac mae system ‘atgyfeirio cyflym’ yn golygu eu bod yn derbyn cefnogaeth yn gyflym. Felly os oes ar berson angen therapi dadwenwyno neu adferiad, gellir trefnu hynny’n gyflym.

Model ar gyfer y dyfodol?

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Chymuned yng Nghyngor Wrecsam: “Fel partneriaeth, rydym yn cydweithio’n agos – yn cydlynu ein hadnoddau ac yn ceisio canfod ateb i broblem anodd iawn.

“Nid pawb sy’n derbyn help sy’n dod allan y pen arall, ond – i ryw raddau – rydym wedi dod o hyd i ateb.

“Rydym yn gweld unigolion yn gwneud cynnydd oherwydd y gefnogaeth ymatebol a hygyrch sydd ar gael ac sydd wedi’i theilwra’n dda.

“Mae’n wir hefyd bod rhannau eraill o’r wlad yn edrych ar y pethau yr ydym yn eu gwneud yn Wrecsam.

“Ac mae teimlad y gallai’r dull hwn helpu trefi a dinasoedd i fynd i’r afael â mathau eraill o gyffuriau yn y dyfodol – nid Spice a Mamba yn unig.”

Dywedodd y Cyng. Jones y mai adolygiad diweddar ar “Llinellau Sirol” gan y Swyddfa Gartref, yn trafod yr ymarferiadau da yn Wrecsam i daclo’r cyflenwad o gyffuriau o’r prifddinasoedd, a hefyd yn dangos yr ydym yn mynd yn y cyfeiriad cywir. Ond nid oes terfyn mewn golwg am y frwydr yn erbyn Spice, Mamba a chyffuriau eraill.

Dywedodd y Cyng. Jones: “Mae dal gennym ni ffordd hir i fynd, ond rydym yn awyddus i gynnal ein hymdrech cymal i gefnogi’r rhai sydd angen y cymorth hwn, ac i reoli’r effaith ar ein cymdeithasau.

Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif.

COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwelsoch chi’r fideo hon? Uchafbwyntiau o’r HWB 2018 Gwelsoch chi’r fideo hon? Uchafbwyntiau o’r HWB 2018
Erthygl nesaf Ydych chi’n gwerthfawrogi’r effaith y mae gwahanu a galar yn ei gael ar blant? Darllenwch fwy... Ydych chi’n gwerthfawrogi’r effaith y mae gwahanu a galar yn ei gael ar blant? Darllenwch fwy…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digital Screens
Cynnig Sgriniau Digidol i helpu busnesau gyda hysbysebu
Y cyngor Busnes ac addysg Mehefin 8, 2023
Climate change
Nodi pum cymuned carbon isel
Pobl a lle Busnes ac addysg Mehefin 8, 2023
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Arddangos Cwilt Gwych Arall o Wrecsam
Y cyngor Pobl a lle Mehefin 8, 2023
Illegal tobacco and cigarettes seized.
Hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru
Arall Mehefin 8, 2023

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal tobacco and cigarettes seized.
Arall

Hanner miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu yng Ngogledd Ddwyrain Cymru

Mehefin 8, 2023
HMRC
Pobl a lleArall

Mae ap CThEF ar gael yn Gymraeg

Mehefin 7, 2023
Woodland Connections
Y cyngorArall

Wythnos Cysylltiadau Coetir, 17 Mehefin i 24 Mehefin

Mehefin 7, 2023
fost
ArallYn cael sylw arbennig

Cymru ar frig y DU o ran cymorth hanfodol i helpu plant mabwysiedig i ddeall hanesion eu bywydau

Mai 23, 2023
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Fy Niweddariadau
  • Hysbysiadau awtomatig
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Cofrestru
newyddion.wrecsam.gov.uk
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cofrestru
Prif storiau - tanysgrifwch!

Peidiwch â methu’r newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Sign up
Rhowch gynnig arno! Gallwch ddatdanysgrifio ar unrhyw adeg.

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English