Mae’r nodyn hwn yn ddiweddariad i’r wybodaeth oedd yn y blog yma ddoe (26.3.20).
Prif negeseuon heddiw
• Rydym ni’n lleihau’r nifer o bobl gaiff fod yn bresennol yn yr amlosgfa o 30 person lawr i ddim mwy na 20 aelod o’r teulu agos.
• Cadwch bellter cymdeithasol yn ein parciau a mannau cyhoeddus, cadwch gŵn ar dennyn a chofiwch fod yr ardaloedd chwarae ar gau.
• Mae rhandiroedd garddio’n parhau ar agor, ond cofiwch gadw pellter cymdeithasol.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor
Dros y pythefnos diwethaf, bu’n rhaid i ni wneud llawer o newidiadau i’n gwasanaethau er mwyn ymateb i Covid-19.
Rydym wedi gwneud y newidiadau hyn er mwyn cefnogi mesurau Llywodraeth y DU, i helpu cadw ein gweithwyr yn ddiogel, ac i sicrhau y gallwn barhau i ddarparu ein gwasanaethau mwyaf pwysig (’allweddol’)…y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt.
Rydym wedi gwneud llawer o newidiadau mawr y mae angen i ni eu gwneud – wrth i bob un ohonom setlo mewn i’r ffordd o fyw newydd yma am y tro – efallai y bydd gennym lai i’w rannu â chi bob dydd, a dim ond pan fydd angen y diweddariadau hyn y byddwn ni’n eu cyhoeddi.
Ond gallwn eich sicrhau…byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i wasanaethau’r Cyngor allai effeithio arnoch chi.
Cofiwch ddilyn cyfarwyddiadau cadw pellter cymdeithasol y Llywodraeth. Arhoswch o leiaf ddau fetr i ffwrdd o unrhyw un nad ydych hi’n byw â nhw, a dim ond am y rhesymau canlynol y dylech adael y tŷ:
• Siopa am hanfodion sylfaenol megis bwyd.
• Ymarfer corff unwaith y dydd.
• Unrhyw angen meddygol, i ddarparu gofal neu i helpu unigolyn diamddiffyn.
• Teithio i’r gwaith ac yn ôl, dim ond pan fo hynny’n hollol angenrheidiol.
Daliwch i gadw pellter oddi wrth eich gilydd. Trwy gadw pellter oddi wrth ein gilydd, rydym yn achub bywydau, ac yn helpu Wrecsam i fod mor ddiogel â phosibl.
Rydym ni wedi rhoi’r wybodaeth ganlynol at ei gilydd i’ch helpu i ddeall y newidiadau diweddaraf i wasanaethau’r Cyngor.
Gwasanaethau’r amlosgfa
Yr wythnos diwethaf, fe wnaethom gyflwyno uchafswm o 30 person mewn gwasanaethau yn yr amlosgfa ym Mhentrebychan, er mwyn cefnogi cadw pellter cymdeithasol.
Bellach rydym yn lleihau’r nifer hwnnw i 20 aelod o deulu agos yr ymadawedig.
Fe wyddom ei bod yn amser anodd i deuluoedd sydd yn dymuno ffarwelio â’u hanwyliaid, a gobeithio fod pobl yn deall ein bod yn cyflwyno’r mesurau hyn er mwyn eu helpu i aros yn ddiogel a lleihau’r cyfleoedd i’r feirws ledaenu.
Parciau, mannau agored ac ardaloedd chwarae
Cofiwch gadw pellter cymdeithasol mewn parciau a mannau agored cyhoeddus.
Yn ôl y Llywodraeth, gall pobl adael eu cartrefi i ymarfer corff unwaith y dydd, ac rydym ni’n cydnabod y gall parciau a mannau agored fod yn llefydd i bobl fynd am dro ac ymarfer corff.
Serch hynny, dim ond eich parciau lleol y dylech chi eu defnyddio (ni ddylech yrru i barciau mewn rhannau eraill o’r fwrdeistref sirol) ac mae’n rhaid i chi gadw pellter cymdeithasol – aros o leiaf dau fetr i ffwrdd o unrhyw nad ydych chi’n byw â nhw.
Rydym ni hefyd yn gofyn i berchnogion cŵn gadw eu hanifeiliaid ar dennyn – i leihau’r siawns fod pobl yn dod yn agos at eu gilydd (er enghraifft, os bydd dau gi yn chwarae neu’n ymladd, a bod rhaid i’r perchnogion fynd yn agos i’w gwahanu). Felly, cofiwch gadw eich ci ar dennyn.
Yn olaf, cofiwch fod pob ardal chwarae sy’n cael eu rhedeg gan y cyngor wedi cau, peidiwch â’u defnyddio.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
Rhandiroedd garddio
Mae ein rhandiroedd garddio yn parhau ar agor, ond yr un yw’r neges…cadwch bellter cymdeithasol.
Felly os oes gennych chi randir, arhoswch o leiaf ddau fetr i ffwrdd o arddwyr eraill pan fyddwch chi’n garddio.
Cofiwch fod yn gyfrifol pan fyddwch chi’n cael gwared ar unrhyw wastraff gardd ar eich rhandir.
Gwastraff ac ailgylchu
Nodyn atgoffa – gwastraff gwyrdd
Ym mis Ebrill, roeddem ni fod i gyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff gardd newydd, lle byddai’n rhaid i breswylwyr dalu’n flynyddol.
Rydym yn gohirio cyflwyno’r gwasanaeth hwnnw, a byddwn yn parhau i gasglu gwastraff gardd pawb yn rhad ac am ddim cyn hired ag y gallwn.
Ni allwn roi unrhyw ad-daliad, ond os ydych chi eisoes wedi talu £25, fe gewch chi wasanaeth am 12 mis pan fydd y cynllun yn cychwyn…felly fyddwch chi ddim ar eich colled. Does dim rhaid i chi gysylltu â ni gan fod gennym gofnod llawn o’r cwsmeriaid sydd eisoes wedi talu.
Er mwyn helpu i ysgafnhau’r baich ar staff y Ganolfan Alwadau, ni fyddwn yn derbyn taliadau ar gyfer y cynllun newydd nes y clywir yn wahanol, a dim ond ymholiadau ar gyfer gwasanaethau allweddol y byddwn ni’n ymdrin â nhw.
Os nad ydych chi wedi talu, peidiwch â phoeni. Byddwn yn derbyn taliadau pan fydd yr argyfwng yma drosodd a phan fyddwn mewn sefyllfa i gyflwyno’r gwasanaeth newydd.
Mae ysgafnhau’r baich ar staff y Ganolfan Alwadau yn bwysig iawn gan y bydd pobl gyda chyflyrau iechyd presennol yn derbyn llythyrau gan y Llywodraeth dros y dyddiau nesaf, a bydd rhai ohonynt angen cysylltu â ni i gael cefnogaeth.
Felly mae’n bwysig fod ein staff ar gael i’w helpu nhw.
Os ydych chi angen cysylltu â ni, e-bostiwch contact-us@wrexham.gov.uk neu ewch i’n gwefan.
Ysgolion
Nodyn atgoffa – prydau ysgol am ddim
Rydym ni’n gweithio’n galed i geisio darparu prydau ysgol am ddim i blant sydd ddim yn mynd i’r ysgol ar hyn o bryd.
Os oes gan eich plentyn hawl i gael prydau ysgol am ddim, gallwch gasglu pecyn cinio ar ddiwrnodau ysgol arferol o un o’r safleoedd canlynol.
• Swyddfa Ystâd Parc Caia
• Swyddfa Stad Plas Madoc
• Swyddfa Ystâd Brychdyn
• Swyddfa Ystâd Gwersyllt
• Swyddfa Ystâd Rhod (Stiwt)
• Neuadd Goffa Wrecsam
• Plas Pentwyn, Coedpoeth
• Canolfan Adnoddau Llai
• Llyfrgell Owrtyn (Ystafelloedd Cocoa)
• Ysgol y Waun
Fe allwch fynd i’r safle agosaf.
Rhaid i riant neu ofalwr gasglu’r pecyn cinio rhwng 11.30am a 1pm.
Bydd angen i chi roi enw eich plentyn/plant ac enw’r ysgol y maent yn mynychu, a dim ond ar gyfer eich plentyn/plant eich hun y gallwch gasglu pecyn cinio.
Parhewch i ddilyn mesurau cadw pellter cymdeithasol.
Allwch chi helpu fel gwirfoddolwr?
Fe allwch chi gofrestru fel gwirfoddolwr posibl i helpu staff i ddarparu gwasanaethau rheng flaen ac i gefnogi cyfeillio cymunedol.
Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam yn annog pobl i gofrestru.
Nodyn i’ch atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19
Caiff gwybodaeth ddiweddaraf am y feirws a’r beth ddylai pobl wneud amdano ei darparu trwy:
• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys y Prif Weinidog).
• Mewn briffiau swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.
Mae’r sefyllfa hon yn newid yn gyflym iawn, felly byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth fel y bo angen ac fel y bo’n briodol.
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19