Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cofio o’n cartref – ffrydiad byw o Wasanaeth Coffa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar Sul y Cofio
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cofio o’n cartref – ffrydiad byw o Wasanaeth Coffa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar Sul y Cofio
Y cyngor

Cofio o’n cartref – ffrydiad byw o Wasanaeth Coffa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar Sul y Cofio

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 1, 2020 9:08 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Remembrance
RHANNU

Yn sgil y cyfnod atal byr sydd ar waith am bythefnos, gan gynnwys Sul y Cofio, mae gofyn i ni gyd gofio’r aberthau a wnaeth ein lluoedd arfog a’u teuluoedd yn y gorffennol a’r presennol er mwyn ein diogelu ni.

Ni fydd parêd yn cael ei gynnal yn Wrecsam eleni. Bydd gwasanaeth preifat bychan iawn yn cael ei gynnal ger Cofeb y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ym Modhyfryd ar gyfer llond llaw o bobl allweddol, gan gynnwys cynrychiolwyr o’r Lleng Brydeinig Frenhinol a’r lluoedd arfog.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Rydym yn gobeithio ffrydio’r digwyddiad yn fyw er mwyn i chi gael ymuno o’ch cartref, neu gallwch wylio’r gwasanaeth o’r Senotaff yn Llundain, a fydd yn cael i ddarlledu gan y BBC.

“Mae’r pandemig Covid-19 yn un o’r heriau mwyaf mewn hanes y mae’r wlad wedi ei wynebu, ac mae’r angen i gadw pobl yn ddiogel a chadw at ganllawiau’r llywodraeth yn golygu na fydd parêd na gwasanaeth cyhoeddus agored yn cael eu cynnal yn Wrecsam eleni.

“Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu na allwn gofio’r rheiny sydd wedi dioddef ac aberthu eu bywydau yn rhyfela, ac rwy’n gofyn i bawb yn y fwrdeistref sirol gymryd rhan mewn dau funud o dawelwch ar garreg eu drws eleni.

“Peidiwch â cheisio mynychu’r gwasanaeth ym Modhyfryd os gwelwch yn dda. Mae’r neges gan Lywodraeth Cymru yn glir… mae’n rhaid i bob un ohonom aros gartref yn ystod y cyfnod clo o bythefnos os oes arnom ni eisiau helpu Cymru i fynd i’r afael â’r feirws, lleihau’r pwysau ar y GIG ac arbed bywydau.

“Mae’n bosibl na fyddwn yn gallu dod at ein gilydd eleni, ond gyda’n gyda’n gilydd, gallwn gofio o hyd.”

Meddai Ant Metcalfe, Rheolwr Ardal y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru:

“Er ei fod yn hynod siomedig fod digwyddiadau Coffa yn cael eu cynnal mewn modd gwahanol eleni, rydym yn deall fod y penderfyniad hwn wedi’i wneud er mwyn diogelu iechyd a lles pawb sydd ynghlwm.

“Serch hynny, mae modd i’r cyhoedd helpu i sicrhau fod Sul y Cofio yn cael ei nodi’n briodol, ac mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn annog pobl i gofio mewn ffordd fwy personol eleni – p’un a ydych yn gwylio’r Gwasanaeth Coffa ar y teledu neu’n oedi am ddau funud o dawelwch ar garreg eich drws.”

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid-19 Nodyn Briffio Covid-19- Pethau allweddol mae angen i chi wybod yn Wrecsam
Erthygl nesaf Housing Llety a chefnogaeth ychwanegol i bobl sydd wirioneddol angen cymorth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English