Cyhoeddwyd newyddion da’r wythnos hon, gyda’r DU yn barod i gyflwyno ei rhaglen frechu ar raddfa fawr.
Felly, o’r diwedd – ar ôl misoedd o aberthu a chaledi – mae gobaith ar y gorwel. Gallwn edrych ymlaen at y Nadolig gan wybod bod llygedyn o oleuni ym mhen draw’r twnnel.
Ond mae angen i ni ddal ati am ychydig eto, a pharhau i wneud pob dim y gallwn i gyfyngu lledaeniad y feirws.
Gan y bydd y broses o gyflwyno’r brechiad yn cymryd amser, a bydd yr ymdrech yr ydym i gyd wedi’i gwneud dros y misoedd diwethaf yn ofer os ydym yn rhoi’r gorau i fod yn ofalus nawr.
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Prif Weinidog Llywodraeth Cymru, Mark Drakeford, fod nifer yr achosion o’r coronafeirws yn cynyddu eto… a bod angen i bob un ohonom wneud ymdrech fawr i gadw Cymru mor ddiogel â phosib y Nadolig hwn.
Er mwyn helpu i wneud hynny, bydd Cymru’n cyflwyno cyfyngiadau newydd am 6pm heno (dydd Gwener, 4 Rhagfyr) – yn effeithio ar dafarndai, bwytai a lleoliadau lletygarwch ac adloniant eraill, yn ogystal â theithio i ardaloedd ‘haen 3’ yn Lloegr.
Bydd y mesurau yn cael eu hadolygu erbyn 17 Rhagfyr.
Beth fydd yn newid?
O 6pm heno, bydd y cyfyngiadau canlynol yn berthnasol:
- Rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis gau erbyn 6pm ac ni fydd hawl ganddynt i weini alcohol.
- Ar ôl 6pm, dim ond gwasanaethau bwyd i fynd y byddant yn gallu eu darparu.
- Rhaid i leoliadau adloniant dan do – gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, canolfannau bowlio deg, canolfannau chwarae meddal, casinos, canolfannau sglefrio ac arcedau adloniant – gau.
- Bydd yn rhaid cau atyniadau dan do i ymwelwyr megis amgueddfeydd, orielau, a safleoedd treftadaeth hefyd (mae hyn yn cynnwys Amgueddfa Wrecsam ac orielau Tŷ Pawb).
- Ni chaniateir teithio rhwng Cymru ac ardaloedd ‘haen 3’ yn Lloegr (mae rheolau yn Lloegr yn amrywio rhwng ardaloedd o dan y system tair haen).
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi amrywiaeth o gymorth ariannol i fusnesau a effeithir gan y newidiadau.
Beth sydd angen i chi ei wneud?
Nid oes unrhyw newidiadau eraill, ac mae’r cyngor sylfaenol i unigolion yr un fath…ceisiwch gyfyngu ar nifer y bobl yr ydych yn cymysgu gyda nhw, cadwch bellter cymdeithasol, cadwch eich dwylo’n lân a gwisgwch fwgwd pan fo angen.
Gallwch lawrlwytho taflen newydd Llywodraeth Cymru am fwy o gyngor ar sut i gadw’n ddiogel y gaeaf hwn.
Ac os oes gennych chi unrhyw symptomau, gwnewch gais am brawf ar unwaith a dilynwch y canllawiau hunan-ynysu.
Os ydych yn ansicr am unrhyw un o’r rheolau neu’r cyfyngiadau presennol yng Nghymru, gallwch eu gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
Teithio rhwng Cymru a Lloegr
Gan fod Wrecsam ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr – wrth ymyl Swydd Gaer a Swydd Amwythig – efallai y byddwch chi’n meddwl am gyfyngiadau teithio.
Fel yr eglurwyd, ni chaniateir teithio rhwng Cymru ac ardaloedd ‘haen 3’ yn Lloegr o 6pm heno.
Fodd bynnag, mae Gorllewin Swydd Gaer a Swydd Amwythig yn ‘haen 2’ ar hyn o bryd, felly gallwch barhau i groesi’r ffin i’r siroedd hyn yn Lloegr. Fodd bynnag, cyn gwneud hynny, dylech ystyried os y dylech chi wneud hynny.
Gallwch wirio’r rheolau ar gyfer unrhyw ran o Loegr yn defnyddio gwefan Llywodraeth Y DU.
Mae rhai o’n cymunedau wedi’u lleoli ar y ffin ac o bosib yn rhannu cyfleusterau – siopau, gorsafoedd petrol ac ati – gyda phentrefi cyfagos yn Lloegr.
Yn yr achosion hyn, rhaid defnyddio synnwyr cyffredin a phenderfynu beth yw’r dewis mwyaf synhwyrol.
Fel y dywedir gan Lywodraeth Cymru…meddyliwch am yr hyn y dylech chi ei wneud, nid yn unig beth y gallwch chi ei wneud.
Swigod dros y Nadolig
Rhwng 23 Rhagfyr a 27 Rhagfyr, bydd cyfyngiadau teithio yn ymlacio dros dro a bydd modd i dair aelwyd ddod ynghyd i greu ‘swigen Nadolig’.
Bydd y rheolau’n berthnasol ar draws y DU.
Croesewir y newyddion gan lawer iawn ohonom, ond mae bob amser mwy o berygl o ddal neu ledaenu’r feirws pan rydym yn dod at ein gilydd.
Felly, parhewch i fod mor ofalus â phosib, ac edrychwch ar ôl eich hun a’ch anwyliaid.
Mae brechlynnau yn achub bywydau
Mae brechlynnau wedi achub miliynau o fywydau, ac wedi helpu i ymladd yn erbyn llawer iawn o afiechydon – yn cynnwys polio, y frech goch, difftheria a thetanws.
Os yw digon o bobl yn cael eu himiwneiddio, mae’n bosib lleihau – neu ddileu – llawer iawn o afiechydon.
Mae’n bwysig nodi fod brechlynnau ond yn cael eu cyflwyno i gyhoedd y DU wedi iddynt gael eu profi’n ddiogel ac yn effeithiol.
Dewch i wybod mwy am y brechlyn Covid-19 ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ffynonellau gwybodaeth dibynadwy
Mae honiadau camarweiniol am y coronafeirws bob amser yn peri pryder.
Yn ddiweddar, roedd adroddiadau am daflenni ‘theori-gynllwyn’ yn cael eu rhoi drwy flychau post mewn rhannau o Gymru.
Yn fwy nag erioed, mae angen i ni amddiffyn ein hunain rhag twyllwybodaeth. Dyma dri pheth y gallwch ei wneud…
- Cael gwybodaeth gan ffynonellau dibynadwy.
- Cwestiynu cynnwys sy’n gwneud i chi ymateb yn gryf.
- Meddwl am gymhellion y rhai sy’n rhannu’r cynnwys, neu ffynhonnell y cynnwys.
Cymorth ariannol os ydych yn hunan-ynysu
Os ydych chi wedi gorfod hunan-ynysu ar unrhyw bwynt ers 23 Hydref, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn cymhorthdal o £500.
Mae dau fath o daliad – mae’r ddau wedi’u dylunio i helpu pobl ar incymau isel sydd wedi gorfod hunan-ynysu, ond yn methu gweithio gartref.
Cymhorthdal Hunan-Ynysu – £500
Gallech fod yn gymwys os:
- Ydych wedi cael gwybod y dylech aros gartref ac hunan-ynysu gan wasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru – naill ai oherwydd eich bod wedi cael canlyniad positif neu oherwydd i chi fod mewn cyswllt agos â rhywun arall sydd wedi cael canlyniad positif.
- Rydych yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig.
- Nid ydych yn gallu gweithio gartref a byddwch yn colli incwm o ganlyniad.
- Rydych chi neu eich partner yn cael Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-Dal Tai a / neu Gredyd Pensiwn.
Taliad yn ôl Disgresiwn – £500
Mewn amgylchiadau eithriadol, gall cynghorau wneud taliadau yn ôl disgresiwn o £500 i unigolyn sy’n bodloni’r meini prawf uchod, ond nid yw’n cael unrhyw un o’r budd-daliadau a nodir (Credyd Cynhwysol ac ati).
Mae hyn i bobl ar incymau isel sy’n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i fethu gweithio wrth hunan-ynysu.
Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys, gallwch wneud cais ar wefan y cyngor.