Efallai y byddwch chi’n gweld newid ar flaen Neuadd y Dref os byddwch chi’n cerdded drwy Lwyn Isaf gyda’r nos yr wythnos yma.

Bydd balconi Neuadd y Dref wedi’i oleuo’n binc a glas drwy’r wythnos, yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, sydd ar fynd o Hydred 9 tan Hydref 15.

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, sy’n brosiect cydweithredol rhwng mwy na 60 o elusennau ar draws y DU, yn cael ei chynnal i godi ymwybyddiaeth am y materion allweddol sy’n effeithio’r rhai sydd wedi colli beichiogrwydd neu fabi yn y DU.

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Mae mwy o fanylion am yr wythnos, a chefnogaeth y sefydliadau sydd ynghlwm, ar gael ar wefan Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod (dolen gyswllt Saesneg).

Dywedodd y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae colli plentyn, wrth gwrs, yn beth hynod o drawmatig ac roedden ni eisiau dangos ein cefnogaeth i bob un sydd wedi colli plentyn yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod.”

Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.

DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU