Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref – archebwch le ymlaen llaw ar gyfer y penwythnos a gŵyl y banc
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref – archebwch le ymlaen llaw ar gyfer y penwythnos a gŵyl y banc
Y cyngor

Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref – archebwch le ymlaen llaw ar gyfer y penwythnos a gŵyl y banc

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 26, 2021 2:28 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Ailgylchu Gwastraff
RHANNU

Mae ailagor Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Brymbo wedi mynd yn dda a diolch yn fawr i bawb sy’n defnyddio’r cyfleuster ac yn cadw at y cynllun 10 pwynt.

Mae’r system archebu’n gweithio’n dda ond cofiwch os ydych am ddefnyddio cyfleuster Brymbo dros y penwythnos a gŵyl y banc y bydd angen i chi archebu ymlaen llaw erbyn dydd Gwener.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Er mwyn archebu lle yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Brymbo, ffoniwch 01978 801463 rhwng 8am  a 5pm dydd Llun i ddydd Gwener. Pan gyrhaeddwch y cyfleuster bydd eich enw a’ch rhif cofrestru’n cael ei gofnodi fel cyfeirnod ar gyfer eich archeb. Bydd angen i chi ddangos prawf preswylio hefyd wrth gyrraedd y safle ac rydym yn gwrthod pobl nad ydynt yn dod o ardal bwrdeistref sirol Wrecsam.

Ni chaniateir mwy na phump cerbyd ar y safle ar un adeg, ac ni chaniateir trelars.

Dilynwch y 10 rheol ganlynol i gadw pawb yn ddiogel

Fe fyddwn yn gweithredu amodau llym iawn er mwyn sicrhau diogelwch staff a’r cyhoedd.

Dilynwch y 10 rheol yma:

  1. Peidiwch â mynd i’r safleoedd os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich aelwyd symptomau o Covid-19, neu os ydych chi’n cael eich gwarchod am fod gennych gyflwr iechyd presennol.
  2. Dewch â gwastraff yr aelwyd yn unig gyda chi. Peidiwch â dod â gwastraff masnachol neu wastraff busnes gyda chi.
  3. Dewch â phrawf gyda chi eich bod yn byw yn y fwrdeistref sirol (e.e. bil cyfleustodau gyda’ch cyfeiriad arno). Mae’r safleoedd hyn ar gyfer preswylwyr Wrecsam yn unig. Os nad oes gennych brawf eich bod yn byw yma, ni chewch adael eich sbwriel. Ffoniwch 01978 801463 i drefnu apwyntiad os hoffech chi ddefnyddio safle Brymbo.
  4. Byddwch yn amyneddgar os bydd rhaid i chi aros mewn ciw. Ni chaniateir mwy na phump cerbyd ar y safle ar un adeg. Ni chaniateir trelars ar safle Brymbo.
  5. Sicrhewch mai dim ond un person sydd yn dod allan o’r cerbyd er mwyn dadlwytho, a’u bod yn dilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol. Nodwch fod rhaid i blant aros yn y car trwy’r amser a ni chaniatawyd anifeiliaid anwes ar y safle.
  6. Peidiwch â dod ag eitemau sydd yn rhy fawr neu’n rhy drwm i chi eu cario eich hun. Ni fydd ein gweithwyr yn cael eich helpu i ddadlwytho eich car, na chael gwared ar eich gwastraff.
  7. Sortiwch eich gwastraff cyn i chi gyrraedd (er mwyn i chi fod yn gyflym).
  8. Byddwch yn gwrtais. Ni fyddwn yn goddef ymddygiad ymosodol tuag at ein staff. Bydd gan weithwyr ar y safle gamerâu a wisgir ar y corff, bydd unrhyw achosion yn cael eu hymadrodd i’r heddlu.
  9. Peidiwch â chyffwrdd eich wyneb ar y safle, a dewch â’ch hylif diheintio dwylo eich hun os allwch chi (glanhewch eich dwylo gyda’r hylif cyn i chi yrru nôl am adref).
  10. Os oes gennych chi eitemau ar gyfer y siop ailddefnyddio (e.e. beiciau a nwyddau eraill mewn cyflwr y gellir eu defnyddio eto) gadewch nhw adref am rŵan.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam ac Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, a Darren Williams, Prif Swyddog dros yr Amgylchedd a Thechnegol: “Hoffem ddiolch i bawb am archebu lle ymlaen llaw yng Nghanolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Brymbo ac am ddilyn y canllawiau. Os ydych am ddefnyddio’r safle dros y penwythnos a gŵyl y banc bydd angen i chi archebu eich lle erbyn dydd Gwener ar y rhif ffôn uchod.”

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Diolch i Athrawon Mae’n Ddiwrnod Diolch i Athrawon
Erthygl nesaf Mae’r arddangosfa ar-lein Rhannu o Gartref yn lansio heddiw! Mae’r arddangosfa ar-lein Rhannu o Gartref yn lansio heddiw!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English