Byddwn yn chwifio’r Faner 999 ddydd Llun, 9 Medi (9.9.19) i nodi Diwrnod Gwasanaethau Brys, a drefnwyd gan Wasanaeth Coffa’r Gwasanaethau Brys Cenedlaethol.
Mae’r elusen yn anelu i godi o leiaf £3miliwn i adeiladu senotaff cenedlaethol cyntaf Prydain i holl wasanaethau brys y DU ac i anrhydeddu mwy na 7,000 o bersonél sydd wedi colli eu bywydau tra’n gwasanaethu, ac i ddiolch i dros 2 filiwn o bobl sy’n gweithio o fewn y gwasanaethau brys heddiw.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae’r diwrnod yn debyg i’r Diwrnod Lluoedd Arfog llwyddiannus, ac mae’n anelu i hybu gwirfoddoli yn y gwasanaethau brys, addysgu’r cyhoedd am ddefnyddio’r gwasanaethau yn gyfrifol, dysgu sgiliau achub bywyd a hybu’r gwaith a wneir gan ein gwasanaethau brys o ddydd i ddydd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard: “Mae digwyddiadau diweddar yn y DU a hyd yn oed yn agosach at adref yma yn Wrecsam wedi amlygu sut mae ein gwasanaethau brys yn rhoi eu bywydau mewn perygl bob tro maent ar ddyletswydd. Ar ran bawb yn Wrecsam hoffwn ddiolch i bawb sy’n gwasanaethu a chyn aelodau o’r gwasanaethau brys am eu hymroddiad i’r gwasanaeth, eu dewrder a’u hangerdd am y gwaith maent yn ei wneud yma yn Wrecsam ac ar draws y wlad.”
Roedd Ian Bancroft, Prif Weithredwr yn adleisio’r geiriau hyn a dywedodd “Dylem i gyd gymryd ychydig funudau ddydd Llun i feddwl am beth mae’r gwasanaethau brys yn ei olygu, sut yr ydym yn dibynnu arnynt mewn sefyllfa 999 a sut y gallwn annog bawb i barchu’r gwaith maent yn ei wneud a bod yn ddiolchgar eu bod yno os byddwn eu hangen mewn argyfwng.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN
Tags to use:
@Official999Day
#999Day.org.uk