Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Datganiad i’r Wasg: Codi’r Faner Werdd newydd ym Mharc Bellevue
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Datganiad i’r Wasg: Codi’r Faner Werdd newydd ym Mharc Bellevue
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Datganiad i’r Wasg: Codi’r Faner Werdd newydd ym Mharc Bellevue

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 5, 2025 10:10 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Datganiad i’r Wasg: Codi’r Faner Werdd newydd ym Mharc Bellevue
RHANNU

Mae Cyfeillion Bellevue, ynghyd â’r staff sy’n gofalu am y parc, wedi codi’r  Faner Werdd ym Mharc Bellevue.  Gwobr y Faner Werdd yw’r safon cenedlaethol ar gyfer parciau a mannau gwyrdd ac mae’r cynllun dan ofal Cadwch Gymru’n Daclus yma yng Nghymru.  Mae Bellevue Park wedi ennill y statws bob blwyddyn ers 2005.

Mae Parc Bellevue, sydd ger canol dinas Wrecsam, yn cael ei reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Yn Barc Edwardaidd traddodiadol, cafodd ei agor ym 1910, ac mae bellach yn ardal drwsiadus sy’n cael ei defnyddio gan lawer, ac sy’n cynnig amrywiaeth o gyfleusterau a man gwyrdd hamddenol yn agos at ganol Wrecsam.

Yn ddiweddar, datgelodd elusen yr amgylchedd, Cadwch Gymru’n Daclus, y 315 o safleoedd sydd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd, sydd o fri rhyngwladol.  Y chwe safle yn Wrecsam fydd yn chwifio’r Faner Werdd fydd Dyfroedd Alun, Parc Acton, Tŷ Mawr, Acton, Bellevue a Mynwent Wrecsam, mewn cydnabyddiaeth o’u hymdrechion amgylcheddol, eu cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, a chyfranogiad cymunedol.

Gallwch weld y rhestr lawn o barciau yn Wrecsam a fideos sy’n cynnig  blas o nodweddion naturiol godidog y fwrdeistref sirol – llefydd gwych i gerdded, i redeg, i feicio neu i fwynhau picnic teuluol. Mae rhywbeth i bawb ym mannau awyr agored anhygoel Wrecsam!

Dywedodd yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Terry Evans, “Mae hyn yn newyddion gwych a rhaid diolch i’r staff a’r gwirfoddolwyr i gyd. Mae ansawdd ein mannau gwyrdd yn dangos mor galed maen nhw’n gweithio.”

Yng Nghymru, mae cynllun y Faner Werdd dan ofal Cadwch Gymru’n Daclus. Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd Cadwch Gymru’n Daclus:   

“Rydyn ni wrth ein bodd o weld bod 315 o fannau gwyrdd yng Nghymru wedi cyflawni statws nodedig y Faner Werdd, sy’n dyst i ymroddiad a gwaith caled cannoedd o staff a gwirfoddolwyr.  “Mae mannau gwyrdd o safon yn chwarae rhan hanfodol yn lles corfforol a meddyliol pobl ledled Cymru, ac mae cael ein cydnabod ymhlith goreuon y byd yn gyflawniad enfawr – Llongyfarchiadau!” 

Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus.

TAGGED:Faner Werdd
Rhannu
Erthygl flaenorol Xplore! Science Museum Mae AaGIC yn partneru gyda Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol gwyddor gofal Iechyd
Erthygl nesaf Bonfire Night Os ydych chi’n awyddus i ddathlu noson tân gwyllt gyda’ch teulu a ffrindiau, ystyriwch ymweld ag arddangosfa sydd wedi’i threfnu.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

the longest yarn
Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 29, 2026
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Mae rhagolygon gyrfa newydd ychydig o gliciau i ffwrdd! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle
Medi 29, 2026
Dal dwylo
Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?
Arall Pobl a lle
Medi 29, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lle

Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau

Medi 29, 2026
Rhiannon Roberts yn torri'r rhuban ar gae 3G diweddaraf Wrecsam
Pobl a lle

Rhiannon Roberts yn torri’r rhuban ar gae 3G diweddaraf Wrecsam

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English