Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Clinigau brechu symudol i agos yn Sir y Fflint a Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Clinigau brechu symudol i agos yn Sir y Fflint a Wrecsam
ArallPobl a lle

Clinigau brechu symudol i agos yn Sir y Fflint a Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 15, 2021 2:39 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Covid-19 vaccination in North Wales
RHANNU

Erthygl Gwadd gan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cynnwys
  • 6,000 mwy o bobl
  • Y brechiad yw’r unig ffordd

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn lansio clinigau brechu symudol ar draws ardaloedd Sir y Fflint a Wrecsam.

Bydd y clinig symudol ar agor i chi alw heibio heb fod angen apwyntiad, a thros y bythefnos nesaf, bydd yn ymweld â’r lleoliadau canlynol yn Wrecsam a Sir y Fflint, sydd â nifer uchel o gyflogwyr mawr:

  • Maes Parcio Charmley’s Lane, Shotton – dydd Sadwrn 17 Gorffennaf, 9:30am – 4pm.
  • Parc Busnes yr Wyddgrug – dydd Mawrth 20 Gorffennaf, hanner dydd – 5pm.
  • Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy – dydd Gwener 23 Gorffennaf, 1pm – 6pm.
  • Stad Ddiwydiannol Wrecsam – dydd Sadwrn 24 Gorffennaf, 10:00 – 4pm.

????????????

Cynhelir sesiwn Cwestiwn ac Ateb “gofynnwch i’r brechwyr” hefyd ym Mhartneriaeth Parc Caia, Ffordd Tywysog Siarl, Wrecsam, LL13 8YB, ddydd Gwener 16 Gorffennaf, 10am-2pm ar gyfer y rhai sydd â phryderon neu gwestiynau am y brechlynnau.

????????????

Bydd y ddau frechlyn yn cael eu cynnig yn y clinigau symudol ar y stad ddiwydiannol, a bydd Pfizer ar gael i’r rhai 18-39 oed yn y sesiwn C ac A, i’r rhai sy’n penderfynu ei gael.

Mae’r clinigau ar agor i unrhyw un sydd ddim wedi cael eu brechlyn cyntaf neu eu hail frechlyn tra bydd stoc ar gael. Mae’r Bwrdd Iechyd yn arbennig, yn annog y rhai 30-39 oed i alw heibio i gael eu hamddiffyn rhag COVID-19.

6,000 mwy o bobl

Yng Ngogledd Cymru, dim ond 70% o bobl 30-39 oed, sydd wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlyn, a tharged isaf y Bwrdd Iechyd ar gyfer bob grŵp targed yw 75%, felly mae angen 6,000 yn fwy o bobl o’r grŵp oedran hwn i ddod ymlaen i helpu i gyflawni lefel o amddiffyniad cymunedol i helpu i ddychwelyd i fywyd normal.

Meddai Tom Halpin, Arweinydd Rhaglen Frechu Covid-19 ar gyfer y Dwyrain: “Rydym yn falch o fod yn dod â brechiadau i’r ardaloedd hyn lle nad yw pobl o bosib wedi cael cyfle i ymweld â’n canolfannau brechu. Rydym yn gofyn i unrhyw un yn yr ardaloedd hyn sydd ddim wedi cael eu dos cyntaf neu ail ddos, i alw heibio i gael eu pigiad. Byddwn yn fwy na pharod i siarad gydag unrhyw un all fod â chwestiwn neu bryder ynghylch y brechlyn, gallwch drafod unrhyw bryderon heb unrhyw bwysau i gael y brechiad ar y diwrnod.

“Hoffem hefyd annog cyflogwyr ar draws yr ystadau diwydiannol i adael i’w staff ddod i glinig symudol i gael eu brechiadau er mwyn helpu i amddiffyn eu staff, cydweithwyr a’r gymuned ehangach.”

Y brechiad yw’r unig ffordd

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam: “Trwy gael eich brechu, nid yn unig rydych chi’n helpu i amddiffyn eich hun a phobl eraill – rydych chi’n helpu Cymru a gweddill y DU i symud i sefyllfa lle mae llai o bobl yn ddifrifol wael, ac y gallwn ni ddysgu i fyw gyda’r feirws.

“Felly hyd yn oed os ydych chi’n teimlo’n anorchfygol, fe ddylech gael y brechlyn cyn gynted â phosibl. Os ydym ni eisiau dychwelyd i fywyd mwy normal, a’r brechlyn ydi’r unig ffordd y gallwn ni wneud hynny.”

Gall bob preswylydd yng Ngogledd Cymru sydd dros 18 oed drefnu apwyntiad ar-lein ar gyfer y canolfannau brechu (slotiau newydd yn cael eu hychwanegu yn rheolaidd); neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004 i drefnu apwyntiad.

Neu, gallwch gerdded i mewn i Ganolfan Brechu Torfol Glannau Dyfrdwy a Catrin Finch yn Wrecsam, dydd Mawrth – ddydd Sul ym mis Gorffennaf, tra bydd stoc o’r brechlyn ar gael (ac eithrio dydd Mawrth, 20 Gorffennaf yng Nglannau Dyfrdwy).

Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/brechiad-covid-19-trefnu-apwyntiad-ar-lein/”]TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Maethu Cymru Lansiwyd Maethu Cymru i gynyddu’r nifer o rieni maeth yng Nghymru
Erthygl nesaf Rhestr o Gwaith Chwarae Gwyliau yn eich ardal Rhestr o Gwaith Chwarae Gwyliau yn eich ardal

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English