Ychydig yn rhy gynnar ar gyfer y Nadolig? Efallai, ond mae Eglwys San Silyn yng nghanol tref Wrecsam wedi agor eu siop Cardiau Nadolig flynyddol lle medrwch gael eich holl gardiau a hefyd helpu rhai o’r prif elusennau megis y rhai sy’n ceisio codi arian ar gyfer canser, plant, clefyd y galon, anableddau dysgu, diabetes, sglerosis cyhyrau a llawer mwy.
Mae dros 240 o ddyluniadau gwahanol ar werth ynghyd â chardiau Cymraeg a dwyieithog ar gael ynghyd â llenwyr hosanau a phapur lapio.
DYWEDWCH WRTHYM SUT RYDYCH CHI’N MEDDWL Y DYLEM NI ARBED £13M. LLENWCH YR HOLIADUR RŴAN.
Mae’n fenter ddielw gyda 77c o bob £1 sy’n mynd i elusen gyda’r gweddill yn mynd at weinyddu.
Gallwch brynu’ch cardiau tan 4.00pm bob dydd ond brysiwch gan eu bod nhw’n prysur fynd!
DYWEDWCH EICH DWEUD GADEWCH I BOBL ERAILL BENDERFYNU
Llenwch ein holiadur rŵan, a sicrhewch eich bod chi’n dweud eich dweud am yr arbedion arfaethedig i’r gyllideb.