Yn sgil y cyfnod atal byr sydd ar waith am bythefnos, gan gynnwys Sul y Cofio, mae gofyn i ni gyd gofio’r aberthau a wnaeth ein lluoedd arfog a’u teuluoedd yn y gorffennol a’r presennol er mwyn ein diogelu ni.
Ni fydd parêd yn cael ei gynnal yn Wrecsam eleni. Bydd gwasanaeth preifat bychan iawn yn cael ei gynnal ger Cofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Modhyfryd ar gyfer llond llaw o bobl allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r Lleng Brydeinig Frenhinol a’r lluoedd arfog.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Rydym yn gobeithio ffrydio’r digwyddiad yn fyw er mwyn i chi gael ymuno o’ch cartref, neu gallwch wylio’r gwasanaeth o’r Senotaff yn Llundain, a fydd yn cael i ddarlledu gan y BBC.
“Mae’r pandemig Covid-19 yn un o’r heriau mwyaf mewn hanes y mae’r wlad wedi ei wynebu, ac mae’r angen i gadw pobl yn ddiogel a chadw at ganllawiau’r llywodraeth yn golygu na fydd parêd na gwasanaeth cyhoeddus agored yn cael eu cynnal yn Wrecsam eleni.
“Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu na allwn gofio’r rheiny sydd wedi dioddef ac aberthu eu bywydau yn rhyfela, ac rwy’n gofyn i bawb yn y fwrdeistref sirol gymryd rhan mewn dau funud o dawelwch ar garreg eu drws eleni.
“Peidiwch â cheisio mynychu’r gwasanaeth ym Modhyfryd os gwelwch yn dda. Mae’r neges gan Lywodraeth Cymru yn glir… mae’n rhaid i bob un ohonom aros gartref yn ystod y cyfnod clo o bythefnos os oes arnom ni eisiau helpu Cymru i fynd i’r afael â’r feirws, lleihau’r pwysau ar y GIG ac arbed bywydau.
“Mae’n bosibl na fyddwn yn gallu dod at ein gilydd eleni, ond gyda’n gyda’n gilydd, gallwn gofio o hyd.”
Meddai Ant Metcalfe, Rheolwr Ardal y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru:
“Er ei fod yn hynod siomedig fod digwyddiadau Coffa yn cael eu cynnal mewn modd gwahanol eleni, rydym yn deall fod y penderfyniad hwn wedi’i wneud er mwyn diogelu iechyd a lles pawb sydd ynghlwm.
“Serch hynny, mae modd i’r cyhoedd helpu i sicrhau fod Sul y Cofio yn cael ei nodi’n briodol, ac mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn annog pobl i gofio mewn ffordd fwy personol eleni – p’un a ydych yn gwylio’r Gwasanaeth Coffa ar y teledu neu’n oedi am ddau funud o dawelwch ar garreg eich drws.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG