Heddiw, rydym wedi codi baneri Diwrnod y Lluoedd Arfog uwch ben Neuadd y Dref i ddangos ein cefnogaeth i ddynion a merched sydd yn ffurfio cymuned y Lluoedd Arfog.
Mae digwyddiadau cenedlaethol eleni’n cael eu cynnal ar 24 Mehefin yng Nghernyw ac yng Nghasnewydd yn Ne Cymru.
“Mae gan Wrecsam nifer o gysylltiadau cryf gyda’r Lluoedd Arfog”
Dywedodd y Maer, y Cynghorydd Andy Williams, “Rydym ni’n chwifio baner Diwrnod y Lluoedd Arfog bob blwyddyn er mwyn cydnabod a diolch i’r lluoedd arfog a’u teuluoedd am yr aberthau maent yn eu gwneud wrth wasanaethu eu gwlad.”
“Mae gan Wrecsam nifer o gysylltiadau cryf gyda’r lluoedd arfog a phan mae yna ddigwyddiadau, boed nhw’n rhai i ddathlu neu i gofio, mae pobl i’w gweld ar y strydoedd neu’n ymgasglu mewn niferoedd i gydnabod y rôl bwysig maent yn ei chwarae yn ein cymunedau.”
“Eleni, bydd nifer o filwyr, cyn-filwyr a’u teuluoedd o Wrecsam yn mynd i un o’r digwyddiadau cenedlaethol ac rwy’n dymuno siwrnai ddiogel a phleserus iddynt.”