Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cnoc, cnoc…a ydych chi eisiau prynu matres? Peidiwch â chael eich dal allan
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cnoc, cnoc…a ydych chi eisiau prynu matres? Peidiwch â chael eich dal allan
ArallPobl a lle

Cnoc, cnoc…a ydych chi eisiau prynu matres? Peidiwch â chael eich dal allan

Diweddarwyd diwethaf: Mai 31, 2019 3:55 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Mattress Scam
RHANNU

Mae cnoc ar y drws.
Dyn sydd yno.
Mae wedi parcio ei fan y tu allan i’ch tŷ.
Mae’n cynnig gwerthu matres i chi.
Mae’n ymddangos yn fargen dda.
Mae’n llawer rhatach na’r un yr oeddech chi’n ystyried ei phrynu.
Ond mae rheswm dros hyn…

Cynnwys
  • Peryglu bywydau
  • “Cynnyrch o ansawdd gwael”
  • Credadwy iawn

Rydym wedi cael gwybod am bobl sy’n gwerthu matresi o gefn faniau o amgylch Wrecsam, ac mae’n bwysig fod pobl yn ymwybodol mai twyll yw hyn.. peidiwch â chael eich temtio i wneud camgymeriad mawr.

ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?

Peryglu bywydau

Nid yw’r matresi hyn fel y maent yn ymddangos. Weithiau, mae’r fatres a gaiff ei chynnig i chi wedi’i gwneud o hen sbringiau ac wedi’i llenwi â defnydd budr, er bod y fatres yn ymddangos yn grêt o’r tu allan.

Neu efallai bod y fatres wedi’i chynhyrchu am llai na £50 gan ddefnyddio sbringiau sylfaenol iawn â phad ffibr polyester neu haen o ewyn rhad drosto, ac wedi’i gorchuddio â defnydd rhad… os ydych chi’n lwcus.

Y naill ffordd neu’r llall, gallwch fod bron yn sicr nad ydynt wedi derbyn profion i asesu a ydynt yn bodloni rheoliadau hylosgedd matresi’r DU… ac rydym ni’n siŵr nad oes arnoch chi eisiau rhoi eich hun na’ch teulu mewn perygl angheuol fel hyn.

“Cynnyrch o ansawdd gwael”

Roger Mapleson, Arweinydd Safonau Masnach a Thrwyddedu: “Os bydd rhywun yn cnocio ar eich drws yn cynnig gwerthu matres i chi, gellir bod yn eithaf sicr bod ansawdd y matresi hyn yn wael iawn ac nad ydynt wedi derbyn prawf yn erbyn rheoliadau hylosgedd matresi’r DU.

“Gellir bod yn eithaf sicr hefyd bod y fatres wedi’i chynhyrchu am ffracsiwn o’r ‘fargen’ neu’r pris ‘gwych’ y maent yn ei gynnig i chi, felly mae’n bwysig bod yn ymwybodol am y math hwn o dwyll fel nad ydych chi’n cael eich dal allan.”

Credadwy iawn

Gall y bobl sy’n gwerthu’r rhain ymddangos yn gredadwy iawn hefyd – mae ganddynt enwau cwmni tebyg iawn i’r brandiau poblogaidd, a logos sy’n ymddangos yn broffesiynol ar eu faniau a’u crysau polo – ond nid yw’r cynnyrch hyn fel y maent yn ymddangos.

Os byddant yn synhwyro nad ydych chi’n sicr, byddant yn ceisio eich perswadio eu bod yn gwmni dilys a’u bod yn gwerthu stoc dros ben o siop sydd wedi cau neu o archeb a gafodd ei ganslo.

Mae’n bosibl y bydd y matresi wedi’u pecynnu mewn plastig ac yn ymddangos yn smart ac yn ddilys gyda labeli yn dangos y prisiau manwerthu a argymhellir, ond nid yw’r matresi hyn fel y maent yn ymddangos.

Cofiwch os yw rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod o 🙂

Os ydych chi eisiau gwneud cwyn neu dderbyn cyngor am nwyddau neu wasanaethau yr ydych wedi’u prynu, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040506.

Ai Maethu yw’r dewis i chi?

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/life_events_w/caring/fostering/index.htm”] DYSGWCH FWY AM FABWYSIADU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol St Mary's school Recycling Wrexham Disgyblion Wrecsam ymhlith y goreuron am ailgylchu
Erthygl nesaf Cyllid ar gael ar gyfer grwpiau chwaraeon drwy’r Gist Gymunedol Cyllid ar gael ar gyfer grwpiau chwaraeon drwy’r Gist Gymunedol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English