Helpwch Wrecsam i groesawu ymwelwyr o bob cwr o’r byd…
Mae dau gyfle cyffrous newydd am swyddi ar gael gyda Chanolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam ar Stryt Caer.
Os ydych chi’n caru Wrecsam ac yn angerddol am ddarparu profiad gwych i gwsmeriaid i bobl sy’n ymweld â’n dinas, efallai mai hon yw’r swydd i chi.
Cyn y prysurdeb cyn y Nadolig, bydd ein rheolwr masnachol newydd yn gweithredu llawer o ychwanegiadau cyffrous i’r ganolfan sydd wedi adleoli o’i hen leoliad ar Sgwâr y Frenhines.
Nid yn unig y bydd y ganolfan fodern sydd wedi’i hailwampio’n ddiweddar yn parhau i ddarparu cyfoeth o wybodaeth leol am Wrecsam, ond dros yr wythnosau nesaf, bydd yn arddangos y gorau o fusnesau lletygarwch yr ardal, bwyd a diod lleol, anrhegion, a bydd digwyddiadau dros dro yn cael eu cynnal i godi blys arnoch!
Mae Lynn Newell wedi gweithio fel cynorthwy-ydd yn y Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr ers 2017 ac mae hi’n mwynhau cwrdd ag amrywiaeth o ymwelwyr o bob cwr o’r byd.
Meddai Lynn: “Rwyf wedi byw yn Wrecsam trwy gydol fy oes a dros y pum mlynedd diwethaf, rwyf wedi bod yn falch iawn o groesawu pobl leol ac ymwelwyr o leoedd mor bell ag America, Awstralia a Seland Newydd.
“Mae ochr dwristaidd Wrecsam wedi ffynnu’n fawr dros y ddegawd diwethaf ac mae cyffro’r sylw diweddar yn sgil y cais am Ddinas Diwylliant a’r broses o brynu’r clwb pêl-droed wedi rhoi hwb ychwanegol i ni.
“Mae gweithio yma yn y ganolfan yn rhoi cyfle gwych i unrhyw un sy’n chwilio am her newydd, ac sydd mor falch ac angerddol dros Wrecsam â gweddill y tîm.”
Mae’r swyddi sydd ar gael yn rhai parhaol, mae angen i chi allu siarad Cymraeg yn rhugl ac mae 27 awr yr wythnos ar gael, yn cynnwys dyddiau Sadwrn.