Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hoffech chi fod yn bennaeth yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg fwyaf Wrecsam?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
St Mary's Brymbo
Ysgol y Santes Fair, Brymbo – contractwr wedi’i gyhoeddi!
Busnes ac addysg
Bicycle
Gohirio gwaith ffordd ar gyfer cynllun teithio llesol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Mae ymgynghoriadau ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Penygelli ac Ysgol Maes y Mynydd yn fyw
Mae ymgynghoriadau ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Penygelli ac Ysgol Maes y Mynydd yn fyw
Busnes ac addysg
ddiwrnod y cesglir eich biniau
Casgliadau biniau dros gyfnod yr ŵyl
Y cyngor
Gwersyllt library
Cipolwg ar weithgareddau llyfrgell Gwersyllt
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Hoffech chi fod yn bennaeth yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg fwyaf Wrecsam?
Busnes ac addysg

Hoffech chi fod yn bennaeth yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg fwyaf Wrecsam?

Diweddarwyd diwethaf: 2018/08/02 at 1:15 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Ysgol Bodhyfrd
RHANNU

Mae Ysgol Bodhyfryd yn gymuned o bobl – plant, athrawon, rhieni, llywodraethwyr, ffrindiau a chymdogion…

Cynnwys
Cefndir yr ysgol…Y person sydd ei angen arnynt

Mae’r gymuned hon yn chwilio am arweinydd brwdfrydig i’w harwain a’u helpu i lunio’u dyfodol. Mae’n gyfle gwych i’r person cywir ac os credwch mai chi yw hwnnw/honno, daliwch i ddarllen…

Cefndir yr ysgol…

Mae Ysgol Bodhyfryd yn ysgol ‘dosbarth melyn’ ar hyn o bryd… sy’n golygu ei bod yn ysgol dda… ond mae’n awyddus i fod yn ardderchog!

Dyma’r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg fwyaf a hynaf yn Wrecsam? Mae 397 o ddisgyblion yno a 47 o staff addysgu (gan gynnwys cynorthwywyr addysgu), a’u brwdfrydedd nhw fydd yn llywio’r gwelliant hwn.

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

Dywed Cadeirydd y Llywodraethwyr, Suzanne Price, bod lles, cynwysoldeb, gwaith tîm, safonau uchel a disgwyliadau uchel i gyd yn rhan flaenllaw o ethos yr ysgol:

“Gyda’n Gilydd” yw arwyddair ein hysgol ac mae’n gynrychioliad gwir o’r ysgol – rydym yn ysgol gyfeillgar a gofalgar sydd â Chymdeithas Rhieni ac Athrawon frwd a chorff llywodraethu cefnogol.

“Roedd ein cyn bennaeth gyda ni am 18 mlynedd cyn symud ymlaen i swydd gydag Estyn – mae’r plant bellach yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pennaeth newydd.”
Hoffech chi fod yn bennaeth yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg fwyaf Wrecsam?Hoffech chi fod yn bennaeth yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg fwyaf Wrecsam?
Mae’r plant wedi dylunio gwaith celf i gefnogi’r ymgyrch recriwtio ac nid oes unrhyw un gwell i ddweud wrthych am yr ysgol nag un o’i disgyblion…

Dywed Summer: “Mae angen pennaeth gwych arnom oherwydd mae ein hysgol yn arbennig. Mae gennym blant parchus sy’n barod i ddysgu.

“Mae angen pennaeth arnom a fydd yn dangos parch ac yn barod am her.”

Y person sydd ei angen arnynt

Bydd angen llawer iawn o frwdfrydedd arnoch a bydd gofyn i chi fod yn siaradwr Cymraeg. Byddwch naill ai’n bennaeth profiadol neu’n ymarferydd addysgu eithriadol sydd â chymhwyster CPCP.

Bydd angen i chi fod yn frwdfrydig dros welliant, bydd gennych brofiad o arwain, byddwch yn gallu gweithio’n dda fel aelod o dîm a bydd gennych sgiliau cyfathrebu gwych.

Byddwch yn barod i edrych i’r dyfodol ac ni fyddwch yn ofni rhoi cynnig ar bethau newydd.

Felly, hoffech chi gael cyfle i arwain y tîm hyfryd hwn?

Am drafodaeth anffurfiol, ffoniwch Cadeirydd y Llywodraethwyr, Suzanne Price ar 07970 028550.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrexham.gov.uk/welsh/vacancies_cy/vacancy.cfm?v_id=88C22E17-F2C7-4268-8074B9345C1A16A3″] Gwych … Ddangoswch y SWYDD [/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/”] Na… Dw i’n iawn ddiolch [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Datblygiad Goleuedig! Datblygiad Goleuedig!
Erthygl nesaf Diweddarwyd 07.08.18 Cau Stryd Fawr Rhiwabon – Newidiadau’r Llwybrau Bysiau Diweddarwyd 07.08.18 Cau Stryd Fawr Rhiwabon – Newidiadau’r Llwybrau Bysiau

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mary's Brymbo
Ysgol y Santes Fair, Brymbo – contractwr wedi’i gyhoeddi!
Busnes ac addysg Rhagfyr 11, 2025
Bicycle
Gohirio gwaith ffordd ar gyfer cynllun teithio llesol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Rhagfyr 10, 2025
Mae ymgynghoriadau ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Penygelli ac Ysgol Maes y Mynydd yn fyw
Mae ymgynghoriadau ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Penygelli ac Ysgol Maes y Mynydd yn fyw
Busnes ac addysg Rhagfyr 10, 2025
ddiwrnod y cesglir eich biniau
Casgliadau biniau dros gyfnod yr ŵyl
Y cyngor Rhagfyr 10, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

St Mary's Brymbo
Busnes ac addysg

Ysgol y Santes Fair, Brymbo – contractwr wedi’i gyhoeddi!

Rhagfyr 11, 2025
Mae ymgynghoriadau ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Penygelli ac Ysgol Maes y Mynydd yn fyw
Busnes ac addysg

Mae ymgynghoriadau ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Penygelli ac Ysgol Maes y Mynydd yn fyw

Rhagfyr 10, 2025
S Mary's RC School in Wrexham
Busnes ac addysg

Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn dathlu yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn

Rhagfyr 9, 2025
The Maelor School in Penley, Wrexham
Busnes ac addysg

Canmol Ysgol Maelor am ethos cynhwysol, addysgu effeithiol ac arweinyddiaeth gref yn Adroddiad diweddaraf Estyn

Rhagfyr 9, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English