Mae Cynllun Cefnogwyr Rhieni Wrecsam yn flwydd oed erbyn hyn!
Mae Cefnogwyr Rhieni yn rhieni gofalwyr gwirfoddol sy’n cefnogi gwasanaethau i rieni eraill yn eu cymuned ac sy’n cael eu cefnogi gan Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.
Maent wedi cael blwyddyn brysur yn recriwtio a hyfforddi pedwar gwirfoddolwr, maent wedi mynychu digwyddiadau a chynnal sesiynau galw heibio yn y gymuned leol.
Mae gan yr holl wirfoddolwyr brofiadau bywyd amrywiol ac maent yn cynrychioli ardaloedd gwahanol o Wrecsam, ond mae un peth yn gyffredin; mae pob un eisiau rhoi rhywbeth yn ei ôl a rhannu eu profiadau o’r gwasanaethau yn eu hardal leol. Maent i gyd yn angerddol am gefnogi rhieni ac maent eisiau’r gorau ar gyfer bywyd teuluol.
Mae Cefnogwyr Rhieni’n cynnal dau sesiwn rheolaidd, un yn Yellow and Blue, sef caffi cymunedol, ar y trydydd dydd Gwener o’r mis rhwng 1pm a 3pm. Cynhelir y llall yn Ysgol Sant Christopher, unwaith bob hanner tymor. Mae’r Cefnogwyr Rhieni hefyd yn cefnogi Swyddogion Estyn Allan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam trwy fynychu lleoliadau amrywiol yn y gymuned, yn cynnwys banciau bwyd a chanolfannau cymunedol, er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth a gynigir gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a chyfeirio teuluoedd at wasanaethau priodol yn yr ardal.
Mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn defnyddio eu gwybodaeth a sgiliau yn eu bywyd bob dydd. Mae un gwirfoddolwr yn mynychu Grŵp Cefnogaeth i Rieni fel rhiant ac mae wedi gallu rhannu ei gwybodaeth gyda rhieni eraill yno. Mae un arall yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac mae wedi gallu defnyddio ei gwybodaeth i gefnogi eu rhieni’n well.
Wrth i’r prosiect dyfu, maent wedi cydnabod yr angen am unigoliaeth a hyblygrwydd. Nid yw un ateb yn addas i bawb! Gall ein Cefnogwyr Rheini addasu eu rôl a mynychu digwyddiadau yn seiliedig ar eu gwybodaeth, sgiliau ac argaeledd tra’n cael eu cefnogi gan Gydlynydd Prosiect.
Cafodd cyflawniadau Cefnogwyr Rhieni eu cydnabod yn ddiweddar yn ystod Digwyddiad Wythnos Dathlu Gwirfoddolwyr Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam. Dywedodd Claire Hughes, Cydlynydd Cefnogwyr Rhieni, “Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd gan Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam, yn ffordd wych o ddathlu gwaith Cefnogwyr Rhieni.
“Rhoddwyd cydnabyddiaeth lawn i’r effaith y mae gwirfoddolwyr wedi’i gael ar y rhaglen a chyflawniad unigol pob un ohonynt. Mae hi wedi bod yn anrhydedd gweithio gyda’r gwirfoddolwyr dros y deuddeng mis diwethaf. Daw llwyddiant y rhaglen yn sgil eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd i gefnogi rhieni yn Wrecsam”.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, “Mae ein Cefnogwyr Rhieni wedi cael blwyddyn gyntaf dda iawn ac maent yn gwneud gwahaniaeth i rieni eraill yn eu cymunedau.
“Mae eu profiad a gwybodaeth gyfunol yn golygu y gallant addasu’n hawdd ac ymateb i anghenion neu bryderon rhieni eraill a darparu cyngor a chefnogaeth werthfawr.
“Rwy’n dymuno llwyddiant parhaus iddynt dros y flwyddyn nesaf.”
Prosiect Cefnogwyr Rhieni yn Ehangu
Mae prosiect Cefnogwyr Rhieni yn ehangu ac rydym ni’n chwilio am fwy o rieni sydd wedi defnyddio gwasanaethau i fod yn Gefnogwyr Rhieni gwirfoddol.
Ydych chi eisiau cefnogi rhieni yn eich ardal leol? Hoffech chi ymuno â chymuned hwyliog, gefnogol o wirfoddolwyr o’r un anian â chi? Oes gennych chi ychydig oriau yr wythnos i’w rhannu gyda phobl eraill? Ydych chi’n teimlo bod gennych yr hyn sydd ei angen i fod yn Gefnogwr Rhieni? Os mai’r ateb i unrhyw un o’r cwestiynau hyn yw “Hoffwn”, “Oes” neu “Ydw”, yna cysylltwch.
Fe fydd yr hyfforddiant nesaf yn cael ei gynnal ar 18 a 19 Hydref 2023. I archebu eich lle neu i gael gwybod mwy, e-bostiwch Claire: parentchampions@wrexham.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01978 292094.
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Chwilio am weithgareddau dros yr haf? Does dim rhaid i chi edrych ymhellach….
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch