Rydym yn cefnogi ymgyrch ymwybyddiaeth ddiweddaraf y Swyddfa Eiddo Deallusol (SED) yn canolbwyntio ar gynnyrch harddwch a hylendid.
Mae’r ymgyrch ‘Dewis Diogel nid Ffug’ yn canolbwyntio ar gynnyrch harddwch a hylendid, gydag ymchwil gan y SED yn canfod nad yw nifer o ddefnyddwyr yn ymwybodol o beryglon defnyddio cynnyrch ffug.
Bu i’r ymchwil ganfod fod defnyddwyr sy’n prynu nwyddau ffug o’r fath yn tybio eu bod wedi eu cynhyrchu mewn amodau tebyg – neu hyd yn oed yr un fath – â chynnyrch go iawn ac ar y cyfan nid oeddent yn ymwybodol o’r peryglon iechyd sy’n gysylltiedig â’u defnyddio.
Mae delweddau a gymerwyd yn ystod gweithgarwch gorfodi, ble mae cynnyrch o’r fath wedi eu cymryd, yn dangos darlun gwahanol:
Bu i brofion a wnaed ar ddetholiad o gynnyrch harddwch a hylendid ffug a gymerwyd ddangos eu bod yn cynnwys cynhwysion carsinogenaidd megis arsenig, plwm a mercwri.
Roedd samplau hefyd yn cynnwys wrin llygod a baw ceffylau, gan ddarparu tystiolaeth bellach o’u cynhyrchiad aflan.
Gan gymryd ysbrydoliaeth o estheteg hysbysebion harddwch nodweddiadol, mae’r ymgyrch yn dod â dylanwadwyr ynghyd, i dargedu hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol a’r wasg i ddatgelu’r cynhwysion dychrynllyd ac yn beryglus yn aml, gan helpu i rymuso cwsmeriaid i wneud dewisiadau gwybodus.
Mae hyn yn datblygu’r gweithgareddau ymgyrchu defnyddwyr blaenorol a wnaed gan y SED ers cyhoeddi ei strategaeth atal torri rheolau 5 mlynedd uchelgeisiol, wrth i’r swyddfa barhau i gyflawni o ran ei hymrwymiadau i gynyddu dealltwriaeth, ac yn y pen draw, parch y cyhoedd ar gyfer hawliau eiddo deallusol.
Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori
Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Wedi cael e-bost gan y DVLA? – TWYLL ydyw