Covid 19
Mae’r nodyn hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn yr hyn a gyhoeddwyd ar y blog hwn ddydd Llun (7.5.20).

Negeseuon allweddol ar gyfer heddiw

  • Ddydd Sul, mae disgwyl i’r Llywodraeth amlinellu rhai newidiadau a fydd o bosibl yn llacio rhai o’r cyfyngiadau. Fodd bynnag, mae’n hollbwysig nad ydym yn rhoi’r ceffyl o flaen y drol, a’n bod yn parhau i gydymffurfio â’r rheolau presennol nes y bydd unrhyw newidiadau wedi’u cadarnhau. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy’r briffiau rheolaidd hyn.
  • Ni fydd unrhyw newidiadau i gasgliadau biniau ddydd Gwener gŵyl y banc. Byddwn yn gwagu eich biniau a chasglu eich gwastraff ailgylchu yn ôl yr arfer.
  • Ma elusennau sydd wedi’u lleoli mewn safleoedd sydd â gwerth ardrethol o lai na £12,000 bellach yn gymwys am grantiau busnes.
Ian Bancroft – Prif Weithredwr
Mark Pritchard – Arweinydd y Cyngor

Fe welwn ni chi eto … ond nid dros y penwythnos hwn

Ddydd Sul, mae disgwyl i’r Llywodraeth amlinellu sut fydd y DU yn codi’r cyfyngiadau ar symud yn y pen draw, a rhai newidiadau a fydd o bosibl yn llacio rhai o’r cyfyngiadau.

Mae’r cyfyngiadau ar symud wedi cael effaith sylweddol ar ein bywydau, felly mae’n naturiol ein bod yn awyddus i glywed beth sydd gan y Prif Weinidog i’w ddweud.

Fodd bynnag, gyda phenwythnos gŵyl y banc o’n blaenau, mae’n bwysig cofio nad oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud eto, ac mae’r neges yn glir…

Aros gartref, arbed bywydau, diogelu’r GIG.

Cadwch at y rheolau cadw pellter cymdeithasol, dylech ond teithio i brynu nwyddau hanfodol, megis bwyd ac ati, a gwnewch ymarfer corff yn lleol. Peidiwch â chael eich temtio i neidio i’r car a gyrru i un o’n parciau.

Ac os ydych chi’n bwriadu dathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop (VE) yfory, gwnewch hynny yn eich cartrefi os gwelwch yn dda.

Mae Covid-19 yn golygu na allwn ddathlu’r digwyddiad hwn fel yr oeddem wedi ei obeithio, ond mae’r genedl wedi gweithio gyda’i gilydd i feddwl am nifer o ffyrdd gwych a diogel y gallwn nodi Diwrnod VE.

Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr erthygl blog a gyhoeddwyd gennym ddoe.

VE Day

Mae bob un ohonom yn gwybod y bydd y broses o godi’r cyfyngiadau ar symud yn broses hir a graddol, ac nad oes modd troi swîts i bethau fynd ‘yn ôl i’r arfer.’

Felly, mae’n hollbwysig nad ydym yn rhoi’r ceffyl o flaen y drol, a’n bod yn parhau i gydymffurfio â’r rheolau presennol nes y bydd unrhyw newidiadau wedi’u cadarnhau.

Mwynhewch y penwythnos hir, arhoswch yn ddiogel, a gadewch i ni weld beth fydd gan y Llywodraeth i’w ddweud ddydd Sul.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Dim newidiadau i gasgliadau biniau ddydd Gwener gŵyl y banc

Byddwn yn gwagu eich biniau a chasglu eich gwastraff ailgylchu yn ôl yr arfer yfory (dydd Gwener, 8 Mai).

Felly, os mai dydd Gwener yw eich diwrnod casgliadau arferol, rhowch eich biniau a’ch ailgylchu allan yn ôl yr arfer… ni fydd gŵyl y banc yn cael effaith o gwbl ar eich casgliadau.

Ewch i gael golwg ar yr erthygl a gyhoeddwyd gennym yn gynharach yr wythnos hon, a helpwch ni i gasglu eich ailgylchu yn ddiogel.

Mae elusennau bellach yn gallu gwneud cais am grantiau busnes

Newyddion da i elusennau yn Wrecsam…

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cadarnhau fod sefydliadau elusennol sydd wedi’u lleoli mewn safleoedd sydd â gwerth ardrethol o lai na £12,000 bellach yn gymwys am grant o £10,000 sydd ar gael i fusnesau.

Mae elusennau y gwrthodwyd grant iddynt yn flaenorol gan nad oeddent yn derbyn Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach bellach yn gallu gwneud cais.

I gyflwyno cais, ymwelwch â’n gwefan.

Rydym eisoes wedi talu mwy na £20 miliwn i 1,667 o fusnesau yn Wrecsam.

Os ydych chi eisoes wedi cyflwyno cais, ac yn awyddus i ddiweddaru eich cais, anfonwch e-bost at businessrates@wrexham.gov.uk

Nodyn atgoffa – ffynonellau dibynadwy o wybodaeth am Covid-19

Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y feirws a’r hyn y dylai pobl wneud yn ei gylch yn cael ei darparu trwy:

• Ddatganiadau dyddiol ar y teledu gan y Llywodraeth (gan gynnwys gweinidogion y Llywodraeth) am tua 5pm.
• Datganiadau dyddiol gan Lywodraeth Cymru am tua 12.30pm.
• Sesiynau briffio swyddogol dyddiol gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol am 2pm, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am 3pm.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19

Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 4.5.20