Os ydych chi’n hoffi celf ac ar ôl noson allan sydd ychydig yn wahanol, yna mae hyn i chi!

Mae Tŷ Pawb yn cyflwyno noson gyffrous o wrth-bywlunio, fel rhan o’r rhaglen gyhoeddus ar gyfer arddangosfa Grayson Perry yn Tŷ Pawb.

Mae’n addo i fod yn noson hwyliog o gerddoriaeth, anhrefn, coctels a modelau gwych yn modelu am eich pleser arlunio.

Mae croeso i bob lefel sgiliau a gallu. Dewch hefo ffrindiau ac ymlaciwch i fwynhau dipyn o hwyl creadigol!

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Celf Cabaret, partneriaeth greadigol sy’n arbenigo mewn celf fyw a digwyddiadau darlunio ar gyfer pob gallu, gan ymgorffori perfformiad arlunio dychmygus, comedi, swyn a hwyl.

Sut i gymryd rhan

  • Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Sadwrn, Mawrth 9 am 7pm.
  • £10 y pen, gan gynnwys coctel (opsiynau di-alcohol ar gael) a taith o’r arddangosfa.
  • Rhaid archebu lle. Cysylltwch â typawb@wrexham.gov.uk neu 01978 292144 i gadw eich lle.

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb