Mae dau ddigwyddiad yn dod i Lyfrgell Wrecsam a allai eich rhoi chi gam ar y blaen ar eich addunedau byw’n iach yn y Flwyddyn Newydd!

Ewch i nôl eich dyddiadur a nodwch y dyddiadau lle gallech gychwyn ar daith at fywyd mwy iach ac egnïol.

MAE CYNNIG GWAEL ARALL GAN LYWODRAETH CYMRU YN GOLYGU BOD WRECSAM YN CAEL EI ORFODI I WNEUD MWY O DORIADAU. DWEUD EICH DWEUD…

Dewch i wybod mwy am siwgr yn Llyfrgell Wrecsam ar 18 Hydref, lle byddwch yn clywed am effeithiau siwgr a manteision bwyta’n iach.

Un arall o’r pum ffordd at les yw gwneud ymarfer corff ac ar 25 Hydref, gallwch gael gwybod mwy am fanteision gweithgarwch corfforol.

Bydd y sgyrsiau’n cychwyn am 11.30am, i fyny’r grisiau yn Llyfrgell Wrecsam. Maen nhw am ddim ac nid oes angen archebu.

Os hoffech chi fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r llyfrgell am fanylion ar 01978 292090.

Rydym wedi cael ein gorfodi i wneud hyd yn oed mwy o doriadau. Ond cyn i ni wneud unrhyw beth, hoffem glywed eich barn chi.

DWEUD EICH DWEUD