Os hoffech chi gael y newyddion diweddaraf am beth sy’n digwydd yn Nhŷ Pawb, sef lleoliad celfyddydau a marchnad boblogaidd Wrecsam, yna mae croeso i chi gymryd copi o Ganllaw Beth Sydd ‘Mlaen o’r Ganolfan, y Ganolfan Gwybodaeth i Dwristiaid, eich llyfrgell leol neu Dderbynfa Neuadd y Dref.
Mae’n rhoi syniad da i chi o’r hyn sy’n digwydd yn rheolaidd hyd at fis Mehefin, megis arddangosfeydd, clwb celfyddydau a garddio, digwyddiadau coffi a chrefft, gweithgareddau’r Pasg, clybiau ffilm, celf pop neu brintio ffabrig.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB
Mae amser hefyd i ddal yr Arddangosfa Grayson Perry bendigedig, “Julie Cope’s Grand Tour: The Story of a Life” sydd wedi denu miloedd ers iddo agor ar ddechrau’r gwanwyn. Rhaid i chi fod yn gyflym, mae’n cau ar 22 Ebrill.
Mae cyfle hefyd i gymryd rhan yn nathliadau’r flwyddyn gyntaf ar ddydd Llun y Pasg, 22 Ebrill, gyda cherddoriaeth fyw, gweithgareddau crefft a thamaid o gacen pen-blwydd! Mae mwy o fanylion yma https://newyddion.wrecsam.gov.uk/dewch-i-ddathlu-pen-blwydd-cyntaf-ty-pawb/
I gael y newyddion fwyaf diweddar am yr hyn sy’n digwydd yn Tŷ Pawb, gallwch edrych ar eu cyfrif Facebook, Twitter neu’r wefan:
www.typawb.wales Facebook Twitter
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB