Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cerddoriaeth fyw AM DDIM i ddathlu Dydd Miwsig Cymru!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cerddoriaeth fyw AM DDIM i ddathlu Dydd Miwsig Cymru!
ArallPobl a lle

Cerddoriaeth fyw AM DDIM i ddathlu Dydd Miwsig Cymru!

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 5, 2019 9:55 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Cerddoriaeth fyw AM DDIM i ddathlu Dydd Miwsig Cymru!
RHANNU

Rydym wedi trefnu diwrnod llawn gweithgareddau, gweithdai, adloniant a cherddoriaeth yn Nhŷ Pawb i ddathlu Dydd Miwsig Cymru, i ddechrau am 11.00 o’r gloch ddydd Sadwrn, Chwefror 9.

Cynnwys
  • Gig AM DDIM gyda’r nos!
  • Yr artistiaid:
  • Mynediad am ddim

Mae Dydd Miwsig Cymru’n dathlu pob math o gerddoriaeth Gymraeg.  P’un a ydych chi’n hoff o indie, roc, ffync, canu gwerin, electronica, hip-hop neu unrhyw beth arall, mae yno lwyth o gerddoriaeth Gymraeg anhygoel ichi ei ddarganfod.

I ddathlu’r diwrnod yn Wrecsam rydyn ni wedi trefnu diwrnod llawn gweithgareddau a cherddoriaeth yn Nhŷ Pawb!

SIARADWR CYMRAEG? LLENWI EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN!

Gig AM DDIM gyda’r nos!

Arlwy arbennig, gan gynnwys y band lleol Seazoo, sy’n argoeli’n dda am noson wych o gerddoriaeth.

Yr artistiaid:

  • HMS Morris
  • Seazoo
  • Ani Glass
  • Blind Wilkie McEnroe

Bydd y band cyntaf yn dechrau’i set am 6.45pm.

Noson fendigedig o adloniant, felly, ond cyn hynny mae llond lle o weithgareddau wedi’u trefnu hefyd!

Bydd yno ddigwyddiadau dwyieithog i deuluoedd rhwng 11am a 3pm yn Nhŷ Pawb. Dyma rai o’r uchafbwyntiau:

  • Gweithdy Cyfansoddi gydag Elis Derby – am ddim
  • Clwb Celf Dydd Sadwrn – ar thema Dydd Miwsig Cymru – £2 i bob plentyn
  • Parti Magi Ann
  • Gweithdy Flogio – Am ddim
  • Paentio Wynebau Cymreig – £1
  • Ffilm: Anorac (2018) – Am ddim
  • 4.45pm: Rygbi’r Chwe Gwlad: Cymru yn erbyn Yr Eidal (ar y sgrin fawr).

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Gymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, “Dyma’r bedwaredd flwyddyn inni ddathlu cerddoriaeth Gymraeg o bob math ar Ddydd Miwsig Cymru. Yn Wrecsam byddwn ni’n dathlu gyda diwrnod bendigedig o weithgareddau a difyrrwch yn Nhŷ Pawb, a byddwn yn annog pawb i ddod draw a dathlu cerddoriaeth Gymraeg.”

Dyma ffilm fer gyda Huw Stephens, troellwr disgiau Radio 1, yn sôn am Ddydd Miwsig Cymru a’r amrywiaeth anhygoel o gerddoriaeth boblogaidd yn Gymraeg.

Mynediad am ddim

Dydd Sadwrn, Chwefror 9 o 11am ymlaen.

Band cyntaf yn dechrau am 6.45pm.

Mae’r digwyddiad hwn yn brosiect ar y cyd rhwng Tŷ Pawb, FOCUS, yr Urdd yn Sir y Fflint a Wrecsam, a Menter Iaith Fflint a Wrecsam.

Ewch i dudalen Tŷ Pawb ar Facebook i gael gwybod mwy.

Siaradwr Cymraeg? Helpwch ni i wella ein gwasanaethau Cymraeg.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=803&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”] CWBLHEWCH EIN HYMGYNGHORIAD RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol LGBT Baner yr Enfys yn chwifio yn Wrecsam
Erthygl nesaf Uwchraddio Byncws y Waun diolch i Gynllun Mantais Gymunedol Uwchraddio Byncws y Waun diolch i Gynllun Mantais Gymunedol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Pobl a lle

Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach

Medi 22, 2026
Street lighting
Arall

Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English