Mae hi’n adeg o’r flwyddyn lle mae’r “ffliw” yn gyffredin, ac rydym yn annog pawb sy’n gymwys, i fynd i gael eu brechiad ffliw yn eu meddygfa.
Mae’r GIG yn rhoi’r brechiad ffliw i:
• bobl 65 oed a hŷn
• merched beichiog
• plant ac oedolion gyda chyflyrau iechyd (megis clefyd anadlol neu glefyd ar y galon hirdymor)
• plant ac oedolion gyda systemau imiwnedd gwan
• plant yn yr ysgol gynradd
• gweithwyr iechyd neu ofal cymdeithasol y rheng flaen
OS YDYM NI’N CAEL SETLIAD GWAEL, BYDD YN RHAID I NI YSTYRIED TORIADAU PELLACH. DWEUD EICH DWEUD…
Mae unrhyw un yn y grwpiau risg hyn yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau o’r ffliw a all fod yn ddifrifol, megis niwmonia. Felly awgrymir yn gryf iddynt gael y brechiad ffliw bob blwyddyn er mwyn cynorthwyo i’w hamddiffyn rhag y feirws.
Mae plant ysgolion cynradd yn derbyn y brechiad yn eu hysgolion, a dylai’r rhai yn y grwpiau eraill wneud ymholiadau yn eu meddygfa.
“Gwiriwch os ydych yn gymwys”
Meddai’r Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Gall y brechiad ffliw rwystro cymhlethdodau difrifol i bobl penodol, ac felly dyna’r rheswm ei fod ar gael yn y meddygfeydd. Gwiriwch i weld os ydych yn gymwys, ac os ydych chi, ymholwch yn eich meddygfa o ran y trefniadau i gael eich brechiad ffliw am ddim gan y GIG.
Gallwch ddysgu mwy yma:
Os ydym ni’n cael setliad gwael, bydd yn rhaid i ni ystyried toriadau pellach. Dweud eich dweud.
DWEUD EICH DWEUD