Erthygl gwadd gan Cyflymu Cymru i Fusnesau
Gyda phawb yn cystadlu am ofod ar-lein, sut ydych chi’n dal sylw pobl ac yn hoeli eu sylw fel eu bod yn penderfynu prynu gennych chi?
Yn yr erthygl hon, byddwn yn dangos rhai ffyrdd hawdd i chi hyrwyddo’ch busnes a dod o hyd i gwsmeriaid newydd ar-lein yn ogystal ag aros mewn cysylltiad â’r rhai presennol.
Marchnata e-bost
Nid yw marchnata e-bost yn dangos unrhyw arwyddion o arafu. A dweud y gwir fe wnaeth cwmni ymchwil marchnad technoleg, The Radicati Group ddarogan y bydd 320 biliwn o negeseuon e-bost busnes a chwsmer yn cael eu hanfon bob dydd erbyn diwedd 2021. Mae marchnata e-bost yn dal i fod yn un o’r offer marchnata ar-lein rhataf a mwyaf effeithiol. Gyda’r mwyafrif helaeth o bobl yn gaeth i’w ffonau symudol, mae defnyddio e-bost yn golygu y gallwch chi gyrraedd cwsmeriaid bob amser.
Fodd bynnag, gyda chymaint o negeseuon e-bost yn gorlifo mewnflychau, sut ydych chi’n gwneud i’ch un chi sefyll allan? Ceisiwch wneud eich e-bost yn bersonol lle bynnag y bo modd; mae’n helpu i wneud i’r darllenydd gredu eich bod chi’n siarad yn uniongyrchol â nhw. Sicrhewch fod pwnc eich neges yn bachu sylw’r gynulleidfa ddigon i wneud iddynt fod eisiau agor yr e-bost a darganfod mwy. Peidiwch â gor-werthu; cadwch bethau’n fyr ac yn fachog, gan apelio digon i demtio pobl i glicio ar y ddolen a gweithredu.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Defnyddiwch offer dadansoddeg i fesur cyfraddau agor a chlicio trwyddo a newidiwch eich ymgyrchoedd e-bost os nad yw rhywbeth yn gweithio. Os ydych chi’n gwybod pryd mae cwsmeriaid yn fwyaf tebygol o ymateb gallwch drefnu e-byst ar gyfer yr amseroedd hyn gan ddefnyddio llwyfannau fel MailChimp neu HubSpot, sydd ill dau’n cynnig fersiynau rhad ac am ddim.
Sicrhewch eich bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) – ymwelwch â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i ddarganfod mwy.
Ymunwch â’n gweminar marchnata digidol am ddim.
Talu Fesul Clic (PPC)
Mae Google yn tra-arglwyddiaethu ar y byd peiriannau chwilio sy’n gwneud Google Ads y platfform hysbysebu mwyaf yn y DU ar gyfer marchnata PPC. I ddechrau defnyddio Google Ads, penderfynwch yn gyntaf beth rydych chi am ei gyflawni, e.e., gallai hyn fod yn fwy o ymwelwyr â’ch gwefan neu’n fwy o ymholiadau dros y ffôn. Yna byddwch chi’n dewis eich lleoliad – gallwch ei gadw’n lleol neu fynd yn fyd-eang os dymunwch, ac yn olaf yn pennu eich cyllideb. Bydd Google hefyd yn darparu help i greu testun eich hysbyseb. Unwaith y bydd yn fyw gall eich hysbyseb ymddangos yng nghanlyniadau chwilio Google, ar Fapiau Google ac ar draws gwefannau partner Google.
Mae cost ynghlwm wrth Google Ads, ond mae’n gadael ichi osod cap ar y gyllideb. Does dim isafswm gwario a dim ond am ganlyniadau y byddwch chi’n talu. Gallwch hefyd oedi ymgyrchoedd pryd bynnag y dymunwch. Os ydych chi’n newydd i Google Ads, mae yna ganllawiau i’ch helpu chi i ddechrau. Mae Microsoft Advertising (Bing Ads gynt) yn gweithio mewn ffordd debyg ond gall fod yn opsiwn rhatach gan ei fod yn berchen ar lai o’r farchnad peiriannau chwilio. Mae’r ddau blatfform yn caniatáu ichi fonitro a mesur canlyniadau fel y gallwch gadw golwg ar yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio.
Ymunwch â’n gweminar SEO am ddim.
Facebook Ads
Mae Facebook yn dal i fod yn frenin y cyfryngau cymdeithasol ac mae’n cynrychioli gofod hysbysebu gwych i fusnesau bach. Mae Facebook Ads yn caniatáu ichi gyrraedd cynulleidfaoedd penodol yn seiliedig ar eu lleoliad, demograffeg, diddordebau, ymddygiad, a’u cysylltiadau. Mae hyn yn golygu y gallwch chi dargedu pobl sy’n debygol o fod â diddordeb yn eich cynnyrch neu wasanaeth p’un ai ydyn nhw wedi chwilio amdanoch chi ai peidio. Gall Facebook Ads fod yn ffordd gost-effeithiol o gyrraedd cynulleidfa enfawr. Yn yr un modd â Google Ads mae Facebook Ads yn rhoi mynediad i chi at offer cadansoddeg er mwyn i chi allu mesur pa mor dda y mae eich hysbysebion yn perfformio a dyrannu gwariant yn unol â hynny. Ac os nad oes gennych arian i’w wario ar hysbysebu cyfryngau cymdeithasol, gallwch barhau i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol am ddim – darllenwch ein Canllaw sut i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
Ymunwch â’n gweminar cyfryngau cymdeithasol am ddim.
Google My Business
Nododd Think with Google mewn erthygl yn 2018 bod twf o 500% + mewn chwiliadau symudol ‘yn lleol i mi’ yn cynnwys amrywiadau o ‘a gaf i brynu’ neu ‘i brynu’ dros y ddwy flynedd flaenorol. Mae chwilio am rywbeth yn lleol yn un o’r pethau mwyaf cyffredin rydyn ni’n ei wneud ar Google.
Ond er syndod, nid yw llawer o fusnesau wedi ychwanegu na hawlio eu rhestr busnes lleol ar Google. Pam mae angen un arnoch chi? Yn fyr, i’w gwneud hi’n haws i gwsmeriaid ddod o hyd i chi yn lle eich cystadleuwyr. Hyd yn oed os nad oes gennych siop gorfforol neu os ydych chi’n darparu gwasanaethau i bobl, e.e., danfon pizza, gallwch gael rhestr Google My Business o hyd.
Mae Google My Business yn offeryn rhad ac am ddim sy’n rhoi proffil busnes ar-lein i chi a fydd yn ymddangos mewn chwiliadau a Mapiau Google. Gallwch ychwanegu manylion cyswllt, oriau agor, gwefan, disgrifiad, cynhyrchion a gwasanaethau, a phostio lluniau. Gallwch hefyd ymateb i adolygiadau a adawyd gan gwsmeriaid. Os nad ydych yn siŵr a oes gennych broffil, gwiriwch yn gyntaf. Weithiau bydd Google yn creu proffil yn seiliedig ar wybodaeth trydydd parti. Os oes proffil o’ch busnes yn bodoli, yna bydd angen i chi ei hawlio a sicrhau bod ganddo’r wybodaeth gywir.
Ymunwch â’n sesiwn fyw 20 munud am ddim Helpwch gwsmeriaid i ddod o hyd i chi ar-lein.
Mae gennym amrywiaeth o weminarau dwy awr a sesiynau blasu 20 munud am ddim i helpu busnesau sydd wedi’u heffeithio gan COVID-19. Rhagor o wybodaeth ac ymuno nawr.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19