Oeddech chi’n gwybod bod mwy i’n llyfrgelloedd lleol nag ydych chi’n ei feddwl? Yn ogystal â chyfres o lyfrau, cylchgronau a llenyddiaeth gyfeirio ar gyfer pob diddordeb, mae yna lu o weithgareddau i bawb yn ein cymuned.
Mae croeso cynnes i unigolion o bob oedran wrth i’n gwasanaethau llyfrgell agor eu drysau i bawb wythnos ar ôl wythnos. Heddiw, gadewch i ni edrych ar rai o’r digwyddiadau y gallwch chi ymuno â nhw yn llyfrgell Brynteg.
Ysbrydoli dychymyg yr ifanc
Ar gyfer rhieni a gofalwyr gyda babanod a phlant bach, gallwch ddod â nhw i’r sesiynau wythnosol Amser Stori ac Odli. Mae’r digwyddiad hwn yn berffaith ar gyfer plantos o dan 5 oed.
Cynhelir y sesiynau bob dydd Mawrth, 2.15pm tan 2.45pm. Gallwch chi ymuno am ddim a does dim angen i chi gadw lle ymlaen llaw.
Hefyd, i blant sy’n awyddus i greu, mae clwb Lego wythnosol bob dydd Sadwrn rhwng 11am a 12pm.
Wedi’i gynllunio i ysbrydoli meddwl creadigol, gwaith tîm, cyfathrebu a datrys problemau, bydd plant yn dysgu sgiliau meddal amrywiol wrth gael llawer o hwyl.
Does dim angen cadw lle yn y digwyddiad am ddim hwn felly dewch draw. Mae wedi’i dargedu at blant 4 oed a hŷn, fodd bynnag, mae blociau adeiladu ar gael i blantos o dan 4 oed sydd eisiau bod yno.
Ffrindiau hen a newydd
Weithiau, efallai y bydd pobl yn teimlo fel bod angen ychydig o gwmni arnyn nhw neu efallai y byddan nhw eisiau gwneud ffrindiau newydd. Yn llyfrgell Brynteg, mae Grŵp Cyfeillgarwch lle gallwch chi gwrdd â ffrindiau neu wneud rhai newydd.
Mae’r grŵp yn cyfarfod bob dydd Iau o 2pm tan 4pm. Mae’n ffordd hamddenol iawn o gymdeithasu a chwrdd ag eraill. Gallwch chi ddod â rhai crefftau, llyfr neu gwis gyda chi – neu ddod gyda dim byd. Bydd lluniaeth ar gael i’r rhai sy’n galw heibio.
Anogir unigolion, teuluoedd a gofalwyr i ddod i ymuno â’r sesiynau Hel Atgofion/Amser Cofio sy’n cael eu cynnal bob dydd Gwener o 2pm i 4pm.
Mae hwn yn gyfle gwych i rannu eich atgofion neu hel atgofion gyda llyfrau. Mae yna hefyd yr opsiwn i roi cynnig ar weithgareddau newydd a chwrdd ag eraill am sgwrs.
Mae croeso i chi ddod draw a mwynhau gyda lluniaeth am ddim ar gael hefyd.
Bod yn greadigol
Yn ogystal â’r amserlen wythnosol, mae yna weithgareddau misol hefyd. Mae’r Grŵp Crefft i Oedolion yn digwydd bob ail ddydd Llun o’r mis rhwng 3pm a 4pm.
Bob mis, mae yna brosiect gwahanol i’r artistiaid yn ein plith gyda llawer o gyfryngau gwahanol yn cael eu defnyddio.
Mae’r digwyddiad hwn yn addas i bob oedolyn ond mae lleoedd yn gyfyngedig felly mae’n rhaid i chi gadw lle. Gallwch gadw eich lle heddiw trwy e-bostio brynteg.library@wrexham.gov.uk neu ffonio 01978 759523.
Os oes gennych hen bos jig-so a allai gael bywyd newydd, mae yna Siop Cyfnewid Jig-so misol. Ar ddydd Mercher cyntaf y mis rhwng 2.30pm a 4.30pm, mae detholiad o bosau sydd wedi’u rhoi a’u cyfnewid ar gael i fynd â nhw adref.
Mae gofyn i’r rhai sy’n mynychu ddod â phosau cyflawn yn unig os gwelwch yn dda.
Am ragor o fanylion am yr holl ddigwyddiadau a grybwyllir yma a mwy, ewch i’n tudalen digwyddiadau llyfrgelloedd.


