Bydd yr A5 ar gau er mwyn trwsio’r clwydi diogelwch gyda’r nos ar Ragfyr 5, 6, 7 ac 8 rhwng 8pm a 6am – pan nad oes cymaint o draffig ar y ffordd.
Bydd y gwaith yn golygu cau’r ffordd yn llwyr i’r gogledd ac i’r de rhwng cylchfan Halchdyn a chylchfan y Galedryd.
Caiff traffig ei ddargyfeirio oddi ar yr A5 i B5070 Ffordd y Waun ac yn ailymuno â’r A5 yn y Galedryd wrth fynd tua’r de ac yn Halchdyn wrth fynd tua’r gogledd.
Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru a fydd yn cyflawni’r gwaith, ac mae’n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU