Os ydych chi’n defnyddio Gorsaf Reilffordd Gwersyllt, neu os byddech chi petai hi’n fwy diogel i wneud hynny, rydym ni’n gofyn am eich cymorth i wneud newidiadau.
Rydym eisiau gwybod beth ydych chi’n ei feddwl o newidiadau arfaethedig i bum llwybr i Orsaf Reilffordd Gwersyllt yn rhan o ymgynghoriad ar y cyd rhwng Cyngor Wrecsam, Trafnidiaeth Cymru a’r cwmni ymgynghori Atkins Realis. Bydd y newidiadau arfaethedig i’r llwybrau yma’n eu gwneud nhw’n fwy diogel i gerddwyr a beicwyr ac maent yn rhan o brosiect Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol Cyngor Wrecsam sydd wedi cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru
Mae’r ymgynghoriad ar-lein ac fe ddylech rannu eich syniadau gyda ni cyn 13 Hydref.
I ddysgu mwy, ac i rannu eich syniadau, ewch i dudalen Dweud eich Dweud heddiw am welliannau Teithio Llesol Gwersyllt.
Meddai Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd sydd â chyfrifoldeb am Gludiant Strategol, “Mae gwella mynediad i gludiant cyhoeddus ar gyfer pobl Cymru a’r Gororau yn hanfodol os ydym ni am annog rhagor o deithio llesol.
“Treuliwch yr amser yn llenwi’r ymgynghoriad er mwyn i ni ystyried barn pawb ynglŷn â sut y gellir gwella mynediad yn yr orsaf hon.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Sioe gerddorol fawreddog “Tattoo Cymru” yn dod i Neuadd William Aston ym mis Tachwedd