Mae bob amser yn syniad da gwirio eich calendr biniau yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig.
Mae yna newidiadau i ddyddiau casglu arferol rhai aelwydydd dros gyfnod yr Ŵyl, ac mae hyn yn ffordd dda o wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i chi roi’ch biniau allan.
Mae’r calendr i’w weld yma.
Rydym yn eich cynghori’n gryf i wneud hyn dros gyfnod y Nadolig, pan fo newidiadau i’r patrymau casglu arferol yn debygol.
Ffordd arall o gael y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â chasglu biniau yw cofrestru i dderbyn e-byst atgoffa. Os gwnewch chi hyn, fe gewch chi neges e-bost i’ch atgoffa i roi’ch biniau allan y diwrnod cyn y diwrnod casglu. Mae’n ffordd dda i ni adael i chi wybod ynglŷn ag unrhyw newidiadau sy’n effeithio arnoch chi hefyd.
Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.
Pethau i’w nodi
- Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 19 Rhagfyr, bydd pob cartref yn Wrecsam yn derbyn casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/glas).
- Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 26 Rhagfyr, ni fydd unrhyw gartref yn Wrecsam yn cael casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/glas) na chasgliad gwastraff gardd (bin gwyrdd) – dim ond casglu gwastraff ailgylchu a bwyd y byddwn ni ddydd Mercher, ddydd Iau a dydd Gwener.
- Ni fydd unrhyw gasgliad ddydd Llun, 26 Rhagfyr, na dydd Mawrth, 27 Rhagfyr. Bydd preswylwyr sydd wedi cael eu heffeithio yn cael gadael gwastraff ychwanegol i’w ailgylchu yr wythnos wedyn, fel y nodir isod.
- Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 2 Ionawr, bydd pob cartref yn Wrecsam yn derbyn casgliad gwastraff cyffredinol (bin du/glas).
- Bydd gwastraff yn cael ei gasglu ddydd Llun, 2 Ionawr. Nid yw gŵyl y banc yn effeithio ar hyn.
Ailgylchu ychwanegol
Os bydd eich bocsys ailgylchu yn llenwi, fe allwch chi adael unrhyw deunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu mewn cynhwysydd solet wrth ymyl eich gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu, ac fe awn ni â’r rheiny i’w hailgylchu hefyd (gan adael y cynhwysydd i chi ei ddefnyddio eto).
Ond os oes gennych chi ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu, cofiwch eu gwahanu fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer. Er enghraifft, os oes gennych chi boteli gwydr a phlastig yn ychwanegol, rhowch y rhai plastig mewn un cynhwysydd a’r rhai gwydr mewn cynhwysydd ar wahân.
Hefyd, fe wnawn ni gasglu cardfwrdd glân wedi’i blygu’n fflat ac wedi’i adael wrth ymyl y cynhwysydd, cyn belled ag nad ydi o’n dalach na’n lletach na sach glas safonol.
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI