Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cloc y Stiwt yn Seinio
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cloc y Stiwt yn Seinio
ArallPobl a lle

Cloc y Stiwt yn Seinio

Diweddarwyd diwethaf: Mai 16, 2019 10:56 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Cloc y Stiwt yn Seinio
RHANNU

Am y tro cyntaf ers 2007, gall pobl y Rhos glywed Cloc y Stiwt yn canu ar ôl ymdrech arwrol gan y gymuned i godi digon o arian i adfer y clychau a’r cloc.

Cynnwys
  • “Yn falch iawn o beth rydym wedi ei gyflawni”
  • “Cofnod hanesyddol unigryw”

Lansiwyd apêl am gyllid i wneud y gwaith yn 2018 gyda tharged o £10,000, a gefnogwyd gan y gymuned hyd at £23,000! Roedd yr apêl hefyd yn nodi 50 mlynedd ers cau Pwll Glo’r Hafod lle roedd nifer o bobl leol yn gweithio.

ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?

Camodd sefydliadau eraill i’r adwy gan gynnwys Ysgol yr Hafod, Ysgol Maes y Mynydd ac Ysgol y Grango, a gododd arian mewn sawl ffordd, fel gwnaeth y Co-op a Chyfeillion y Stiwt.

Unwaith roedd £50,000 wedi ei godi, aethpwyd at CADW a derbyniwyd grant o £50,000. Gallai gwaith ddechrau bellach 🙂

Gwnaed y gwaith gan Phillips & Curry ac Ymgynghorwyr Treftadaeth y Stiwt fu’n rheoli, sef Tim Radcliffe Associates.

“Yn falch iawn o beth rydym wedi ei gyflawni”

Meddai Brian Jones, Cyfarwyddwr/Ymddiriedolwr Celfyddydau’r Stiwt: “Mae hwn yn adeilad pwysig iawn yn ein cymuned ac adfer y cloc yw’r prosiect cyntaf i ni ar gyfer adfer yr adeilad rhestredig Gradd 2 hwn i’w gyflwr gwreiddiol. Rydym yn arbennig o falch o beth rydym wedi ei gyflawni hyd yma.”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Lleol Johnstown ac Aelod o Gyngor Cymuned Rhos bod y Cyngor Cymuned wedi addo cyllid i roi cychwyn ar y prosiect a’i fod wedi bod yn llwyddiant mawr a’i fod yn wych gweld sut gall y gymuned gydweithio. Mae cofio hanes yn bwysig iawn ac rydym i gyd yn falch bod y cloc wedi cychwyn seinio eto.

Cloc y Stiwt yn Seinio

Mae’r llun yn dangos y Cynghorydd David A Bithell, Cyngor Cymuned y Rhos, Brian Jones, Cyfarwyddwr / Ymddiriedolwr Celfyddydau’r Stiwt ac Arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Mark Pritchard, a fynychodd ddigwyddiad i nodi adferiad y clychau’n ddiweddar.

Adeiladwyd y Stiwt yn 1926 – blwyddyn y Streic Gyffredinol – gyda grant cyfalaf o £20,000 gan Gymdeithas Lles y Glowyr – mae’r adeilad yn symbol o dreftadaeth lofaol yr ardal. Cyfrannodd glowyr y cyfnod 1 geiniog yr wythnos, llawer ohonynt o Bwll Glo’r Hafod a gaewyd yn 1968.

“Cofnod hanesyddol unigryw”

Yn wreiddiol roedd y cloc pedwar wyneb yn cael ei droi â llaw bob dydd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ar ôl i’r dyn oedd yn troi’r cloc ddringo i beirianwaith y cloc, penderfynodd nodi dyddiadau ac amseroedd y cyrchoedd awyr ar fynydd Rhos mewn sialc ar ddrysau’r cloc.  Mae’r cofnod hanesyddol unigryw hwn yn dal yno heddiw. Yn 1990 newidiwyd y peirianwaith i drydan, gan waredu’r angen i orfod troi’r cloc yn ddyddiol.

Cynhyrchodd yr Ymddiriedolaeth fideo i helpu gyda’r apêl (fideo Saesneg):

Mae’r Stiwt yn gartref i theatr hardd 490 sedd, yn ogystal â 3 gofod digwyddiadau hyblyg, ac wedi ei adeiladu a’i gynnal gan ac er lles y gymuned leol. Agorwyd y Stiwt ar 25 Medi, 1926, a chafodd ei ailwampio a’i ailagor yn 1999. Mae’r Stiwt yn elusen gofrestredig ac yn cael ei redeg gan Ymddiriedolaeth Celfyddydau’r Stiwt, Cyf.

Os ydych yn chwilio am rywle i’w logi ar gyfer sioeau, digwyddiadau neu logi ystafelloedd, beth am eu ffonio ar 01978 841300 neu anfon e-bost at eirian@stiwt.com

Stiwt Wrexham

Ai Maethu yw’r dewis i chi?

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/life_events_w/caring/fostering/index.htm”] DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae’n ôl ac yn debygol o fod yn well nag erioed Mae’n ôl ac yn debygol o fod yn well nag erioed
Erthygl nesaf Design School Lunch Healthy Plastic Free Rhowch gynnig ar y gystadleuaeth hon i gynllunio cinio ysgol sy’n iach ac yn ddi-blastig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English