Os ydych eisiau cymryd rhan yng nghystadleuaeth ffotograffau’r haf Europe Direct am gyfle i ennill £50, dyma ychydig o syniadau i’ch rhoi chi ar ben ffordd.
Mae’r Gystadleuaeth yn rhan o Flwyddyn Treftadaeth Ddiwylliannol Ewrop 2018 (gallwch ddarganfod mwy yma).
Thema’r gystadleuaeth yw treftadaeth ac yn ôl Trip Advisor y llefydd yma yw’r 4 tirnod mwyaf diddorol yn sir Wrecsam, felly beth am fynd i un ohonyn nhw a gweld os allwch chi dynnu’r llun buddugol yno?
- Dyfrbont Pontcysyllte – mae’r ddyfrbont 1007 troedfedd o uchder hon a ddyluniwyd gan Thomas Telford a Williams Jessop yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO a chafodd ei chwblhau yn 1805.
- Clychau Gresffordd – mae clychau Eglwys y Plwyf Gresffordd yn un o Saith Rhyfeddod Cymru ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd byddent yn canu fel rhybudd o ymosodiad
- Pyllau Plwm y Mwynglawdd – wedi’u lleoli yn Nyffryn Clywedog, yma cewch fewnwelediad hynod ddifyr i’r gorffennol diwydiannol wrth i chi archwilio gweddillion y mannau prosesu plwm o’r 18fed a’r 19eg ganrif.
- Dyfrbont y Waun – rhagflaenydd Dyfrbont Pontcysyllte, adeiladwyd y bont hon hefyd gan Thomas Telford a chafodd ei chwblhau yn 1801. Caiff ei llenwi â dŵr o’r Ddyfrdwy a Rhaeadr Bwlch yr Oernant.