Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y Bont sy’n Cysylltu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Bicycle
Gohirio gwaith ffordd ar gyfer cynllun teithio llesol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Mae ymgynghoriadau ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Penygelli ac Ysgol Maes y Mynydd yn fyw
Mae ymgynghoriadau ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Penygelli ac Ysgol Maes y Mynydd yn fyw
Busnes ac addysg
ddiwrnod y cesglir eich biniau
Casgliadau biniau dros gyfnod yr ŵyl
Y cyngor
Gwersyllt library
Cipolwg ar weithgareddau llyfrgell Gwersyllt
Digwyddiadau Pobl a lle
S Mary's RC School in Wrexham
Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair yn dathlu yn dilyn arolygiad diweddar gan Estyn
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Y Bont sy’n Cysylltu
Pobl a lle

Y Bont sy’n Cysylltu

Diweddarwyd diwethaf: 2024/05/03 at 12:45 PM
Rhannu
Darllen 2 funud
Pontcysyllte aqueduct and canal
RHANNU

Erthygl gwestai gan Glandŵr Cymru

Dydd Sadwrn 4ydd Mai 11am – 2pm – Capel Ebeneser, Cefn Mawr

Dydd Llun 6ed Mai 11am – 2pm Canolfan Ymwelwyr Dyfrbont Pontcysyllte a Basin Trefor, Basin Trefor

O Gefn Mawr i’r Waun y gwanwyn hwn, ymunwch â Glandŵr Cymru wrth i ni archwilio a darganfod beth sy’n gwneud y cymunedau ac amgylcheddau cyfagos Safle Treftadaeth y Byd yn Wrecsam mor unigryw.

Sut daeth y lle hwn i fodolaeth? Beth sydd wedi siapio eich hanes a’ch hunaniaeth?

Oes gennych chi unrhyw bethau cofiadwy, arteffactau (gwisgoedd, bathodynnau adnabod, offer, albwm lluniau) neu straeon i’w rhannu am hanes diwydiannol yr ardal? Rydym eisiau clywed am hanes y dywodfaen, am y navvies Gwyddelig ac am Monsanto yn fwy diweddar – dewch draw i’n helpu i greu stori eich cymuned, rhwng 1805 a 2024.

Bydd y digwyddiadau cymunedol hyn at ddant y teulu cyfan. Bydd llu o weithgareddau gwahanol yn cael eu rhedeg gan artistiaid, curaduron a ffotograffydd mewn partneriaeth gyda Tŷ Pawb ac Xplore.

Cymerwch ran ar y diwrnod trwy:

  • Ddod â lluniau, neu albymau y gallwn eu sganio, pethau cofiadwy, arteffactau a straeon eich teulu.
  • Edrych a meddwl am eich cymuned a’ch cysylltiad â’r dyfrffyrdd trwy lens camera mewn gweithdy aml-leoliad Ffotograffiaeth gyda’r ffotograffydd dogfennol Oliver Stephen a fydd yn dysgu sgiliau arbennig i chi ar y diwrnod.
  • Creu map Cymunedol gyda Sophia Leadill.
  • Adeiladu eich camlas gymunedol gydag Xplore!
  • Curadu eich arddangosfa eich hun gyda The Dispensary Gallery a Tŷ Pawb.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau a’r gweithgareddau ewch i @TheStreaminthesky ar Facebook neu Instagram, neu e-bostiwch Natasha Borton.

Prosiect Celf Safle Treftadaeth y Byd yw Y Bont sy’n Cysylltu a chaiff ei redeg gan Glandŵr Cymru. Mae’r prosiect wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Y Bont sy'n Cysylltu
Rhannu
Erthygl flaenorol Tour of Britain DATGELU LLWYBRAU AR GYFER CYMALAU AGORIADOL TAITH PRYDAIN I FERCHED 2024
Erthygl nesaf WOW Walk to School Challenge Ysgolion Wrecsam yn cymryd rhan yn Her Cerdded i’r Ysgol: WOW

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Bicycle
Gohirio gwaith ffordd ar gyfer cynllun teithio llesol
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Rhagfyr 10, 2025
Mae ymgynghoriadau ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Penygelli ac Ysgol Maes y Mynydd yn fyw
Mae ymgynghoriadau ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Penygelli ac Ysgol Maes y Mynydd yn fyw
Busnes ac addysg Rhagfyr 10, 2025
ddiwrnod y cesglir eich biniau
Casgliadau biniau dros gyfnod yr ŵyl
Y cyngor Rhagfyr 10, 2025
Gwersyllt library
Cipolwg ar weithgareddau llyfrgell Gwersyllt
Digwyddiadau Pobl a lle Rhagfyr 10, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Bicycle
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Gohirio gwaith ffordd ar gyfer cynllun teithio llesol

Rhagfyr 10, 2025
Gwersyllt library
DigwyddiadauPobl a lle

Cipolwg ar weithgareddau llyfrgell Gwersyllt

Rhagfyr 10, 2025
EV charging
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Gwaith uwchraddio safleoedd gwefru cerbydau trydan i ddechrau ym mis Ionawr

Rhagfyr 9, 2025
Planning ahead? Please keep recycling in mind in the lead up to Christmas
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Siopa Nadolig – ychydig o bethau i feddwl amdanynt…

Rhagfyr 9, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English