Rydym yn clywed yn aml bod preswylwyr yn angerddol am gefnogi Wrecsam a’r busnesau lleol, a rŵan, mae ffordd arall o wneud hynny.
Mae VZTA Wrecsam yn ap newydd sy’n rhoi cyfle i fusnesau Wrecsam eu hyrwyddo eu hunain a chyrraedd cynulleidfa fwy. Mae’n bosibl eich bod wedi gweld yr holl weithgareddau hyrwyddo yng nghanol y ddinas, rŵan gallwch ei lawrlwytho yn yr App Store neu ar Google Play.
Pan fyddwch wedi lawrlwytho VZTA ac wedi dewis ‘Wrecsam’, byddwch yn gweld categorïau fel bwyd a diod a siopa, ble mae busnesau lleol wedi ychwanegu gwybodaeth am yr hyn maen nhw’n ei werthu, cynigion sydd ganddynt ar hyn o bryd a sut i ddod o hyd iddynt. Mae syniadau am bethau i’w gwneud yng nghanol y ddinas hefyd ac i archwilio ardaloedd sydd ychydig pellach yn y fwrdeistref sirol.
Meddai Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi ac Adfywio Cyngor Wrecsam: “Rwyf yn falch iawn o weld yr ap newydd hwn yn cael ei lansio ar ein taith i wneud Wrecsam yn ddinas glyfar, sy’n croesawu’r arloesedd a thechnoleg ddiweddaraf.
“Mae ap VZTA Wrecsam yn ffenestr siop rithiol i fusnesau lleol, sy’n rhoi cyfle iddynt arddangos eu busnes, eu cynnyrch ac unrhyw gynigion arbennig sydd ganddynt i’w hyrwyddo.
“Yn yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’n gyfnod anodd i fusnesau a bydd hyn yn rhywbeth arall i’w helpu.
“Byddwn yn annog pob busnes lleol i gael eu hunain ar yr ap, ac yn annog preswylwyr Wrecsam a thu hwnt i’w lawrlwytho i helpu ein heconomi leol.”