Ian Bancroft – Prif Weithredwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor
Fel Prif Weithredwr ac Arweinydd Cyngor Wrecsam, rydym yn gwybod y bydd llawer ohonoch yn teimlo’n bryderus am yr her y mae’r byd yn ei hwynebu, na welwyd ei math o’r blaen.
Rydym ninnau’n rhannu eich pryderon. Rydym yn gwybod bod hwn yn amser brawychus ac ansicr i bawb ac mae’n bwysig ein bod yn gweithio gyda’n gilydd – fel pobl, cymunedau a sefydliadau – i symud ymlaen drwy hyn.
Fel cyngor, rydym yn ceisio cydbwyso lles ac anghenion ein staff – er mwyn iddynt allu cadw’n saff a pharhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus – gyda lles ac anghenion ein preswylwyr a’r cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu.
Rydym wedi casglu’r wybodaeth a ganlyn i’ch helpu i ddeall beth rydym yn ei wneud i sicrhau’r cydbwysedd hwn, ac i ailadrodd cyngor sy’n cael ei rannu gan Lywodraeth y DU a’r gwasanaethau iechyd.
Gwnewch bopeth a allwch i aros yn saff a helpu eraill.
Ble alla i gael gwybodaeth am Covid-19 a beth ddylwn i ei wneud amdano?
Ffynonellau gwybodaeth dibynadwy
Caiff gwybodaeth ddiweddaraf am y feirws a beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
- Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gan y Prif Weinidog)
- Briff swyddogol bob dydd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm
Fel cyngor, rydym yn helpu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl Wrecsam trwy gyfeirio at ffynonellau gwybodaeth swyddogol fel rhain.
Rydym yn gwneud hyn ar ein gwefan, a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddosbarthu cyngor (fel y nodyn hwn) i benaethiaid, gweithwyr gofal a gweithwyr allweddol a’r cyhoedd hefyd.
Rydym yn gwneud hyn oherwydd ei bod yn bwysig bod pobl yn cael un neges gyson i osgoi dryswch.
Nid yw’n briodol i ni gyhoeddi ein cyngor ein hunain ar wahân, oni bai ei fod yn ymwneud yn benodol â gwasanaethau a digwyddiadau’r cyngor yn y fwrdeistref sirol.
Oedi lledaeniad y feirws – cydweithio, cadw pellter
Yn seiliedig ar y 44,000 achos cyntaf ledled y byd, mae 81% wedi bod yn ysgafn, 14% yn ddifrifol, 5% yn ddifrifol iawn ac 1% yn angheuol.
Ond mae profiad yn yr Eidal, niferoedd sy’n cynyddu’n gyflym yn y DU a’r effaith anghymesur ar yr henoed a’r rhai sydd eisoes â chyflyrau iechyd yn golygu y bydd lefel fawr o effaith.
Mae ymateb y Llywodraeth wedi symud o ‘rheoli’ i ‘oedi’ a gofynnir nawr i bobl sy’n datblygu peswch parhaus NEWYDD neu dymheredd uchel hunanynysu gartref gyda’u teuluoedd am 14 diwrnod, a chysylltu â NHS111 dim ond os bydd eu symptomau yn gwaethygu.
Cyn hir, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi cyngor am hunanynysu am dymor hwy ar gyfer pobl dros 70 oed, rhai sydd â chyflyrau iechyd presennol penodol a merched beichiog.
Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cyhoeddi deddfwriaeth frys cyn diwedd mis Mawrth i lacio gofynion statudol penodol (e.e. niferoedd staffio gofynnol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, amodau ar ddanfoniadau archfarchnad gyda’r nos) a sicrhau bod modd gorfodi canllawiau’r Llywodraeth yn gyfreithlon (e.e. hunanynysu ac atal pobl rhag ymgynnull yn gyhoeddus a digwyddiadau cyhoeddus).
Effaith ar ysgolion
O heddiw ymlaen, mae’r Llywodraeth yn annog pobl i gadw pellter cymdeithasol trwy weithio gartref a pheidio teithio lle bynnag bo’n bosibl, a pheidio mynychu digwyddiadau cyhoeddus mawr, tafarndai, bwytai ac ati.
Os bydd y feirws yn datblygu’n gyflym, gallwn ddisgwyl i’r mesurau hyn gynnwys cau ysgolion a cholegau.
Nid yw’r Llywodraeth wedi dilyn y dull hwn eto. Fodd bynnag, oherwydd bod rhaid i staff hunanynysu, mae’n bosibl y bydd rhaid i rai ysgolion yn y fwrdeistref sirol gymryd penderfyniad i leihau faint o ddarpariaeth maen nhw’n ei chynnig.
Effaith ar gyfarfodydd y cyngor nad ydynt yn rhai hanfodol
Yng Nghyngor Wrecsam, rydym wedi penderfynu atal pob cyfarfod y cyngor dros dro, os nad yw’r cyfarfod hwnnw yn hanfodol. Ar hyn o bryd, bydd cyfarfod y Cyngor ddydd Mercher nesaf, 25 Mawrth, a chyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio ddydd Llun, 6 Ebrill, yn dal i gael eu cynnal.
A oes modd i mi gael mynediad i wasanaethau cyngor Wrecsam o hyd?
Am nawr…
Mae’r Cyngor yn gyfrifol am amrywiaeth eang o wasanaethau a ddarperir gan tua 6,000 o staff. Am nawr, rydym yn parhau i ddarparu pob un o’r gwasanaethau hyn, ond gyda rhai aelodau o staff yn gweithio gartref.
Fe gynghorir y rheini na allant weithio gartref i ddilyn mesurau ‘cadw pellter cymdeithasol’.
Mae uwch dîm arweinyddiaeth y Cyngor yn gweithio o swyddfeydd y cyngor i ddarparu arweinyddiaeth weledol.
Mae cyngor yn cael ei roi i staff am sut i weithio gartref, gweithio mewn lleoliadau gofal cymdeithasol, rhoi gwybod am salwch/hunanynysu ac ati hefyd.
Fe’ch cynghorir i ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor yn y ffordd arferol, trwy ein gwefan a rhifau ffôn a gyhoeddwyd.
Wrth symud ymlaen…
Mae posibilrwydd y bydd y feirws yn effeithio’n ddifrifol ar ddarpariaeth gwasanaethau’r Cyngor, yn bennaf trwy leihau nifer staff y Cyngor, ei bartneriaid a’i gyflenwyr sydd ar gael i weithio (oherwydd eu bod wedi’u heffeithio’n uniongyrchol, yn cefnogi rhai sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol neu oherwydd na allant gyrraedd eu gwaith).
Mae effeithiau o’r fath yn debygol o bara am fisoedd yn hytrach nag wythnosau.
Mae gan wasanaethau’r Cyngor gynlluniau wrth gefn ar waith i ddelio ag effaith amrywiaeth o ddigwyddiadau mawr, gan gynnwys pandemigau, ac mae’r rhain wedi’u gweithredu.
Mae pwyslais penodol yn cael ei roi ar sicrhau bod gofal cymdeithasol, casgliadau gwastraff, addysg a thai yn barod pe bai niferoedd staff yn lleihau.
Os byddwn yn penderfynu cau adeiladau cymunedol fel llyfrgelloedd a chanolfannau adnoddau, byddwn yn rhoi gwybod am hyn yn y wasg ac ar ein gwefan.
Os bydd effeithiau’r feirws hwn yn ddifrifol, mae ‘Cynllun Parhad Busnes’ cyffredinol y Cyngor yn nodi tua 50 o swyddogaethau critigol y byddwn yn eu blaenoriaethu (gan gynnwys gofal cymdeithasol a chasgliadau gwastraff).
Yn amlwg, dim ond ar sail cyngor gwyddonol/meddygol cenedlaethol a chyfarwyddyd y Llywodraeth y caiff gwasanaethau’r cyngor eu lleihau i’r lefel frys hon.
Bydd hyn yn golygu y bydd rhai gwasanaethau a swyddogaethau eraill, fel rhedeg digwyddiadau neu benderfynu ar geisiadau cynllunio, yn cael eu gwneud ar sail gyfyngedig neu ddim o gwbl am gyhyd â chyfnod yr argyfwng.
Os bydd rhaid i ni wneud penderfyniad o’r fath, byddwn yn cyhoeddi datganiadau a gwybodaeth ar ein gwefan ac yn y wasg ac ati. Gofynnwn i chi gydnabod bod Covid-19 yn cyflwyno her fawr i bob cyngor a gofynnwn i chi fod yn amyneddgar.
Sut gallaf helpu pobl ddiamddiffyn yn fy nghymuned?
Ar wahân i gysylltu â’r Cyngor, fel a ddisgrifir uchod, gallwch:
Ofalu am eich cymdogion
Bydd gan lawer ohonoch gymdogion sy’n hŷn, ac rydych yn gwybod sydd â chyflyrau iechyd presennol neu sy’n hunanynysu fel arall.
Rhowch ganiad iddynt neu rhowch nodyn trwy eu drws i gynnig cymorth iddynt.
Gwirfoddoli i gefnogi eich cymuned
Mewn llawer o gymunedau, mae cynghorau cymuned, grwpiau Gwarchod Cymdogaeth a sefydliadau gwirfoddol wedi dosbarthu taflenni i’w preswylwyr i ofyn a ydynt yn hunanynysu ac a oes angen help arnynt gyda danfoniadau bwyd, mynd ag anifeiliaid anwes am dro, cyfeillio ac ati.
Maent wedi creu grwpiau Whatsapp, Facebook ac e-bost i gynorthwyo â hyn a defnyddio rhwydwaith o wirfoddolwyr i ‘gyfeillio’ â’r bobl sydd wedi gofyn am help ac wedi helpu’r rhai mwyaf diamddiffyn yn eu plith i gysylltu â NHS111 a/neu wasanaethau iechyd a chyngor lleol.
Enghraifft arall a welwyd yn y cyfryngau yw’r dull ‘cerdyn post cymunedol’.
Yn Wrecsam, mae grwpiau gwirfoddol a sefydliadau yn llunio cronfa o wirfoddolwyr i helpu â Covid-19. Er enghraifft, mae AVOW wedi cyfeirio pobl at lle gall gwirfoddolwyr gofrestru i helpu eu cymunedau.
Cefnogi eich cyngor cymuned
Oherwydd eu gwybodaeth leol a ffynonellau gwybodaeth a’u harweinyddiaeth gymunedol, mae gan gynghorau cymuned rôl bwysig i’w chwarae wrth gefnogi’r bobl fwyaf diamddiffyn yn eu cymunedau.
Er enghraifft gallant eu cyfeirio nhw a’u perthnasau at wefan y Cyngor a rhifau ffôn a gyhoeddwyd er mwyn cael mynediad i wasanaethau’r Cyngor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac NHS111 i gael cyngor meddygol.
Mae modd cysylltu â’r rhan fwyaf o gynghorau cymuned yn Wrecsam trwy eu gwefannau ac mae mwyafrif y cynghorwyr cymuned yn gynghorwyr bwrdeistref sirol hefyd.
Yn olaf…
Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym felly byddwn yn cyhoeddi hysbysiadau cyhoeddus pellach ar ein gwefan, yn y wasg ac ar gyfryngau cymdeithasol pan fo hynny’n briodol.