Fel yr ydych yn ei wybod, mae 2018 yn flwyddyn arbennig o bwysig i gofio’r Rhyfel Byd Cyntaf, mae’n nodi 100 mlynedd ers diwedd y rhyfel.
Bydd y digwyddiadau cofio yn darparu cipolwg o hanes y rhyfel ac yn cofio pawb a fu’n gwasanaethu yn ystod y rhyfel, ac maent yn cael eu cynnal ar draws y wlad, ac nid yw Wrecsam yn eithriad.
Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau ar draws Wrecsam i nodi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, yn y dyddiau yn arwain at, ac yn dilyn Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio.
GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!
Bydd y digwyddiadau yn cynnwys perfformiadau theatr, sgriniau ffilm, cyngherddau, dawnsfeydd, arddangosfeydd a llawer mwy.
Am fwy o wybodaeth, ewch i gael golwg ar y bamffled yr ydym wedi’i pharatoi sy’n cynnwys dyddiad ac amser bob digwyddiad drwy glicio ar y ddolen hon, neu’r llun isod.
Dywedodd y Cyng. David Griffiths, Cefnogwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Wrecsam: “Rwy’n gwybod bod gan Wrecsam, fel tref, barch enfawr tuag at y lluoedd arfog, ac mae gennym ymwybyddiaeth gref iawn o’n hanes dinesig a’r ddyletswydd bwysig a gyflawnodd y bobl o’r ardal hon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
“Rwy’n sicr y bydd llawer o bobl nid yn unig yn awyddus i gofio’r rheiny a wasanaethodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ond hefyd yn awyddus i ddysgu mwy am y rhyfel a sut oedd bywyd yn Wrecsam yn ystod y cyfnod hwnnw.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd eisiau dangos eu parch a dysgu mwy am y gorffennol, i fynychu rhai o’r digwyddiadau sydd wedi’u trefnu, a hoffwn ddiolch hefyd i bob un o’r sefydliadau hynny sydd wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau bod y digwyddiadau hyn yn cael eu trefnu.”
Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.
DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU