Mae’r nodyn hwn yn darparu diweddariad ar y wybodaeth a gafodd ei bostio ar y blog hwn wythnos diwethaf (12.6.20).
Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw
• Bydd ysgolion yn Wrecsam yn ail-agor ddydd Llun 29 Mehefin am dair wythnos – dim pedair wythnos, fel y cynlluniwyd yn wreiddiol.
• Os ydych yn derbyn galwad gan olrhain cyswllt yn Wrecsam, ac rydych yn poeni nad yw’n ddilys, gallwch wirio wrth roi’r ffôn i lawr a’n galw ar 01978 292000.
• Rydym yn gosod mesurau ar gyfer ail-agor siopau dianghenraid canol y dref yn ofalus.
• Rydym wedi helpu 1,945 o fusnesau ac unig fasnachwyr yn y fwrdeistref sirol wrth ddarparu £23m mewn grantiau busnes ers i’r cyfnod clo ddechrau. Os nad ydych wedi gwneud eto, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgeisio erbyn 30 Mehefin.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Bydd ysgolion nawr yn ail-agor am dair wythnos…nid pedair
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod ysgolion am ail-agor am bedair wythnos ddydd Llun 29 Mehefin.
Fodd bynnag, cynhaliwyd trafodaethau cenedlaethol am a ddylai ysgolion agor am y bedwaredd wythnos a’r un terfynol (yr wythnos yn dechrau 20 Gorffennaf), neu a ddylent gau ar ddiwedd y drydedd wythnos, pan fo’r gwyliau haf gwreiddiol i fod i ddechrau.
Ein dealltwriaeth ni yw bod Llywodraeth Cymru a’r undebau llafur yn cael trafferth cytuno, ac mae’r Llywodraeth wedi nodi yn y cyfryngau mai’r “ysgolion a’r cyngor fydd yn cael gwneud y penderfyniad terfynol.”
Nid oes modd i ni adael hyn tan y funud olaf
Mae hyn yn rhoi ysgolion a’r cyngor mewn safle hynod iawn o anodd.
Does dim rhwymedigaeth dan gontract i’r staff weithio’r wythnos ychwanegol – yn rhoi cyfrifoldeb ar benaethiaid a staff unigol, sy’n annheg.
Gall hefyd arwain at anghysondeb a dryswch, gan fod rhai ysgolion yn gallu agor am y bedwaredd wythnos, a rhai methu.
Gwyddom fod nifer o rieni yn teimlo’n bryderus ac yn amhendant am anfon eu plant yn ôl i’r ysgol, ac angen gwybod yn union beth sy’n digwydd er mwyn iddynt wneud trefniadau ac i deimlo’n hyderus.
Felly nid yw hyn yn rhywbeth sy’n gallu cael ei adael tan y funud olaf, ac nid yw ond yn deg – i staff, i’r rhieni ac i’r disgyblion – ein bod yn gwneud penderfyniad ar gyfer Wrecsam gyfan nawr. Nid yfory, neu wythnos nesaf, ond heddiw.
Fel canlyniad, gallwn gadarnhau ni fydd ysgolion ledled y fwrdeistref sirol yn agor am y bedwaredd wythnos a’r wythnos olaf, ac mi fyddant yn cau ar gyfer gwyliau’r haf ddydd Gwener 17 Gorffennaf.
Felly i fod yn glir…
Bydd ysgolion yn Wrecsam yn ail-agor ddydd Llun 29 Mehefin am dair wythnos – dim pedair wythnos, fel y cynlluniwyd yn wreiddiol.
Efallai bydd angen i’ch ysgolion gysylltu â chi eto
Gwyddom fod hyn yn hynod o anodd i bawb. Bydd yn golygu mwy o waith ar gyfer ysgolion wrth drefnu am dair wythnos yn lle pedair, a gall olygu bod eich ysgol angen cysylltu â chi am leihau’r nifer o ddyddiau gall eich plentyn fynychu.
Bydd ysgolion yn parhau i weithio yn hynod o galed yn ystod y diwrnodau nesaf er mwyn gwneud unrhyw newidiadau gofynnol i’r trefniadau, a byddai’n cael ei werthfawrogi os na fyddai rhieni’n cysylltu â’r ysgol ar hyn o bryd…gan y bydd ysgolion yn cysylltu â’r rhieni / gwarcheidwaid os bydd unrhyw newidiadau.
Hoffwn ei wneud yn glir nad bai ein hysgolion yw hyn o gwbl. Mae’n fater cenedlaethol, ac yn benderfyniad nad ydym wedi ei wneud yn hawdd.
Diolch am fod yn amyneddgar ac am eich dealltwriaeth. Rydym dal i fyw mewn cyfnod mor rhyfedd ac yn wynebu heriau pob diwrnod fel canlyniad o Covid-19.
Mae eich cefnogaeth yn golygu gymaint i’ch ysgol, a’r cyngor.
Sut mae dweud os yw galwad gan olrhain cyswllt yn ddilys? Dilynwch y cyngor hwn…
Erbyn nawr, gobeithio eich bod wedi clywed am ‘olrhain cyswllt’…a sut mae’n cael ei ddefnyddio i helpu brwydo yn erbyn Covid-19 yng Nghymru
Mae hyn yn cynnwys olrhain pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad gyda rhywun sydd wedi’i heintio â’r feirws, a’u cynghori ar beth i wneud (e.e. cael prawf, hunanynysu).
Felly os ydych wedi cael prawf, neu wedi bod mewn cyswllt â rhywun sydd â chadarnhad bod ganddynt Covid-19, efallai cewch alwad.
Dyma gyngor hynod o bwysig…
• Os cysylltir â chi fel rhan o’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu, ni ofynnir i chi byth roi unrhyw wybodaeth ariannol, manylion banc neu gyfrineiriau. Mae profi yn rhad ac am ddim.
• Os ydych yn derbyn galwad gan olrhain cyswllt yn Wrecsam, ac rydych yn poeni nad yw’n ddilys, gallwch wirio wrth roi’r ffôn i lawr a’n galw ar 01978 292000.
Darllenwch erthygl y blog a gafodd ei bostio heddiw am ragor o wybodaeth…
Siopa yng nghanol tref Wrecsam
Cadarnhaodd Lywodraeth Cymru heddiw fod siopau dianghenraid yn gallu ail-agor yng Nghymru o ddydd Llun (22 Mehefin).
Gwyddom pa mor bwysig yw hyn. Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn hynod o anodd i nifer o fusnesau, ac rydym angen pobl i gefnogi ein tref a siopa yn lleol…wrth gadw’n ddiogel.
Felly byddwn yn rhoi nifer o fesurau yn eu lle, gan gynnwys:
• Arwyddion yn atgoffa siopwyr i gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru – e.e. arwyddion cadw pellter cymdeithasol ar bolion lamp, a marciau ar y llawr.
• Systemau cerddwyr un ffordd mewn ardaloedd cerddwyr sy’n rhy gul i ganiatáu pellter o ddwy fedr (megis Bank Street).
• Wardeniaid cadw pellter cymdeithasol yn darparu sicrwydd, ac yn atgoffa pobl yn gwrtais i gadw at ganllawiau.
• Parcio clicio a chasglu ar y Stryd Fawr.
Byddwn hefyd yn edrych i ail-agor toiledau cyhoeddus yn unol â’r canllawiau. Gobeithiwn fydd hyn yn digwydd yn fuan iawn.
Dim ond ychydig o’r mesurau y byddwn yn eu cyflwyno yw’r rhain, a bydd ein tîm rheoli canol tref yn gweithio gydag unrhyw fusnesau sydd angen cyngor hefyd.
Yng Nghymru, mae canllawiau dal mewn grym sy’n nodi na ddylai unrhyw un drafeilio dros pum milltir ar gyfer dibenion dianghenraid.
Felly nid ydym yn disgwyl nifer fawr o siopwyr yn yr wythnosau cyntaf, a gobeithio bydd hyn yn rhoi amser i fasnachwyr addasu i’w ffordd newydd a diogel o fasnachu.
Mae’n werth cofio fod parcio ceir mewn meysydd parcio’r cyngor yn parhau i fod yn rhad ac am ddim hyd ddiwedd fis Medi.
Felly ewch ati i gefnogi siopau lleol lle bynnag fo modd…ond wrth ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar bob adeg, a helpu i gadw eich hunain ac eraill yn ddiogel.
Rydym yn dechrau gwaith graddol ar ychydig o’n tai
Byddwn yn parhau gwaith a gynlluniwyd tu allan yn raddol a gwelliannau i rai o’n stoc tai cyngor o ddydd Llun. Bydd hyn yn cael ei wneud fesul cam ac yn cynyddu dros yr wythnosau i ddod.
Ni fyddwn yn gwneud unrhyw waith tu mewn eto – dim ond gwaith tu allan fel gwaith ail-doi, gwaith allanol i erddi ac inswleiddio waliau allanol. Byddwn hefyd yn dechrau gweithio ar ychydig o’r eiddo gwag.
Mae’n bwysig ein bod yn mynd ati i wneud y gwaith er mwyn i’r cartrefi fod ar gael eto – i helpu i wneud yn siŵr fod gan Wrecsam ddigon o dai o safon dda i’r bobl leol.
Ein blaenoriaeth yw cadw gweithwyr safle a chymunedau amgylchynol yn ddiogel, a bydd gwaith yn cael ei wneud yn unol â’r contractwyr ac asesiadau risg sydd wedi cael eu paratoi ar gyfer ein staff.
A allai’r arian hwn helpu eich busnes? Ymgeisiwch erbyn 30 Mehefin
Rydym wedi helpu 1,945 o fusnesau ac unig fasnachwyr yn y fwrdeistref sirol wrth ddarparu £23m mewn grantiau busnes ers i’r cyfnod clo ddechrau.
Mae hyn yn cynnwys elusennau bach a chlybiau chwaraeon cymunedol yn dilyn adolygiad diweddar o’r rheolau cymhwysedd.
Fodd bynnag, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar y bydd y cynllun grantiau yn cau am geisiadau ar 30 Mehefin.
Felly dyma alw ar unrhyw fusnes nad ydynt eisoes wedi derbyn benthyciad busnes neu gyllid gan y Gronfa Cadernid Economaidd, i fynd i’n gwefan i weld os ydynt yn gymwys – ac os ydynt – i wneud cais.
Cewch hyd i’r wybodaeth berthnasol i gyd ar ein gwefan, gan gynnwys meini prawf diwygiedig ar gyfer elusennau bach a chlybiau chwaraeon amatur cymunedol.
Rydym yn gofyn yn benodol i berchnogion siopau, swyddfeydd, salonau trin gwallt, garejys a gorsafoedd petrol a chanolfannau neu adeiladau cymunedol nad ydynt yn perthyn i’r cyngor i ystyried hawlio.
Nodyn – ffynonellau gwybodaeth dibynadwy am Covid 19
Darperir y wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl ei wneud amdano gan:
• Datganiadau dyddiol gan Lywodraeth Cymru tua 12.30pm.
• Datganiadau teledu dyddiol gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth) tua 5pm.
• Briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio cyhoeddus 12.6.20