Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canllawiau defnyddiol ar gyfer tafarndai, bariau bwytai a chaffis
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Canllawiau defnyddiol ar gyfer tafarndai, bariau bwytai a chaffis
Busnes ac addysgY cyngor

Canllawiau defnyddiol ar gyfer tafarndai, bariau bwytai a chaffis

Diweddarwyd diwethaf: Awst 24, 2020 12:02 pm
Rhannu
Darllen 7 funud
Pubs
RHANNU

Dyma restr wirio diogelwch defnyddiol ar gyfer tafarndai, bariau, bwytai a chaffis ar y mater pwysig o atal lledaeniad y Coronafeirws:

Cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr – dyma’r gyfraith yng Nghymru a rhaid i unrhyw un sy’n gyfrifol am ‘eiddo agored’ gymryd camau rhesymol i sicrhau y cedwir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw berson yn yr adeilad, boed hynny’n gwsmeriaid neu staff (heblaw rhwng aelodau o’r un aelwyd, ‘swigen’ gymdeithasol/deuluol neu ofalwr a’r unigolyn sy’n cael ei ch/gynorthwyo gan y gofalwr). Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy’n aros mewn ciw i ddod mewn i’r adeilad.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Dim yfed wrth sefyll – Ni ddylai cwsmeriaid fod yn sefyll ac yn yfed, mae hyn yn cynnwys mannau smygu, rhaid i gwsmeriaid fod yn eistedd wrth fyrddau er mwyn bwyta neu yfed.

Adloniant – ni chaniateir unrhyw adloniant byw o unrhyw fath y tu mewn na thu allan e.e. bandiau byw, perfformwyr, comedi. Ni ddylid caniatáu dawnsio a dylid chwarae unrhyw gerddoriaeth wedi’i recordio ar lefel isel yn y cefndir. Mae lle i gredu fod canu yn cynyddu lledaenu gronynnau’r feirws yn yr aer ac os caiff cerddoriaeth wedi’i recordio ei chwarae yn rhy uchel, bydd hyn yn annog cwsmeriaid i orfod siarad yn uwch a symud yn nes at eu gilydd er mwyn gallu clywed eu gilydd, ac felly yn fwy tebygol o basio’r gronynnau yn yr aer.

Tracio ac Olrhain – mae’n ofyniad cyfreithiol bod busnesau yn cadw manylion cyswllt pob person yn yr adeilad, neu aelod arweiniol o grŵp aelwyd, a dylent gadw’r manylion yma am 21 diwrnod er mwyn eu rhoi i Swyddog Iechyd Cyhoeddus ar gais. Dylid atal mynediad i bobl sy’n gwrthod darparu’r manylion yma. Mae rhagor o fanylion ar gael yma:

https://llyw.cymru/cadw-cofnodion-ynghylch-staff-cwsmeriaid-ac-ymwelwyr-profi-olrhain-diogelu

Cyfyngu rhyngweithio wyneb i wyneb – gall hyn gynnwys newid cynllun yr eiddo, lleoliad dodrefn a mannau gweithio, rheoli defnydd mynedfeydd, coridorau a grisiau, rheoli’r defnydd o gyfleusterau sy’n cael eu rhannu megis toiledau a cheginau. Efallai y byddwch chi’n dymuno gosod rhwystrau neu sgriniau. Fe’ch cynghorir i ddefnyddio taliad digyffwrdd ble bo hynny ar gael.

Hylendid – Dylid gweithredu trefn lanhau reolaidd ac fe ddylech ystyried cyfarpar diogelu personol (PPE) i staff a dylai deunyddiau glanhau megis hylif diheintio dwylo fod ar gael i gwsmeriaid yn hawdd hefyd. Fe ddylech fod yn glanhau ardaloedd cyhoeddus yn fwy aml na chyn cyfyngiadau Covid-19, ac fe allech chi ystyried gofyn i aelod o staff fod yn gyfrifol am reoli’r broses lanhau. Dylai toiledau gael eu glanhau’n rheolaidd a dylid cyfyngu ar y niferoedd sy’n eu defnyddio ar unrhyw un adeg.

Prosesau cofnodi a darparu gwybodaeth – fe ddylech baratoi Asesiad Risg ar gyfer eich eiddo a bydd hyn yn eich helpu i adnabod unrhyw beryglon a chamau gweithredu sydd eu hangen. Dylech roi cymaint o wybodaeth â phosibl i’r cwsmer. Gall hyn fod trwy gyfrwng posteri, marciau ar y llawr a rhybuddion. Cofiwch fe all rhai cwsmeriaid fod yn nerfus ac ni fyddant yn gyfarwydd â’r rheolau newydd, felly gall rhoi aelod cyfeillgar o staff wrth y drws yn egluro’r broses a’u tywys at y bwrdd fod yn ffordd gadarnhaol o greu amgylchedd diogel a chyfforddus i gwsmeriaid. Mae templed o asesiad risg ar gael yn

https://www.ukhospitality.org.uk/page/WalesGuidance

Cyfryngau Cymdeithasol – gall platfformau Cyfryngau Cymdeithasol megis Facebook, Twitter ac Instagram fod yn declyn gwerthfawr i roi gwybodaeth i’ch cwsmeriaid hefyd. Efallai eich bod yn dymuno llwytho luniau neu fideos o’ch prosesau newydd. Gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol fel ffordd o dderbyn negeseuon neu reoli archebion. Os bydd cwsmeriaid yn gwybod beth i’w ddisgwyl cyn dod mewn i’ch eiddo, maent yn fwy tebygol o ddilyn y rheolau a’ch helpu i reoli pethau’n esmwyth.

Amseroedd cau – byddwch yn ymwybodol o amseroedd cau yr eiddo yn ymyl eich eiddo chi. Mae sawl eiddo yn cau yn gynt na’r arfer a dylech fod yn ymwybodol o hyn rhag ofn i chi gael nifer o bobl yn dod i’ch eiddo chi ar ôl i lefydd eraill gau.

Ardaloedd tu allan ac yfed oddi ar y safle – mae deddfwriaeth newydd wedi rhoi cyfleuster dros dro i bob eiddo trwyddedig sydd â thrwydded i werthu alcohol ‘ar y safle’ i werthu alcohol i’w yfed ‘oddi ar y safle’ os nad oedd hyn eisoes yn cael ei ganiatáu. Os oes gennych chi ardal y tu allan i’ch eiddo y mae gennych hawl ei ddefnyddio, megis iard neu faes parcio, gallwch osod byrddau a chadeiriau yn yr ardaloedd yma er mwyn i bobl yfed alcohol oddi ar y safle. Mae palmentydd yng nghanol y dref yn destun ‘Trwyddedau Palmant’ a bydd angen i chi wneud cais am drwydded os ydych chi’n dymuno i gwsmeriaid fwyta neu yfed yn yr ardal honno.

Hyfforddiant a Chyfrifoldebau staff – Bydd angen rhoi hyfforddiant ychwanegol i staff er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o’r holl fesurau sydd ar waith. Dylid briffio staff ar y gofynion a osodir gan eich asesiad risg a dylech fod yn barod i atgoffa cwsmeriaid o’u rhwymedigaethau tra’u bod yn yr eiddo. Efallai y byddwch yn dymuno dirprwyo tasgau penodol i staff – e.e. bod aelod o staff yn gyfrifol am gadw pellter cymdeithasol tra bod yr eiddo ar agor.

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gas barbecue Oes gennych chi botel nwy y gallwch ei ail-lenwi ar gyfer eich barbeciw?
Erthygl nesaf A483 Cyhoeddi’r opsiynau a ffefrir ar gyfer y gwelliannau i’r A483 yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English