Ffordd newydd i ariannu rhan allweddol o brosiect Porth Wrecsam – sy’n cynnwys adeiladu stand kop newydd ar dir pêl-droed y Cae Ras – yn cael ei gynnig i Fwrdd Gweithredol y Cyngor yn ddarostyngedig i gwblhau cytundebau cyfreithiol a masnachol.
Mae Cyngor Wrecsam, CPD Wrecsam a phartneriaid eraill wedi bod yn gweithio ar gynlluniau cyllid amgen ar ôl i gynnig am arian Ffyniant Bro fod yn aflwyddiannus yn gynharach eleni.
Bydd y cynigion newydd yn helpu i sicrhau cyllid o amrywiol o ffynonellau gwahanol o’r sectorau cyhoeddus a phreifat – oddeutu 50% o bob un – a pharatoi’r ffordd ar gyfer ceisiadau am arian i gefnogi’r cynllun yn y dyfodol.
Beth yw prosiect Porth Wrecsam?
Mae Porth Wrecsam yn anelu i adfywio safleoedd allweddol ac isadeiledd trafnidiaeth o amgylch Ffordd Yr Wyddgrug – coridor allweddol i mewn i’r ddinas.
Mae’n cynnwys gwelliannau i gysylltedd teithio rheilffordd, bws a cheir, gwesty a chyfleusterau cynhadledd newydd, gofod swyddfa a gwelliannau i stadiwm y Cae Ras fydd yn caniatau i bêl-droed rhyngwladol ddychwelyd i Ogledd Cymru.
Mae’r prosiect wedi’i rannu yn ddau faes allweddol – yr ‘ochr ddwyreiniol’ a’r ‘ochr orllewinol’.
Bydd y cynigion cyllid newydd yn helpu i ariannu’r ochr orllewinol, gan gynnwys y Cae Ras a kop newydd er mwyn i bêl-droed rhyngwladol ddychwelyd i’r stadiwm a darparu digwyddiadau rhanbarthol a chenedlaethol. Ar yr ochr ddwyreiniol, mae’r bartneriaeth yn datblygu gyda dyluniad manwl ac ymgynghori ar gyfer gweithredu’r uwchgynllun cyffredinol.
Sut fydd Wrecsam yn manteisio?
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Mae Porth Wrecsam yn brosiect enfawr fydd yn trawsnewid un o’r prif goridorau i mewn i’r ddinas.
“Mae’n uchelgeisiol, ond rydym angen bod yn uchelgeisiol os ydym am gyflawni ein potensial fel dinas fwyaf newydd Cymru, a chartref pêl-droed Cymru.
“Elfen allweddol yw datblygu’r kop newydd. Mae’r pethau anhygoel sy’n digwydd yn y clwb yn rhoi Wrecsam ar lwyfan byd-eang, ac mae pêl-droed yn dod â chymunedau gyda’i gilydd, gan roi hwb i falchder lleol a helpu i ddenu ymwelwyr a buddsoddiad.
“Felly, yn helpu i sicrhau cyllid i ddatblygu’r Cae Ras – fel y gall unwaith eto gynnig llety i chwaraeon rhaglen ryngwladol – yn hynod bwysig i Wrecsam a bydd y manteision yn cael ei deimlo ymhell y tu hwnt i’r cae pêl-droed.”
Sut fydd y pecyn cyllid newydd yn gweithio?
Mae’r cynigion newydd yn anelu i sicrhau cydbwysedd o amrywiaeth o ffynonellau cyllid.
Os bydd yn cael ei gymeradwyo, bydd swm sylweddol o’r £25 miliwn o grant a roddir i’r Cyngor gan Lywodraeth Cymru yn cael ei adleoli o’r ochr ddwyreiniol i’r ochr orllewinol.
Bydd y Cyngor yn ei dro yn ymgeisio am arian allanol ac yn gwarantu isafswm o £8miliwn ar gael ar gyfer cynllun yr ochr ddwyreiniol.
Darparu Porth Wrecsam – ochr y gorllewin a’r dwyrain – yn hanfodol i Wrecsam. Amcangyfrifir y bydd y cynllun cyffredinol yn creu 732 o swyddi newydd ac effaith ychwanegu gwerth gros o £54.1miliwn a’r canlyniad yn £3 o fudd cyhoeddus am bob £1 a fuddsoddir.
Amcangyfrifir y bydd cynllun ochr y gorllewin yn cynyddu’r nifer o ymwelwyr i Wrecsam gan 60,000 y flwyddyn a chynyddu gwariant yn yr ardal leol £3miliwn.
A fydd y cynigion newydd yn cael eu mabwysiadu?
Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Gweithredol y cyngor ddydd Mawrth, 18 Ebrill ble gofynnir i aelodau gymeradwyo’r camau.
Mae’r cam hwn yn cael ei gefnogi’n llawn gan bartneriaid Porth Wrecsam gan gynnwys Llywodraeth Cymru, CPD Wrecsam, Trafnidiaeth Cymru a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam.