Mae galw ar bobl a busnesau Wrecsam a Gogledd Cymru heddiw i gefnogi cynnig i ddod â buddsoddiad enfawr i economi’r rhanbarth.
Yn gynharach eleni cyflwynodd chwe Chyngor Gogledd Cymru sydd i gyd yn rhan o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, Fargen Dwf i Lywodraethau Prydain a Chymru. Bydd y cynnig am £383 miliwn yn caniatáu buddsoddiad o £1.3 biliwn yn economi Gogledd Cymru
“Cyfle gwych”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam ac aelod o Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru: “Rydym yn galw ar fusnesau, grwpiau, sefydliadau ac unigolion i fynd ar-lein a chefnogi’r cais hwn. Mae’n gyfle gwych i Ogledd Cymru, a Wrecsam wrth gwrs, i elwa o gyfran o’r buddsoddiad a fyddai’n cynnwys swyddi newydd, busnesau newydd, tai a chymorth i roi pobl yn ôl mewn gwaith. Rydym yn ddiolchgar iawn hefyd am gymorth a chefnogaeth y Daily Post wrth gefnogi’r cynnig hwn.”
“Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth”
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Cadeirydd Bargen Dwf Gogledd Cymru: “Roeddem wedi nodi’n gynnar iawn bod angen sylweddol i’r chwe chyngor uno o amgylch un weledigaeth yn gyffredin ar gyfer Gogledd Cymru gyfan, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi dod ynghyd gydag un llais – ein bod i gyd yn cefnogi’r Cynnig. Rydym mewn uwch drafodaethau gyda Llywodraethau Prydain a Chymru ynghyd â Swyddfa Cymru a Ken Skates (Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi, Seilwaith a Sgiliau) ac mae’r trafodaethau hyn yn datblygu’n dda.
“Ni fydd y Cynnig yn troi’n realiti nes iddo gael cymeradwyaeth felly rydym wir angen i bobl a busnesau Gogledd Cymru i ymuno â ni – a Chefnogi’r Cais- fel ein bod yn gallu mynd â’n economi i’r lefel nesaf.
“Mae pobl Gogledd Cymru hefyd yn chwarae rôl hanfodol yn llwyddiant y cais, felly rydym yn gofyn am eu cefnogaeth.
“Dyma gyfle cenhedlaeth i drawsnewid ein heconomi, ac mae’n bwysig ein bod yn gwneud hynny ar y cyd fel rhanbarth.”
Dangoswch eich cefnogaeth yma :
Bydd newyddion ar y cynnig yn debygol o fod erbyn ddiwedd y flwyddyn.
Dwedwch sut y medrwn ni ateb i’r heriau tai dros y pum mlynedd nesaf.
DW I EISIAU CYNNIG FY MARN AR DAI