Bydd ymwelwyr i Wrecsam yn cael cynnig ychwanegol eleni, oherwydd bod y Ganolfan Wybodaeth i Ymwelwr ar Stryt Caer wedi agor!
Ei henw’n flaenorol oedd ‘Y Ganolfan Wybodaeth i Dwristiaid’ ac yr oedd wedi’i lleoli ar Sgwâr y Frenhines o 1991 tan 2020. Mae gan y ganolfan newydd arwynebedd llawr dair gwaith yn fwy ac ethos yn seiliedig ar roi llwyfan i gynnyrch bwyd a diod lleol a rhoddion Cymreig yn ogystal â bod yn lle i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau, atyniadau a phethau i’w gwneud a’u gweld ledled y Sir.
Er eu bod nhw’n masnachu chwe diwrnod yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, bydd yr agoriad “swyddogol” yn cael ei gynnal am 10.00am ddydd Mercher 1 Mawrth – cyn yr orymdaith Dydd Gŵyl Dewi yng Nghanol y Ddinas.
Mae ymwelwyr i ganol y ddinas ar y diwrnod hwnnw’n cael eu hannog i alw heibio a chyfarfod rhai o’r cynhyrchwyr lleol ar y safle ar y diwrnod hwnnw, yn amrywio o rostwyr coffi artisan i wneuthurwyr cyffug, pobydd a llawer mwy!
Bydd cystadleuaeth i blant yn cael ei chynnal drwy gydol y dydd hefyd ar gyfer y wisg Gymreig orau – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw galw heibio’r ganolfan, cael eich llun wedi’i dynnu gyda Pete (ci defaid Wrecsam) a’r ffrâm hun-lun i gael cyfle i ennill hamper.
Mae tîm newydd wedi’i sefydlu dan arweinyddiaeth masnachwr lleol, Mick Pinder, ac mae’r ganolfan yn bwriadu dod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymwelwyr sy’n dod i Wrecsam dros y blynyddoedd nesaf. Dywedodd Mick:“Mae’n gyfnod cyffrous iawn i fod yn agor yn swyddogol, wrth ystyried y sylw ychwanegol y mae Wrecsam yn ei gael ar hyn o bryd. “Cawsom ni lansiad ysgafn yr hydref diwethaf a phob wythnos, mae rhagor o gynhyrchion lleol newydd yn cael eu gwerthu ac mae busnes yn tyfu, diolch i’r gymuned leol ac i fwy a mwy o deithwyr o dramor – y mae gan lawer ohonyn nhw ddiddordeb yn y pêl-droed!”
Er bod canolfannau eraill tebyg wedi cau ledled Gogledd Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, mae bod â chanolfan wybodaeth i dwristiaid yn cael ei weld yn nodwedd bwysig wrth i sector twristiaeth Wrecsam adfer o’r pandemig ac mae’n ymddangos ei fod yn parhau i dyfu. Ychwanegodd Joe Bickerton, Rheolwr Twristiaeth yng Nghyngor Wrecsam:“Mae bod â chanolfan weladwy, amlwg wedi’i lleoli rhwng dau atyniad (Tŷ Pawb ac Xplore!) yn bwysig iawn ac mae’n dangos ein hymrwymiad ni i gefnogi nid yn unig Canol y Ddinas ond hyrwyddo busnesau lletygarwch a digwyddiadau ledled y Sir hefyd. “Gyda diolch am y gefnogaeth gan Groeso Cymru, rydym ni’n gallu dylunio’r ganolfan i gynnig nid yn unig manwerthu a gwybodaeth – ond i gynnig man hyblyg i fasnachwyr bwyd a diod hefyd i gael lle masnachu dros dro, digwyddiadau blasu a mwy. “Os yw’n helpu i hyrwyddo twristiaeth leol ac arddangos pa mor wych yw Sir Wrecsam i ymweld ag ef ac aros yma – rydym ni’n awyddus i weithio gyda busnesau i geisio gwireddu hynny.”
Ychwanegodd Nigel Williams, Aelod Arweiniol Economi Cyngor Wrecsam:“Mae’n wych gweld y ganolfan newydd arbennig hon ar agor yn llawn ar adeg pan fo sylw’r byd ar Wrecsam. “Yn ogystal â chroesawu ymwelwyr o dramor am y tro cyntaf o ganlyniad i’r cyhoeddusrwydd y mae Wrecsam yn ei chael yn rhyngwladol, yr ydym ni hefyd yn croesawu llawer o ymwelwyr o’r DU sydd naill ai wedi gweld y cafodd Wrecsam ei chynnwys ar restr fer Dinas Diwylliant, neu fod Tŷ Pawb wedi’i gynnwys ar restr fer Amgueddfa’r Flwyddyn ymysg llawer o bethau eraill – a meddwl ‘mae’n rhaid i ni fynd yno!’ “Rydym ni’n uchelgeisiol iawn o ran y ffaith ein bod ni’n credu y bydd sector twristiaeth Cyngor Wrecsam yn tyfu dros y blynyddoedd nesaf a’r gobaith yw y bydd y ganolfan newydd yn cefnogi’r tîm i arddangos y rhesymau lu i ymweld ac aros yma.”
Mae Canolfan Wybodaeth i Ymwelwyr Wrecsam wedi’i lleoli ar Stryt Caer ar gornel Arcêd y De yn arwain i Tŷ Pawb a gyferbyn ag Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth. Ar agor rhwng 10.00am – 4.00pm ar hyn o bryd, ond bydd yn gweithredu rhwng 9.00am – 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o fis Mawrth ymlaen.
Gellir cysylltu â’r tîm dros e-bost ar tourism@wrexham.gov.uk ac ar y ffôn ar 01978292015.
Y gwefannau swyddogol ar gyfer ymwelwyr i’r ardal yw:
Dyma Wrecsam – https://www.thisiswrexham.co.uk/cy (wedi’i weithredu gan y bartneriaeth twristiaeth)
Gogledd Ddwyrain Cymru – www.northeastwales.wales
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD