Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Prosiect Porth Wrecsam yn cael gwahoddiad i ymuno â Bargen Dwf Gogledd Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Prosiect Porth Wrecsam yn cael gwahoddiad i ymuno â Bargen Dwf Gogledd Cymru
Y cyngorBusnes ac addysg

Prosiect Porth Wrecsam yn cael gwahoddiad i ymuno â Bargen Dwf Gogledd Cymru

Diweddarwyd diwethaf: 2023/07/27 at 1:45 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Wrexham Gateway
Artists impression
RHANNU

Fe allai Prosiect Porth Wrecsam dderbyn hwb o £4.79 miliwn ar ôl cael gwahoddiad i ymuno â phortffolio Bargen Dwf Gogledd Cymru ar ôl i aelodau o Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru gefnogi argymhelliad i wahodd pum prosiect newydd.

Yn ddibynnol ar gytuno ar amodau penodol, bydd pob prosiect bellach yn symud ymlaen i lunio achos busnes amlinellol.

Beth yw Prosiect Porth Wrecsam?

Mae Prosiect Porth Wrecsam yn anelu i adfywio safleoedd allweddol ac isadeiledd cludiant o amgylch Ffordd Yr Wyddgrug – coridor allweddol i mewn i’r ddinas. 

Mae’n cynnwys gwelliannau i gysylltedd teithio rheilffordd, bws a cheir, gwesty a chyfleusterau cynhadledd newydd, gofod swyddfa a gwelliannau i stadiwm y Cae Ras fydd yn caniatáu i bêl-droed rhyngwladol ddychwelyd i Ogledd Cymru. 

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae Bargen Dwf Gogledd Cymru yn fuddsoddiad o £1biliwn yn y rhanbarth, mae £240m ohono wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae prosiectau newydd sydd wedi’u cynnwys yn y rownd ddiweddaraf wedi cael dyraniad dros dro o gyllid cyfalaf y Fargen Dwf yn amodol ar gymeradwyaeth eu hachos busnes.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Mae hyn yn newyddion cyffrous iawn ac rydym ni’n ddiolchgar iawn i Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru am eu cefnogaeth. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ffynonellau buddsoddiad ar gyfer y rhaglen waith uchelgeisiol yma ac rydym ni bellach fymryn yn nes at gyrraedd ein nod.

“Fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r llwyddiant hyd yn hyn.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae hi bendant yn amser cyffrous i Wrecsam ac mae gan y cynlluniau sydd gennym ni a’n partneriaid y posibilrwydd o drawsnewid y Porth i Wrecsam.  Fe fydd hyn hefyd yn golygu hwb tuag at gyflogaeth a sgiliau i gymunedau lleol.

“Rydym ni rŵan yn edrych ymlaen at weithio gyda’n partneriaid i lunio cynllun busnes amlinellol a fydd yn dangos sut fydd y prosiect yn cael ei ddarparu’n gynaliadwy ac o fewn y gyllideb.”

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Cynghorwyr yn ystyried pecyn newydd i ariannu rhannau allweddol o brosiect Porth Wrecsam, gan gynnwys Kop newydd

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Prosiect Gwaith Chwarae Mae’n hwyl, mae am ddim, ac fe all pethau fod yn flêr!  Amser i chwarae trwy gydol yr haf…
Erthygl nesaf Parent Champions Cefnogwyr Rhieni, flwyddyn yn ddiweddarach…sut hwyl maent wedi’i gael

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Tŷ Pawb i gynnal Parth Cefnogwyr Teuluol i Ferched Cymru yn Ewro 2025 ddydd Sadwrn yma!
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 2, 2025
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu
Y cyngor Gorffennaf 1, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam
Y cyngor

Cyfle am fwyty neu gaffi yng nghanol Wrecsam

Gorffennaf 2, 2025
Food Waste Recycling Caddy
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres yr haf hwn

Gorffennaf 1, 2025
Gwybodaeth
Y cyngor

Oedi mewn casgliadau biniau oherwydd tân mewn gwaith ailgylchu

Gorffennaf 1, 2025
Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Canol Dinas Wrecsam yn llawn Lliwiau Llwybr Gwenyn i ddathlu peillwyr

Mehefin 30, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English