Hoffem gynghori unrhyw drigolion nad ydynt wedi cofrestru ar gyfer casgliadau gwastraff gardd sydd bellach yn ystyried ymuno bod angen iddynt aros nes bod y calendr yn agor ar gyfer y flwyddyn gasglu nesaf os ydynt eisiau cael gwasanaeth 12 mis llawn.
Yn ddiweddar, mae rhai trigolion wedi ymuno â’n gwasanaeth 2021/22 cyfredol gan feddwl y byddent yn cael 12 mis o gasgliadau o’r dyddiad y bu iddynt gofrestru, ond nid dyma’r sefyllfa.
Gall trigolion nad ydynt eisoes yn cael y casgliadau ymuno â gwasanaeth 2021/22, ond mae angen bod yn ymwybodol ei fod yn rhedeg tan 2 Medi, 2022, felly os ydych yn ymuno â’r gwasanaeth nawr byddwch ond yn cael 3 mis o gasgliadau.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Disgwylir i werthiant 2022/23 agor yn yr haf
Nid yw’r gwasanaeth 12 mis llawn nesaf ar gael ar hyn o bryd. Rydym yn disgwyl i’r system adnewyddu ar gyfer gwasanaeth Medi 2022-Awst 2023 agor yn yr haf.
Peidiwch â cheisio adnewyddu cyn i ni roi’r manylion hyn i chi.
Rhewi cost gwasanaeth hyd Fedi 2023
Mae cost eich gwasanaeth casglu gwastraff gardd wedi ei rewi ar £25 fesul bin gwyrdd y flwyddyn am y flwyddyn gwasanaeth nesaf (Medi 2022-Awst 2023).
Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog Amgylcheddol a Thechnegol: “Rydym yn falch o allu rhewi cost y gwasanaeth tan fis Medi 2023. Bydd y £25 fesul bin gwyrdd yn cadw cost gwasanaeth Wrecsam yn un o’r rhai isaf yng Nghymru a Lloegr.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH