Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Topwood Ltd yn gallu diwallu eich holl anghenion rheoli dogfennau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae Topwood Ltd yn gallu diwallu eich holl anghenion rheoli dogfennau
Y cyngorBusnes ac addysg

Mae Topwood Ltd yn gallu diwallu eich holl anghenion rheoli dogfennau

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 19, 2023 2:57 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Topwood
RHANNU

Mae Topwood Ltd Document Management Service ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam yn brif ddarparwr gwasanaethau rheoli dogfennau yng ngogledd Cymru a gogledd orllewin Lloegr.

Cynnwys
  • Gwasanaethau Topwood Ltd
  • “Cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol”

Mae Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, y Cyng. Nigel, wedi ymweld â’r cwmni yn ddiweddar i ddysgu sut maen nhw wedi ehangu yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf i ddod yn brif ddarparwyr datrysiadau rheoli dogfennau hyblyg yng ngogledd Cymru a dros y ffin, gyda datrysiadau sydd wedi’u teilwra i fodloni gofynion cwsmeriaid.

Sefydlwyd y cwmni yn 2002 a bu iddyn nhw symud i’r stad ddiwydiannol yn 2028, ar ôl troi hen ffactori bwyd yn gyfleuster rheoli cofnodion diogel. Erbyn heddiw maen nhw’n cyflogi 23 aelod o staff o ardal Wrecsam.

Mae ganddyn nhw nifer o achrediadau amrywiol fel ISO 9001:2015 (System Rheoli Ansawdd), ISO 27001:2013 (Diogelwch Gwybodaeth), ISO 14001:2015 (Rheoli Amgylcheddol), BS10008:2014 (Derbynioldeb Cyfreithiol Gwybodaeth Electronig), Tystysgrif Contractwr Diogel, Trwydded Cludo Gwastraff (CBDU020106), aelod o gynllun Cyber Essentials, Aelod Cofrestredig Cymdeithas Diwydiant Diogelwch Prydain (BSIA), ac maen nhw hefyd yn meddu ar Ddyfarniad Efydd Cyfamod y Lluoedd Arfog.

Gwasanaethau Topwood Ltd

Mae ganddyn nhw dri pheiriant rhwygo, sy’n gallu dinistrio hyd at ddwy dunnell yr awr o wastraff cyfrinachol, deunydd pacio a deunyddiau eraill.

Maen nhw’n darparu gwasanaethau arbenigol sy’n cynnwys storio a rheoli dogfennau yn ddiogel, gwasanaeth dinistrio deunyddiau cyfrinachol sy’n cyd-fynd â safonau’r diwydiant, ac yn gallu trawsnewid cofnodion papur yn gofnodion digidol chwiliadwy ar lwyfan cwmwl.

Ar ben hynny maen nhw hefyd yn darparu ystafell bost ddigidol a phroses awtomatiaeth/gwasanaethau prosesu archebion sy’n helpu cwsmeriaid i weithio’n fwy effeithlon ac arbed arian.

“Cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol”

Meddai Simon Povey, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Topwood Ltd: “Roedd yn bleser croesawu Nigel i’n cyfleuster i ddangos ein gwaith ac i egluro ein cynlluniau cyffrous ar gyfer y dyfodol, sy’n cynnwys agor cyfleuster rhwygo dogfennau a byrnu newydd sbon danlli.

“Rydym ni’n falch iawn o’r gwasanaethau rydym ni’n eu cynnig i ystod o sefydliadau ar draws y rhanbarth, a byddwn yn parhau i fod yn ymwybodol iawn o’n cyfrifoldebau amgylcheddol wrth i ni fwrw ymlaen efo’n cynlluniau.”

Meddai’r Cyng. Nigel Williams: “Roeddwn i wedi fy mhlesio’n fawr iawn gan y cyfleuster ac ymroddiad ac ymrwymiad y staff. Mae eu gwaith yn broffesiynol iawn ac maen nhw’n ystyried eu cyfrifoldebau amgylcheddol a diogelwch o ddifrif.

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw i’r dyfodol ac yn edrych ymlaen at weld eu cynlluniau yn dwyn ffrwyth yn ystod y misoedd nesaf.”

Mae mwy o wybodaeth am Topwood Ltd a’u gwasanaethau ar gael ar eu gwefan neu drwy eu ffonio’n uniongyrchol ar 01978 464432.

Rhannu
Erthygl flaenorol Mayor of Wrexham Councillor Andy Williams Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn dathlu Gwirfoddolwyr Wrecsam…
Erthygl nesaf Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam Ymunwch â ni ar 24 Mehefin 2023 ar gyfer Gorymdaith Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dysgu yn Wrecsam
Busnes ac addysg

Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith

Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English