Nid oes gan y chwe deilydd portffolio addysg sydd yn cynrychioli chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, eu Prif Swyddogion, y Consortiwm Gwella Ysgolion Rhanbarthol, GwE a Phenaethiaid Uwchradd, unrhyw hyder yn y broses safoni a fabwysiadodd CBAC ac a gytunwyd gan Gymwysterau Cymru yn sgil cyhoeddi canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Nid ydym yn teimlo y bu’r broses yn un deg na chadarn, ac yn enwedig felly i ddysgwyr bregus a fu’n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru dros y tymor hwn.
Er bod y sefyllfa genedlaethol, ar y cyfan, yn rhoi darlun calonogol o’r canlyniadau, bu anghysondeb ac anghyfartaledd sylweddol yn neilliannau ysgolion ar draws Gogledd Cymru sydd wedi achosi cryn bryder i ddysgwyr unigol, eu rhieni/gofalwyr a staff ysgolion. Gyda’r gor-bwyslais ar ddata hanesyddol, ymddengys bod yr un ysgolion a dysgwyr wedi cael eu cosbi yn yr un modd ag yn 2018 pan gymerodd ysgolion y Gogledd gyngor y Gweinidog i ddisgyblion beidio â sefyll TGAU yn gynnar. Cafodd hynny, maes o law, effaith negyddol ar eu deilliannau mewn rhai pynciau allweddol.
Mae’n amlwg iawn bod y brand Safon Uwch wedi’i amddiffyn ar draul dysgwyr unigol sydd ddim wedi cael y graddau a ragwelwyd ar eu cyfer pan wnaeth y dosbarthiad cenedlaethol gyrraedd lefel ysgol.
Daw’n fwyfwy amlwg bod anghysondeb sylweddol rhwng graddau wedi’u dyfarnu gan CBAC a graddau wedi’u hasesu gan ganolfan. Tystia rai ysgolion bod bron i 70% o’u graddau wedi’u hisraddio, heb unrhyw gyswllt gan y corff arholi na’r rheoleiddiwr. Gwelir y gwahaniaeth hwn wrth gymharu graddau a ddyfarnwyd ar draws pynciau hefyd, a nid yn unig o fewn yr un pynciau. Ymddengys nad oes patrwm cyson o fewn ysgolion, na rhwng ysgolion. O ganlyniad, gwelwyd disgyblion unigol yn cael graddau gan CBAC ble na all ysgolion egluro’r rhesymeg tu cefn i’r dyfarniad.
Rydym yn galw ar i’r Gweinidog Addysg gynnal adolygiad brys ac unioni’r sefyllfa i sicrhau nad yw dysgwyr unigol yn cael cam, a bod y disgyblion iawn yn cael y graddau iawn.
Mae gormod o ddisgyblion yng Nghymru mewn perygl sylweddol o fod dan anfantais a cholli cyfleoedd i ddilyn llwybrau cyflogaeth o’u dewis pan gânt eu cymharu â’u cyfoedion mewn gwledydd eraill yn y DU, yr Alban yn enwedig.
Yn ôl ysgolion, nid oes ganddynt hyder yn y broses apelio bresennol. Addawyd cynnal adolygiad brys, ond efallai y daw hyn yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth i ddysgwyr unigol. Dywed ysgolion hefyd eu bod yn bryderus am les emosiynol y dysgwyr dan sylw, sydd yn eiddigeddus o’u cyfoedion yn yr Alban sydd wedi cael datrysiad sydyn iawn heb roi mwy o straen ar bobl ifanc mewn cyfnod sydd eisoes heb ei debyg.
Mae ysgolion hefyd yn adrodd eu bod yn bryderus iawn am effaith y canlyniadau Uwch Gyfrannol y flwyddyn nesaf ar y Flwyddyn 12 gyfredol, ac yn enwedig os y ceir cynnydd yn achosion o COVID neu gyfnod o glo lleol.
Yn olaf, rydym am fynegi ein pryder dwys a sylweddol y bydd canlyniadau TGAU dydd Iau nesaf yn adlewyrchu yr un sefyllfa a phrosesau, a fydd yn cymhlethu ymhellach yr hyn sydd eisoes yn sefyllfa hynod anodd i’n pobl ifanc a’n proffesiwn.
Nodyn i’r Golygyddion
Enghreifftiau penodol a rannwyd gan benaethiaid ysgolion ar draws y rhanbarth:
- Myfyriwr disglair a’r ysgol wedi rhagfynegi pedair gradd A* iddo yn cael A*/A/A/B yn U2 (ar ôl cael pedair A yn UG yn 2019).
- Dau fyfyriwr yn cael graddau D, wedi’u hasesu gan y ganolfan, yn disgyn i raddau U gan CBAC ac un arall yn gostwng o B i E. Dwy radd C mewn pwnc arall yn mynd i lawr i U.
- Nifer o fyfyrwyr mathemateg mewn un ysgol yn mynd i lawr o ddwy radd.
- Ysgol â record tair blynedd o 20% A*/A mewn un pwnc yn cyflwyno graddau wedi’u hasesu gan y ganolfan yn unol â hyn. Er hynny, yn dilyn safoni, ni ddyfarnwyd A*/A i’r un disgybl.
- Graddau myfyriwr UG fel a ganlyn: Bioleg B, Cemeg A, Ffiseg B. Pan gafwyd y gwir raddau gan CBAC heddiw, roeddent wedi’u hisraddio i Fioleg C, Cemeg C a Ffiseg U.
- Dau fyfyriwr wedi’u hisraddio o C i U mewn un pwnc, er bod yr ysgol yn teimlo bod ganddynt ddigon o dystiolaeth i gefnogi’r graddau wedi’u hasesu gan y ganolfan.
- Ysgol yn rhoi graddau U wedi’u hasesu gan y ganolfan i ddau fyfyriwr oherwydd ansawdd gwael y gwaith a phresenoldeb isel. Proses safoni CBAC yn eu gweld nhw’n codi i raddau C.
- Myfyriwr yn codi mewn un pwnc o A i A* ac un arall yn yr un grŵp yn mynd o C i U.
- Dau fyfyriwr o’r un gallu yn cael gradd B wedi’i hasesu gan y ganolfan mewn Llenyddiaeth Saesneg. Proses safoni CBAC yn gweld un yn cynnal y radd, a’r myfyriwr arall yn disgyn i radd D .
- Enghreifftiau o fyfyrwyr yn cael eu hisraddio o C i U yn ystod safoni ond dim cyswllt gan CBAC yn gofyn am unrhyw dystiolaeth ychwanegol i gefnogi’r graddau wedi’u hasesu gan y ganolfan.
- Un myfyriwr, ar ôl cael A* mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn TGAU, a gradd B wedi’i hasesu gan y ganolfan mewn Ffiseg UG, eleni yn cael ei israddio i radd U gan CBAC.
- Un myfyriwr o allu uchel yn cael ei israddio o A* i C mewn un pwnc, ond eto’n aros ar A* mewn pwnc tebyg.
- Amryw o enghreifftiau o ddysgwyr o’r un gallu mewn pwnc yn cael yr un radd wedi’i hasesu gan y ganolfan, ond yn cael o leiaf 2 radd o wahaniaeth rhyngddynt ar ôl safoni gan CBAC.
- 1% o ddysgwyr â’r hawl i brydau ysgol am ddim yn cael graddau is yn sgil safoni, sydd yn uwch na’r rheiny nad ydynt yn gymwys.