Bydd gwaith atgyweirio hanfodol i’r prif gyflenwad nwy yn cael ei gynnal ar Stryd Fawr, Rhiwabon yn golygu y bydd newidiadau i lwybrau’r gwasanaeth bysiau yn yr ardal. Dyma’r wybodaeth ddiweddaraf gan y cwmnïau bysiau am y newidiadau:
“Arriva Midlands”
Bydd llwybr 2, 2A a 2C tuag at Wrecsam yn troi i’r dde wrth Westy’r Wynnstay yn Rhiwabon a bydd y safle bws dros dro ar Lôn Parc wrth ymyl y Gwesty. Bydd bysiau yna’n parhau ar yr A483 tuag at Rhostyllen, ac yn parhau ar y llwybr arferol i Wrecsam o Gylchfan Rhostyllen.
Bydd Llwybrau 2, 2A a 2C tuag at Cefn Mawr a Chroesoswallt yn gwyro o Rhostyllen, ac yn parhau ar hyd yr A483 tuag at droad Whitchurch (A539)) ac yna’n troi’n ôl ar ei hun i Rhiwabon (i’r chwith, ac i’r chwith eto dros y ffordd osgoi) ac mae’r safle bws dros dro ar Lôn Parc, wrth Westy’r Wynnstay cyn parhau ar y llwybr arferol.
Bydd teithiwr sydd eisiau cyrraedd pentref Rhiwabon, Ystâd Ddiwydiannol Vauxhall a Johnstown yn newid yma ar gyfer 2B (pan mae’n weithredol) yn parhau i Rostyllen sy’n cysylltu â llwybr 3/4/4A i barhau ar eu siwrneiau
Bydd llwybr 2B (i’r ddau gyfeiriad) yn gweithredu llwybrau arferol i/o Stryd Fawr Rhiwabon i’r ganolfan iechyd, yn troi ac yn ailddechrau tuag at Wrecsam.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
“Bysiau Arriva Cymru”
Bydd llwybr 5, 5E tuag at Wrecsam yn troi i’r dde wrth Westy’r Wynnstay yn Rhiwabon a bydd y safle bws dros dro ar Lôn Parc wrth ymyl y Gwesty. Bydd bysiau yna’n parhau ar yr A483 tuag at Rostyllen, ac yn parhau ar y llwybr arferol i Wrecsam o Gylchfan Rhostyllen.
Bydd Llwybrau 5 a 5E tuag at Langollen yn gwyro o Rostyllen, ac yn parhau ar hyd yr A483 tuag at droad Whitchurch (A539) ac yna’n troi’n ôl ar ei hun i Riwabon (i’r chwith, ac i’r chwith eto dros y ffordd osgoi) ac mae’r safle bws dros dro ar Lôn Parc, wrth Westy’r Wynnstay cyn parhau ar y llwybr arferol.
“Tacsis Coastline”
Bydd Llwybr yr X5 tuag at Wrecsam o A539 Ffordd Llangollen yn parhau’n uniongyrchol ar hyd yr A483 i Wrecsam.
Bydd llwybr yr X5 tuag at Gorwen o Wrecsam yn parhau’n uniongyrchol ar hyd yr A483 i ailymuno â’r llwybr arferol ar yr A539 Llangollen Road Ffordd Llangollen.
Diweddarwyd 07.08.18
“easyCoach.co.uk”
Llwybr 2 tuag at Wrecsam o’r A539 Ffordd Llangollen, bydd y bws yn ymuno â’r A483 yng nghyffordd 1 ac yn gadael yng nghyffordd 2, tuag at Riwabon ar hyd Ffordd Llys Newydd, ac yn ail-ymuno â’r B5605 Wynville i barhau â’r llwybr arferol i Wrecsam.
Llwybr 2 tuag at Groesoswallt yn gwyro o’r B5605 Wynville yn Rhiwabon, i Ffordd Llys Newydd, ac ar hyd yr A483 i Gyffordd 1 ac yna parhau ar yr A539 cyn parhau â’r llwybr arferol i Gefn Mawr.
Llwybr 2D tuag at Wrecsam o’r A539 Ffordd Llangollen, bydd y bws yn ymuno â’r A483 yng nghyffordd 1 ac yn gadael yng nghyffordd 2, tuag at Riwabon ar hyd Ffordd Llys Newydd, ac yn ail-ymuno â’r B5605 Wynville i barhau â’r llwybr arferol i Wrecsam.
Llwybr 2D tuag at Gefn Mawr yn gwyro o’r B5605 Wynville yn Rhiwabon, i Ffordd Llys Newydd, ac ar hyd yr A483 i Gyffordd 1 ac yna parhau ar yr A539 cyn parhau â’r llwybr arferol i Gefn Mawr.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: Bydd y gwaith hanfodol i’r cyflenwad nwy yn golygu y bydd amhariad i’r cyhoedd oherwydd nid yw eu llwybrau arferol yn rhydd i’w defnyddio, ac rwy’n ddiolchgar i’r cwmnïau bysiau am eu hymateb i’r broblem hon.”
Mae’r rhain i gyd yn ffyrdd a’i rhedwyd yn fasnachol, a ddylech wirio unrhyw fanylion ar wefannau gweithredwyr unigol am fanylion ymhellach.
https://www.arrivabus.co.uk/midlands/
https://www.arrivabus.co.uk/wales
https://bustimes.org/operators/coastline-taxis
https://bustimes.org/operators/easycoach
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN