Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch – Datganiad i’r wasg gan y Rhanbarth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda'ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd...
GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda’ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd…
Fideo Pobl a lle
Ffrinj Wrecsam
Ffrinj Wrecsam – arddangosfa o ddigwyddiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
start-up clinics
Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!
Busnes ac addysg
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch – Datganiad i’r wasg gan y Rhanbarth
Busnes ac addysg

Canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch – Datganiad i’r wasg gan y Rhanbarth

Diweddarwyd diwethaf: 2020/08/14 at 3:10 PM
Rhannu
Darllen 7 funud
A-level
RHANNU

Nid oes gan y chwe deilydd portffolio addysg sydd yn cynrychioli chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru, eu Prif Swyddogion, y Consortiwm Gwella Ysgolion Rhanbarthol, GwE a Phenaethiaid Uwchradd, unrhyw hyder yn y broses safoni a fabwysiadodd CBAC ac a gytunwyd gan Gymwysterau Cymru yn sgil cyhoeddi canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Nid ydym yn teimlo y bu’r  broses yn un deg na chadarn, ac yn enwedig felly i ddysgwyr bregus a fu’n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru dros y tymor hwn.

Er bod y sefyllfa genedlaethol, ar y cyfan, yn rhoi darlun calonogol o’r canlyniadau, bu anghysondeb ac anghyfartaledd sylweddol yn neilliannau ysgolion ar draws Gogledd Cymru sydd wedi achosi cryn bryder i ddysgwyr unigol, eu rhieni/gofalwyr a staff ysgolion. Gyda’r gor-bwyslais ar ddata hanesyddol, ymddengys bod yr un ysgolion a dysgwyr wedi cael eu cosbi yn yr un modd ag yn 2018 pan gymerodd ysgolion y Gogledd gyngor y Gweinidog i ddisgyblion beidio â sefyll TGAU yn gynnar. Cafodd hynny, maes o law, effaith negyddol ar eu deilliannau mewn rhai pynciau allweddol.

Mae’n amlwg iawn bod y brand Safon Uwch wedi’i amddiffyn ar draul dysgwyr unigol sydd ddim wedi cael y graddau a ragwelwyd ar eu cyfer pan wnaeth y dosbarthiad cenedlaethol gyrraedd lefel ysgol.

Daw’n fwyfwy amlwg bod anghysondeb sylweddol rhwng graddau wedi’u dyfarnu gan CBAC a graddau wedi’u hasesu gan ganolfan. Tystia rai ysgolion bod bron i 70% o’u graddau wedi’u hisraddio, heb unrhyw gyswllt gan y corff arholi na’r rheoleiddiwr. Gwelir y gwahaniaeth hwn wrth gymharu graddau a ddyfarnwyd ar draws pynciau hefyd, a nid yn unig o fewn yr un pynciau. Ymddengys nad oes patrwm cyson o fewn ysgolion, na rhwng ysgolion. O ganlyniad, gwelwyd disgyblion unigol yn cael graddau gan CBAC ble na all ysgolion egluro’r rhesymeg tu cefn i’r dyfarniad.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Rydym yn galw ar i’r Gweinidog Addysg gynnal adolygiad brys ac unioni’r sefyllfa i sicrhau nad yw dysgwyr unigol yn cael cam, a bod y disgyblion iawn yn cael y graddau iawn.

Mae gormod o ddisgyblion yng Nghymru mewn perygl sylweddol o fod dan anfantais a cholli cyfleoedd i ddilyn llwybrau cyflogaeth o’u dewis pan gânt eu cymharu â’u cyfoedion mewn gwledydd eraill yn y DU, yr Alban yn enwedig.

Yn ôl ysgolion, nid oes ganddynt hyder yn y broses apelio bresennol. Addawyd cynnal adolygiad brys, ond efallai y daw hyn yn rhy hwyr i wneud gwahaniaeth i ddysgwyr unigol.  Dywed ysgolion hefyd eu bod yn bryderus am les emosiynol y dysgwyr dan sylw, sydd yn eiddigeddus o’u cyfoedion yn yr Alban sydd wedi cael datrysiad sydyn iawn heb roi mwy o straen ar bobl ifanc mewn cyfnod sydd eisoes heb ei debyg.

Mae ysgolion hefyd yn adrodd eu bod yn bryderus iawn am effaith y canlyniadau Uwch Gyfrannol y flwyddyn nesaf ar y Flwyddyn 12 gyfredol, ac yn enwedig os y ceir cynnydd yn achosion o COVID neu gyfnod o glo lleol.

Yn olaf, rydym am fynegi ein pryder dwys a sylweddol y bydd canlyniadau TGAU dydd Iau nesaf yn adlewyrchu yr un sefyllfa a phrosesau, a fydd yn cymhlethu ymhellach yr hyn sydd eisoes yn sefyllfa hynod anodd i’n pobl ifanc a’n proffesiwn.

Nodyn i’r Golygyddion

Enghreifftiau penodol a rannwyd gan benaethiaid ysgolion ar draws y rhanbarth:

  • Myfyriwr disglair a’r ysgol wedi rhagfynegi pedair gradd A* iddo yn cael A*/A/A/B yn U2 (ar ôl cael pedair A yn UG yn 2019).
  • Dau fyfyriwr yn cael graddau D, wedi’u hasesu gan y ganolfan, yn disgyn i raddau U gan CBAC ac un arall yn gostwng o B i E. Dwy radd C mewn pwnc arall yn mynd i lawr i U.
  • Nifer o fyfyrwyr mathemateg mewn un ysgol yn mynd i lawr o ddwy radd.
  • Ysgol â record tair blynedd o 20% A*/A mewn un pwnc yn cyflwyno graddau wedi’u hasesu gan y ganolfan yn unol â hyn. Er hynny, yn dilyn safoni, ni ddyfarnwyd A*/A i’r un disgybl.
  • Graddau myfyriwr UG fel a ganlyn: Bioleg B, Cemeg A, Ffiseg B. Pan gafwyd y gwir raddau gan CBAC heddiw, roeddent wedi’u hisraddio i Fioleg C, Cemeg C a Ffiseg U.
  • Dau fyfyriwr wedi’u hisraddio o C i U mewn un pwnc, er bod yr ysgol yn teimlo bod ganddynt ddigon o dystiolaeth i gefnogi’r graddau wedi’u hasesu gan y ganolfan.
  • Ysgol yn rhoi graddau U wedi’u hasesu gan y ganolfan i ddau fyfyriwr oherwydd ansawdd gwael y gwaith a phresenoldeb isel. Proses safoni CBAC yn eu gweld nhw’n codi i raddau C.
  • Myfyriwr yn codi mewn un pwnc o A i A* ac un arall yn yr un grŵp yn mynd o C i U.
  • Dau fyfyriwr o’r un gallu yn cael gradd B wedi’i hasesu gan y ganolfan mewn Llenyddiaeth Saesneg. Proses safoni CBAC yn gweld un yn cynnal y radd, a’r myfyriwr arall yn disgyn i radd D .
  • Enghreifftiau o fyfyrwyr yn cael eu hisraddio o C i U yn ystod safoni ond dim cyswllt gan CBAC yn gofyn am unrhyw dystiolaeth ychwanegol i gefnogi’r graddau wedi’u hasesu gan y ganolfan.
  • Un myfyriwr, ar ôl cael A* mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg yn TGAU, a gradd B wedi’i hasesu gan y ganolfan mewn Ffiseg UG, eleni yn cael ei israddio i radd U gan CBAC.
  • Un myfyriwr o allu uchel yn cael ei israddio o A* i C mewn un pwnc, ond eto’n aros ar A* mewn pwnc tebyg.
  • Amryw o enghreifftiau o ddysgwyr o’r un gallu mewn pwnc yn cael yr un radd wedi’i hasesu gan y ganolfan, ond yn cael o leiaf 2 radd o wahaniaeth rhyngddynt ar ôl safoni gan CBAC.
  • 1% o ddysgwyr â’r hawl i brydau ysgol am ddim yn cael graddau is yn sgil safoni, sydd yn uwch na’r rheiny nad ydynt yn gymwys.

A-Level

Rhannu
Erthygl flaenorol Ailgylchu Gwastraff Dilynwch y rheol un person yn ein canolfannau ailgylchu…er diogelwch pawb
Erthygl nesaf Homelessness Y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r camau nesaf o ran mynd i’r afael â digartrefedd yn Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda'ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd...
GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda’ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd…
Fideo Pobl a lle Gorffennaf 18, 2025
Ffrinj Wrecsam
Ffrinj Wrecsam – arddangosfa o ddigwyddiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 18, 2025
start-up clinics
Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!
Busnes ac addysg Gorffennaf 16, 2025
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 16, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

start-up clinics
Busnes ac addysg

Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!

Gorffennaf 16, 2025
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Gorffennaf 16, 2025
good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cymerwch ran a helpwch i wneud yr Eisteddfod eleni yn llwyddiant ysgubol!

Gorffennaf 11, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English